Part of 2. Cwestiynau i’r Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd – Senedd Cymru am 2:41 pm ar 15 Rhagfyr 2021.
Diolch. Nid wyf yn gallu rhoi amser penodol i chi, oherwydd mae hwn yn waith sydd ar y gweill. Cyfarfûm â Chymdeithas y Ffermwyr Tenant yn y ffair aeaf, unwaith eto—manteisiais ar y cyfle i gyfarfod â chryn dipyn o bobl wyneb yn wyneb y mis diwethaf—ac rwy'n cytuno; credaf fod llawer o broblemau'n codi gyda ffermwyr tenant nad ydych yn eu cael, yn amlwg, gyda ffermwyr sy'n berchen ar y tir eu hunain, a chredaf ei bod yn bwysig iawn inni ei gael yn iawn. Felly, mae'n galw am fwy nag edrych ar un darn o'r ddeddfwriaeth yn unig; mae angen edrych ar y cyfan mewn ffordd gyfannol. Felly, rwy'n gwybod bod swyddogion yn parhau i gyfarfod. Rwy'n disgwyl cyngor pellach, yn ôl pob tebyg—wel, bydd hynny yn y flwyddyn newydd, ond nid wyf yn gwybod pa mor gyflym yn y flwyddyn newydd. Ond unwaith eto, pan gawn ragor o wybodaeth, byddaf yn hapus iawn i'w rhannu gyda chi.