8. Dadl y Ceidwadwyr Cymreig: Ymchwiliad cyhoeddus annibynnol i bandemig COVID-19 yng Nghymru

Part of the debate – Senedd Cymru am 5:13 pm ar 15 Rhagfyr 2021.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Andrew RT Davies Andrew RT Davies Conservative 5:13, 15 Rhagfyr 2021

(Cyfieithwyd)

Diolch, Lywydd, ac a gaf fi ddiolch i bawb sydd wedi cyfrannu at y ddadl y prynhawn yma? Nid ydym yn ymddiheuro am ddod â'r ddadl hon gerbron y Senedd eto, gan fod Russell George wedi dweud yn gwbl glir yn ei sylwadau agoriadol fod y Ceidwadwyr Cymreig wedi bod yn hyrwyddo'r achos hwn dros y 18 mis diwethaf. Mae'n hanfodol fod Cymru'n cael ei hymchwiliad annibynnol ei hun, ac os caf ddefnyddio geiriau'r Gweinidog ei hun o gyfraniadau ddoe yn y datganiad iechyd a gyflwynodd ar brofion a chyflwyno'r brechlyn atgyfnerthu yma yng Nghymru, yr hyn a ddywedodd oedd,

'Dwi ddim yn gwybod o ble mae pobl yn cael y syniad ein bod ni'n ei wneud e yn y ffordd maen nhw yn Lloegr. Dŷn ni ddim.'

A dyna'r peth allweddol yma. Mae Cymru wedi dilyn trywydd gwahanol ar lawer o faterion, fel y nodwyd mewn llawer o gyfraniadau y prynhawn yma: Laura Anne Jones yn sôn am y penderfyniadau sy'n newid bywydau y mae gwahanol Weinidogion wedi'u gwneud; Rhun ap Iorwerth yn dweud na ddylai Cymru fod yn bennod mewn ymchwiliad ar gyfer y DU; Delyth Jewell a Heledd Fychan yn tynnu sylw, yn achos Heledd, at nifer y marwolaethau yn ardal Canol De Cymru, ond yn achos Delyth, y mater penodol ynghylch cartrefi gofal a rhyddhau i gartrefi gofal. Mae'r rhain yn faterion na ellir ymdrin â hwy'n unig mewn ymchwiliad ehangach ar gyfer y DU. Mae angen edrych arnynt yn benodol yng nghyd-destun Cymru, oherwydd fe wnaed y penderfyniadau gan Weinidogion Cymru. 

A chredaf mai'r hyn sy'n dweud cyfrolau heddiw hefyd—a chredaf ei fod braidd yn siomedig a dweud y lleiaf, os nad yn peri gofid—yw nad oes yr un Aelod Llafur wedi cyfrannu at y ddadl hon. Ni allaf feddwl am unrhyw ddigwyddiad arall yn fy oes i sydd wedi cael cymaint o effaith ar fywyd yng Nghymru, yn y DU, ac ar draws y byd. Diolch byth, nid wyf yn ddigon hen i gofio'r rhyfeloedd byd, nac unrhyw ddigwyddiadau mawr fel yna, ond mae'r pandemig hwn wedi cyffwrdd â phob cwr o'r byd, pob cornel o'r Deyrnas Unedig, a phob rhan o Gymru. Ac i'r 9,000 o bobl sydd wedi colli eu bywydau, mae'r teuluoedd a adawyd ar ôl yn haeddu atebion. Maent yn haeddu atebion i gwestiynau difrifol y maent eisiau eu gofyn am y ffordd yr ymdriniwyd â materion mewn cartrefi gofal, mewn ysbytai, a'r gymuned ehangach.

Ar y pwynt a wnaeth Gareth yn enwedig ynghylch gweithredoedd y Prif Weinidog mewn perthynas â gorchuddion wyneb, pan ddywedodd y Prif Weinidog ei hun nad oeddent ar waelod ei restr hyd yn oed—nid oeddent ar ei restr o gwbl ar y pryd hyd yn oed, yr haf diwethaf. Mae'n hawdd anghofio'r pethau hyn, ond roedd y camau a gymerwn yn ganiataol yn awr yn araf yn cael eu gweithredu, a thynnodd Gareth sylw at hynny yn ei gyfraniad. Nododd Janet, yn arbennig, y rheol pum milltir a'r effaith ar gymunedau gwledig, ac yna aeth ymlaen i sôn am y problemau gyda'r llythyrau a aeth ar goll i bobl a oedd yn gwarchod ar ddechrau'r pandemig. Mae'r rhain i gyd yn feysydd y gallai ymchwiliad ymdrin â hwy o dan Ddeddf Ymchwiliadau 2005, oherwydd gadewch inni beidio ag anghofio, gwleidyddion fyddai'n cytuno i sefydlu'r ymchwiliad, ond wedi ei sefydlu, byddai'n cael ei lywodraethu gan y Ddeddf Ymchwiliadau, sy'n benodol iawn yn y ffordd y byddai'r cylch gorchwyl yn cael ei lunio a'r ffordd y byddai'r cadeirydd yn gweithredu.

