Part of 2. Cwestiynau i’r Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd – Senedd Cymru am 3:08 pm ar 15 Rhagfyr 2021.
Diolch. Soniais am brosiect gorfodi'r awdurdodau lleol—mae'n brosiect cyllido tair blynedd rwyf wedi’i gefnogi i sicrhau bod awdurdodau lleol yn cael eu cynorthwyo i ymateb i bryderon yn eu hardaloedd. Mae'r cynllun lles anifeiliaid rwyf wedi'i gyflwyno ar gyfer tymor pum mlynedd y Llywodraeth hon wedi'i wneud mewn partneriaeth, ac rydym wedi gwrando ar bryderon awdurdodau lleol a sefydliadau'r trydydd sector.
Byddwn yn sicr yn fwy na pharod i edrych ar yr hyn y gallwn ei wneud i godi ymwybyddiaeth yn ogystal ag addysgu, gan y credaf fod hynny'n bwysig iawn; os ydym yn mynd i gael ymgyrch, rwy'n credu y dylid canolbwyntio ar ymwybyddiaeth wrth gwrs, ond credaf fod angen canolbwyntio i'r un graddau ar addysgu pobl fel eu bod yn sylweddoli pa mor greulon yw'r arfer hwn.