Anffurfio Anghyfreithlon

Part of 2. Cwestiynau i’r Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd – Senedd Cymru am 3:07 pm ar 15 Rhagfyr 2021.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Lesley Griffiths Lesley Griffiths Labour 3:07, 15 Rhagfyr 2021

(Cyfieithwyd)

Diolch. Mewn cydweithrediad â'r heddlu, mae prosiect gorfodi'r awdurdodau lleol, a ariennir gan y Llywodraeth, yn coladu gwybodaeth am unrhyw un yr amheuir eu bod yn tocio clustiau cŵn fel y gall yr awdurdod lleol perthnasol roi camau ar waith. Yn ogystal, nod y Bil Lles Anifeiliaid (Anifeiliaid a Gedwir) sydd ar y ffordd yw ceisio cyfyngu ar fewnforio cŵn a chŵn bach sydd wedi eu hanffurfio, er enghraifft drwy docio clustiau.