Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau

Part of 2. Cwestiynau i’r Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd – Senedd Cymru am 2:37 pm ar 15 Rhagfyr 2021.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Llyr Gruffydd Llyr Gruffydd Plaid Cymru 2:37, 15 Rhagfyr 2021

(Cyfieithwyd)

Diolch, Weinidog. Rwy'n credu ei bod yn bwysig nad ydym yn tybio bod y gwaith ar ben, oherwydd yn amlwg, dechrau'r daith yw hyn, a hoffem ei weld yn cael ei wneud cyn gynted â phosibl. Diolch.

Nawr, agwedd hanfodol arall ar gymorth i bobl ifanc yn y sector amaethyddol yw cymorth iechyd meddwl wrth gwrs. Ym mis Hydref, mewn ymateb i gwestiwn gan fy nghyd-Aelod Plaid Cymru, Cefin Campbell, fe ddywedoch chi fod cefnogaeth i elusennau iechyd meddwl yn y sector ffermio, ac rwy'n dyfynnu,

'yn rhywbeth rwy'n cadw llygad barcud arno, ac os oes unrhyw beth arall y gallaf ei wneud i helpu, rwy'n sicr yn hapus i wneud hynny.'

Nawr, yn ddiweddar, yn y ffair aeaf,  mynegodd Sefydliad DPJ bryderon, er eu bod yn cael rhywfaint o gefnogaeth ar hyn o bryd gan Lywodraeth Cymru wrth gwrs, nad oes sicrwydd mwy hirdymor o gyllid. Ac rwy'n gwybod y byddai sefydliadau iechyd meddwl gwledig eraill yn rhannu'r un pryder. Felly, o ystyried eich ymrwymiadau blaenorol ar lawr y Senedd, a chyn cyhoeddi'r gyllideb yr wythnos nesaf wrth gwrs, a allech ddweud wrthym a ydych yn bwriadu cyflwyno cynllun ariannu hirdymor ar gyfer elusennau iechyd meddwl fel Sefydliad DPJ?