Part of 2. Cwestiynau i’r Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd – Senedd Cymru am 2:42 pm ar 15 Rhagfyr 2021.
Diolch, Weinidog. Tynnodd achos Hankinson sylw at y ffordd roedd hela trywydd wedi dod yn llen fwg i gelu hela anifeiliaid byw yn anghyfreithlon, a chwta bedwar diwrnod yn ôl, cafodd meistr y Western Hunt ei erlyn yn llwyddiannus o dan Ddeddf Cŵn Peryglus 1991 am ddigwyddiad a ddigwyddodd wrth esgus hela trywydd. Hoffwn adleisio'r cais a wnaed i chi gan fy nghyd-Aelod, Joyce Watson, yn y datganiad busnes yr wythnos diwethaf: a wnaiff Llywodraeth Cymru ymrwymo i wahardd hela trywydd ar bob tir cyhoeddus, rhywbeth sy'n amlwg yn angenrheidiol os ydym am gynnal y safonau lles anifeiliaid uchaf yng Nghymru?