Rwy'n croesawu'r ffaith bod Boris Johnson wedi cyhoeddi penodiad cadeirydd y DU heddiw. Mae hynny'n rhan hanfodol o'r fargen—y fargen a wnaeth Prif Weinidog y DU pan ddywedodd y byddai'n sefydlu ymchwiliad o'r fath, ac mae'n glynu wrth y fargen honno. Ond ni allaf ddeall yn fy myw pam y mae Prif Weinidog Cymru, a'r Llywodraeth Lafur, ac yn wir y Blaid Lafur, rwy'n tybio—ac eithrio Chris Evans, Aelod Seneddol Islwyn, sy'n credu y dylem gael ymchwiliad cyhoeddus—yn y bôn yn gwrthod gadael i'r ymchwiliad cyhoeddus hwn ddigwydd. Mae'n hanfodol fod teuluoedd y 9,000 o bobl sydd wedi marw yn y pandemig hwn yn cael yr atebion y maent yn gofyn amdanynt. Fe'i gwnaed yn gwbl glir ar y pryd y byddai ymchwiliad yn cael ei gynnal, ac roedd llawer ohonom, fel y nodwyd yn y cyfraniadau a wnaed y prynhawn yma, yn credu'n wirioneddol y byddai hwnnw'n ymchwiliad cyhoeddus i Gymru, yn hytrach nag ymchwiliad i'r DU gyfan yn unig.

Mae'r Alban wedi profi y gellir ei wneud yng nghyd-destun perthynas yr Alban/y DU. Fel unoliaethwr balch, rwyf eisiau gweld ymchwiliad ledled y DU, ond fel datganolwr hefyd, rwy'n deall yn iawn fod penderfyniadau wedi'u gwneud yma yng Nghymru sy'n benodol i Gymru. Mae'r consortiwm eang sydd wedi dod at ei gilydd i alw am yr ymchwiliad hwn—o'r comisiynydd pobl hŷn i Covid-19 Bereaved Families for Justice Cymru, i'r Sefydliad Materion Cymreig, consensws eang o'r gymdeithas yng Nghymru—wedi tynnu sylw at ba mor bwysig yw hi fod y cyfnod mwyaf trawmatig ym mywydau'r rhan fwyaf o bobl yn cael ei brofi'n iawn o dan ficrosgop ymchwiliad annibynnol. Rwy'n gobeithio y bydd Aelodau o bob plaid wleidyddol heno yn cymeradwyo cynnig y Ceidwadwyr sydd ger eu bron. Cyfeiriais at Chris Evans, Aelod Seneddol Llafur Islwyn. Ni allwn ei roi yn well fy hun. Dywedodd: 

'Nid wyf yn credu mai mater gwleidyddol yw hwn, mater moesol ydyw.'

Mae gennym gyfrifoldeb moesol i sicrhau bod ymchwiliad cyhoeddus yn cael ei gynnal. Rwy'n gobeithio y bydd yr Aelodau Llafur mwy eangfydig ar y meinciau cefn yn cytuno â meddylfryd Chris Evans ac yn dangos eu cryfder moesol drwy bleidleisio gyda'r Ceidwadwyr a Phlaid Cymru a'r Democratiaid Rhyddfrydol heno dros gyflwyno'r ymchwiliad annibynnol. Fel y dywedais o'r blaen, crynhodd y Gweinidog iechyd y cyfan yn berffaith ddoe yn ei sylwadau pan ddywedodd, 'Nid Lloegr ydym ni. Nid ydym yn ei wneud yn yr un ffordd â Lloegr.' Felly, gadewch inni brofi'r hyn a wnaeth Llywodraeth Cymru. Gadewch inni brofi'r effeithiau hynny. Gadewch inni adeiladu'r mesurau diogelwch ar gyfer clefydau pandemig yn y dyfodol, a sicrhau ein bod yn adeiladu Cymru well, fel y gallwn wrthsefyll y llymder a'r heriau y gallem eu hwynebu yn y dyfodol. Gadewch inni bleidleisio dros y cynnig hwn heno. Rwy'n annog yr holl Aelodau i ganiatáu i'r ymchwiliad cyhoeddus hwnnw ddigwydd, fel y gallwn sicrhau cyfiawnder i'r bobl sy'n galaru yma yng Nghymru.