Part of 2. Cwestiynau i’r Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd – Senedd Cymru am 2:55 pm ar 15 Rhagfyr 2021.
Weinidog, rwyf wedi clywed llawer o alwadau gan bobl yn ein cymunedau gwledig sy'n credu ei bod bellach yn bryd gwneud teledu cylch cyfyng yn orfodol yn ein lladd-dai, fel y mae yn Lloegr. Er fy mod yn deall y rhesymau dros gyflwyno cynllun gwirfoddol, a all y Gweinidog gadarnhau faint o ladd-dai yng Nghymru sydd â theledu cylch cyfyng erbyn hyn, a faint sydd heb un? Ac wrth wneud hynny, pa asesiad y mae wedi'i wneud o effaith y cynllun presennol? Diolch.