Part of 2. Cwestiynau i’r Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd – Senedd Cymru am 2:45 pm ar 15 Rhagfyr 2021.
Fel y dywedais yn fy ateb cynharach i Vikki Howells, mater i'r Gweinidog Newid Hinsawdd yw hwn, ond yng ngoleuni dyfarniad y llys yn ddiweddar, rwy'n credu bod hynny'n rhywbeth y bydd yn ei ystyried yn ofalus, i sicrhau bod y rhai sy'n gyfrifol am dir sy'n eiddo cyhoeddus yng Nghymru yn gwahardd hela trywydd yn barhaol.