Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau

Part of 2. Cwestiynau i’r Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd – Senedd Cymru am 2:30 pm ar 15 Rhagfyr 2021.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Samuel Kurtz Samuel Kurtz Conservative 2:30, 15 Rhagfyr 2021

(Cyfieithwyd)

Diolch, Lywydd, ac yn gyntaf, a gaf fi ddechrau drwy ddymuno Nadolig llawen iawn i'r Gweinidog a thrwy ddiolch iddi am y ddeialog onest ac agored a gafodd hi a minnau ynglŷn â'r portffolio hwn?

Weinidog, rwyf wedi crybwyll arian cynllun datblygu gwledig nas gwariwyd neu a gamwariwyd yn y Siambr ar sawl achlysur eisoes, a hoffwn ganolbwyntio ar y cynllun 'coeden am ddim i bob cartref' y gwnaethpwyd sioe fawr o'i gyhoeddi ar 6 Rhagfyr gan y Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd. O ystyried bod y cyllid ar gyfer plannu coed o fewn eich portffolio chi, yn eich llaw chi y mae'r pwrs, fel petai. Felly, a allwch chi roi manylion am gost y cynllun hwn, boed yn arian newydd neu'n arian wedi'i ailddyrannu, ac yn olaf, a allwch roi sicrwydd, os yw'n arian wedi'i ailddyrannu, nad yw'n arian a fyddai'n mynd fel arall tuag at gefnogi'r diwydiant amaethyddol?