Part of 2. Cwestiynau i’r Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd – Senedd Cymru am 3:06 pm ar 15 Rhagfyr 2021.
Diolch. Rydych yn llygad eich lle, bydd amaethyddiaeth a chynhyrchu bwyd bob amser yn cynhyrchu nwyon tŷ gwydr am eu bod yn dibynnu ar brosesau naturiol, ond rydym yn parhau i fynd i'r afael â her lleihau'r nwyon tŷ gwydr sy'n deillio o ffermio tra'n cynnal cynhyrchiant bwyd o ansawdd uchel.
Mae'r Llywodraeth eisoes wedi rhoi cryn dipyn o gymorth i'r sector mewn perthynas â hyn; mae hynny'n cynnwys cynlluniau Glastir, er enghraifft, ar gyfer gwella bioamrywiaeth tir yng Nghymru. Rydym hefyd wedi cael y cynllun datblygu cadwyni cyflenwi a chydweithio. Ac mae'r cynlluniau hynny wedi caniatáu i'n ffermwyr fuddsoddi mewn offer newydd a thechnoleg newydd, ac maent wedi gwella gwytnwch a chynaliadwyedd y cadwyni cyflenwi amaethyddol. Soniodd Joel James am y cynllun ffermio cynaliadwy rydym yn ei gynnig, a fydd yn sicr yn helpu ein ffermwyr mewn perthynas â hynny, felly mae hwn yn amlwg yn gynllun rydym ar fin ei gychwyn. Rwy'n chwilio am ffermwyr i gofrestru ar gyfer ail ran y gwaith, a fydd yn digwydd yn yr haf, gan ei bod yn bwysig iawn fod y ffermwyr yn cyd-lunio'r cynllun gyda ni.