1. Datganiad gan y Prif Weinidog: Diweddariad ar COVID-19

Part of the debate – Senedd Cymru am 1:40 pm ar 22 Rhagfyr 2021.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Mark Drakeford Mark Drakeford Labour 1:40, 22 Rhagfyr 2021

(Cyfieithwyd)

Erbyn hyn mae gennym boblogaeth sydd wedi ei brechu i raddau helaeth, ac mae'r pigiad atgyfnerthu'n cael ei gyflwyno'n gyflym ym mhob rhan o Gymru. Ac yn awr, mae gennym yr amddiffyniad sy'n dod drwy ddefnyddio profion llif unffordd, profion y mae pawb ohonom wedi arfer eu defnyddio ac sydd ar gael yn eang. A bron i ddwy flynedd ers dechrau'r pandemig, mae pob un ohonom wedi dysgu llawer ynglŷn â sut y gallwn ddiogelu ein hunain a'r bobl sy'n bwysig i ni.

Dyma'r amser i atgyfnerthu'r ymdrechion hynny, gan ddefnyddio popeth rydym wedi'i ddysgu gyda'n gilydd. Mae omicron yn ffynnu ar gyswllt dynol. Mae pob cyswllt a gawn yn gyfle inni ledaenu neu ddal y feirws. Rydym ar ein mwyaf agored i gael ein heintio yn y cartref, wedi ein hamgylchynu gan ein teulu a'n ffrindiau. Felly, er mwyn cadw'n ddiogel yn y mannau preifat hynny, rydym yn cynghori pawb i gadw at bum mesur syml. Yn gyntaf oll, cyfyngwch ar nifer y bobl sy'n ymweld â'ch cartref. Os yw pobl yn ymweld â chi neu os ydych yn ymweld â phobl eraill, gwnewch y prawf llif unffordd—cyn i chi fynd—fel eich bod yn gwybod eich bod yn ddiogel cyn i'r ymweliad ddigwydd. Os gallwch gwrdd yn yr awyr agored, mae'n fwy diogel na chyfarfod dan do, ac os oes rhaid i chi gyfarfod dan do, gwnewch bopeth yn eich gallu i sicrhau bod y lle hwnnw wedi'i awyru'n dda. Rhowch amser rhwng yr ymweliadau—os ydych yn gweld teulu a ffrindiau, peidiwch â chwrdd â phawb i gyd ar yr un pryd, a pheidiwch ag anghofio'r pethau sylfaenol, y pethau rydym i gyd wedi dysgu eu gwneud, y pellter cymdeithasol, parchu pobl eraill, golchi dwylo ac yn y blaen. Er y byddwn yn dibynnu ar gyngor ac arweiniad cryfach yn y mannau preifat hynny, byddwn yn adfer y drosedd ar wahân o gynulliadau mawr—sef mwy na 30 o bobl dan do neu fwy na 50 o bobl yn yr awyr agored—a bydd hynny'n berthnasol mewn cartrefi a gerddi preifat, yn ogystal ag mewn lleoliadau a reoleiddir.

Wrth gwrs, Lywydd, rydym am i'r mesurau hyn fod ar waith am yr amser byrraf posibl, yn gyson â'r argyfwng iechyd cyhoeddus, a byddwn yn eu hadolygu yn ein cylch tair wythnos, ac ar hyn o bryd, yn fwy rheolaidd na hynny hyd yn oed.

Nawr, mae symud i lefel rhybudd 2 wedi'i gynllunio i helpu busnesau i barhau i fasnachu tra'n cryfhau mesurau i ddiogelu iechyd pobl yn wyneb y don omicron. Ond rydym yn cydnabod, wrth gwrs, y bydd effaith anochel ar fusnesau. Yr wythnos diwethaf, gwnaethom gyhoeddi cyllid newydd o £60 miliwn i gefnogi'r busnesau hynny. Heddiw, rydym yn dyblu'r swm hwnnw i £120 miliwn o gymorth newydd i fod ar gael ar gyfer clybiau nos, digwyddiadau, manwerthu, a busnesau lletygarwch, hamdden a thwristiaeth yr effeithiwyd arnynt gan y symud i lefel rhybudd 2. Bydd yn cynnwys cymorth i weithwyr llawrydd, gan adlewyrchu llwyddiant ein cynllun unigryw i Gymru a oedd ar gael yn gynharach yn y pandemig. Bydd Gweinidog yr economi yn cyhoeddi rhagor o fanylion am y cymorth hwn yfory. Yn ystod y dyddiau diwethaf, rydym wedi lansio dwy gronfa ar wahân i gefnogi digwyddiadau a lleoliadau chwaraeon a sefydliadau diwylliannol a chelfyddydol.

Lywydd, mae'r cyd-destun ehangach rydym yn gwneud y penderfyniadau hyn ynddo hefyd yn parhau i newid yn gyflym. Mae'r Gweinidog iechyd yn cyhoeddi newidiadau heddiw i'r rheolau hunanynysu ar gyfer oedolion sydd wedi'u brechu'n llawn a phlant rhwng pump ac 17 oed sy'n gysylltiadau i rywun sydd wedi cael prawf positif ar gyfer COVID-19. Gofynnir iddynt gymryd prawf llif unffordd dyddiol am saith diwrnod yn hytrach na hunanynysu. Dyma yw'r hyn a elwir yn drefn profion dyddiol i bawb sy'n dod i gysylltiad ag achos positif. Bydd pawb sy'n cael profion dyddiol negyddol yn cael parhau i fynd i'r gwaith fel arfer, tra'n dilyn yr holl gamau eraill rydym yn gwybod eu bod yn helpu i gadw eu hunain yn ddiogel. Heddiw, mae'r Gweinidog iechyd hefyd yn derbyn cyngor gan y prif swyddog meddygol am newidiadau posibl i drefniadau hunanynysu i'r rhai sy'n mynd yn sâl. Heddiw hefyd, rydym yn disgwyl yr argymhellion sydd ar y ffordd gan y Cyd-bwyllgor ar Imiwneiddio a Brechu ynghylch brechu plant ifanc.

Lywydd, rydym bellach yn dechrau ar gyfnod difrifol iawn arall yn y pandemig hwn ac mae angen inni wneud popeth yn ein gallu i ddiogelu ein hunain a chadw Cymru'n ddiogel wrth i Gymru ailagor ar ôl y Nadolig. Mae'r Llywodraeth wedi adolygu'r holl dystiolaeth wyddonol a'r data iechyd cyhoeddus sy'n datblygu'n gyflym ac rydym yn parhau i wneud penderfyniadau angenrheidiol i ddiogelu bywydau a bywoliaeth pobl. Gyda chefnogaeth pobl ledled Cymru, fe wnawn oroesi’r storm hon, a daw dyddiau gwell eto y tu hwnt i'r amrywiolyn omicron. Lywydd, diolch yn fawr iawn.