Ailgartrefu Cŵn

Part of 2. Cwestiynau i’r Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd – Senedd Cymru am 3:01 pm ar 15 Rhagfyr 2021.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Lesley Griffiths Lesley Griffiths Labour 3:01, 15 Rhagfyr 2021

(Cyfieithwyd)

Diolch. Byddwn yn fwy na pharod i gyfarfod â hwy, yn ôl pob tebyg ar ôl i'r Pwyllgor Deisebau glywed a gweld eu deiseb ac ar ôl iddi gael ei chyflwyno, os caiff ei chyflwyno, i Lywodraeth Cymru i'w hystyried. Credaf y byddai'n fwy priodol imi gyfarfod â hwy wedi hynny. Byddwch wedi clywed fy ateb i Jane Dodds; yn amlwg, clywais wybodaeth bellach nad oeddwn yn ymwybodol ohoni gan Jane, a byddwn yn fwy na pharod i edrych ar yr hyn y gallwn ei wneud.