Part of 2. Cwestiynau i’r Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd – Senedd Cymru am 2:43 pm ar 15 Rhagfyr 2021.
Weinidog, a barnu yn ôl eich ymateb felly, mae'n hysbys ac yn cael ei dderbyn yn eang nad oes gan y Blaid Lafur sy'n rhedeg Llywodraeth Cymru fawr o ddealltwriaeth o'r ffordd wledig o fyw na chefn gwlad, a chredaf fod penderfyniad diweddar Cyfoeth Naturiol Cymru i wahardd hela trywydd ar ei dir yn anghywir. Nid hela, a waharddwyd yn Neddf Hela 2004, yw hela trywydd. Mae hela trywydd yn weithgaredd cwbl gyfreithlon; nid yw'n golygu mynd ar drywydd mamaliaid. Felly, ni fydd y gwaharddiad hwn yn cael unrhyw effaith ar les anifeiliaid, fel y nodwyd gennych chi a'r Aelod arall. Mae'r codi bwganod ar y pwnc hwn wedi bod yn rhemp. Mae'r dyfarniad CNC hwn yn ymosodiad arall ar y ffordd wledig o fyw gan sefydliadau'r Llywodraeth ac unigolion 'effro' sy'n ceisio dod â thraddodiadau gwledig i ben drwy ledaenu anwireddau. A wnaiff y Gweinidog gyfarfod â mi, Cyfoeth Naturiol Cymru a rhanddeiliaid perthnasol yn awr i gael trafodaeth wybodus ac i edrych ar y dystiolaeth a datrys y penderfyniad gwael hwn? Diolch, Ddirprwy Lywydd.