Part of the debate – Senedd Cymru am 1:46 pm ar 22 Rhagfyr 2021.
Diolch, Lywydd. A gaf fi ddiolch i chi am adalw'r Senedd heddiw i roi cyfle i'r Aelodau holi'r Prif Weinidog am y cyfyngiadau y mae'r Llywodraeth wedi'u cyhoeddi? A gaf fi hefyd gofnodi fy niolch i'r Prif Weinidog am hwyluso sesiwn friffio y bore yma i Weinidog iechyd yr wrthblaid a minnau gydag Aelodau o dîm y gell cyngor technegol sy'n cynghori Llywodraeth Cymru?
Brif Weinidog, a fydd y mesurau a gyhoeddir heddiw yn golygu o ddifrif y gellir osgoi cyfyngiadau symud cenedlaethol yn y flwyddyn newydd, neu hyd yn oed gyfnod atal byr yn y flwyddyn newydd? Rwy'n derbyn bod gennym sefyllfa sy'n newid yn gyflym, ond mae llawer o bobl yn teimlo ein bod ar daith nad oes modd ei hatal tuag at gyfyngiadau pellach yn y flwyddyn newydd. Felly, a ydych yn hyderus y bydd y cyfyngiadau rydych wedi'u cyhoeddi heddiw yn golygu y gellir osgoi'r cyfyngiadau symud cenedlaethol/cyfnod atal byr a allai ein taro yn y flwyddyn newydd?
Yn ail, mae'r broses o wneud y penderfyniadau hyn, fel rydych wedi'i hamlinellu, wedi symud o gylch tair wythnos i gylch wythnosol, ac yn ystod yr wythnos ddiwethaf, rydym wedi cael tri chyhoeddiad gwahanol. Ond ni all fod yn iawn, Brif Weinidog, fod newyddiadurwyr yn trydar ar nos Lun fod ganddynt ddatganiad i'r wasg dan embargo a fydd yn dod allan am hanner nos gyda chyhoeddiadau sylweddol yn y datganiad i'r wasg hwnnw, pan nad yw Aelodau'r Senedd wedi cael unrhyw wybodaeth o gwbl gan y Llywodraeth. A allwch roi sicrwydd i mi y byddwch yn annerch Senedd Cymru a'i Haelodau drwy roi'r wybodaeth ddiweddaraf ar sail reolaidd, ac a wnewch chi ddarparu briff i Aelodau'r Senedd gan y prif swyddog meddygol, rhywbeth sydd wedi digwydd yn San Steffan ar gyfer pob Aelod, fel y gall Aelodau gael y wybodaeth ddiweddaraf sy'n bosibl?
A allwch gadarnhau mai'r senarios y mae'r Llywodraeth yn edrych arnynt wrth fodelu yw'r senarios achos gorau a gwaethaf a gyflwynir i chi, felly ceir amrywiaeth o opsiynau i lywio eich penderfyniadau, yn hytrach nag un senario yn unig? A hefyd, ar yr arian a'r iawndal a ddyrannwyd—a chlywaf o'ch datganiad y bydd mwy o wybodaeth yfory gan Weinidog yr economi—a fydd y wybodaeth honno'n wybodaeth lawn a chyflawn, fel bod busnesau'n gwybod sut i gael gafael ar yr arian sydd ar gael i'w digolledu am y cyfyngiadau, fel na fyddwn yn gweld ailadrodd y gronfa cadernid economaidd, lle daeth yr arian i ben o fewn 24 awr a lle cafodd ceisiadau eu hatal?
Ai difrifoldeb y salwch a fydd yn effeithio ar bobl yw'r ysgogiad sy'n sail i'r cyfyngiadau hyn, neu'r cyfraddau salwch rydym yn debygol o'u gweld mewn gwasanaethau allweddol a busnesau? Oherwydd rwy'n credu ei bod yn bwysig ein bod yn deall sut y mae'r dystiolaeth sy'n esblygu yn dangos nad yw omicron yn ymddangos fel pe bai'n cael yr effaith y mae'r feirws delta wedi'i chael yn yr ail a'r drydedd don a welsom o'r feirws ofnadwy hwn.
A allech hefyd gadarnhau heddiw yr effaith ar wasanaethau fel gwasanaethau trên, y gwelwn eu bod yn rhedeg ar 70 y cant o'r amserlen yn unig? Mewn rhannau eraill o'r Deyrnas Unedig, er eu bod yn cael eu heffeithio gan absenoldeb a chyfraddau salwch wrth inni nesu at gyfnod prysur y Nadolig, gall gweithredwyr trenau weithredu 90 y cant o'r amserlen. Mae hon yn ystyriaeth bwysig i bobl sy'n gwneud cynlluniau dros gyfnod y Nadolig i ddeall sut yr effeithir ar y gwasanaeth penodol hwn. Felly, byddwn yn ddiolchgar iawn pe gallech ddarparu gwybodaeth wrth ymateb i mi.
Fe gyfeirioch chi yn eich datganiad am dorri amseroedd hunanynysu, fel y mae Llywodraeth y DU wedi'i gyhoeddi heddiw, yn amlwg, ac rwy'n sylweddoli y bydd y Gweinidog iechyd yn gwneud cyhoeddiad pellach ar hynny. Pa fath o amserlen rydym yn edrych arni ar gyfer y cyhoeddiad hwnnw? Oherwydd bydd hyn yn rhan hollbwysig o allu dod â phobl yn ôl i'r gwaith, os bernir, wrth gwrs, ei bod yn briodol ac yn angenrheidiol inni fabwysiadu'r canllawiau hynny yma yng Nghymru.
Hefyd, mae dirwyo gweithleoedd, mater y rhoesoch chi sylw iddo yn eich cynhadledd i'r wasg, wedi achosi rhywfaint o ddryswch, ac mae'n ymddangos o dan y rheoliadau hyn y gallech gael dirwy am fynd i'r gwaith, ond nid am fynd i'r dafarn. A oes angen sefydlu'r rheoliadau hyn, sy'n amlwg yn creu'r deinamig hwnnw o fewn y gweithle? Oherwydd er ein bod am gadw'r gweithle mor ddiogel â phosibl, i'r cyflogai a'r cyflogwr, rhaid cael goddefgarwch o fewn y gweithle i ddeall y gwahanol ddiffiniadau o waith ledled Cymru gyfan. A wnewch chi amlinellu ble y byddech yn disgwyl i'r dirwyon hynny gael eu rhoi? Sylwaf o'ch cynhadledd i'r wasg eich bod wedi dweud nad oes unrhyw ddirwy wedi'i rhoi hyd yma, er bod y rheoliadau hyn wedi bod ar waith ers peth amser.
Mewn perthynas â'r canolfannau brechu, rwy'n cael adroddiadau o wahanol ardaloedd—yn ardal Caerdydd a'r Fro, beth bynnag—fod llawer o fiwrocratiaeth yn atal pobl rhag dod i helpu fel brechwyr. Cefais un nyrs ddoe yn tynnu sylw at sut y bu'n rhaid iddi lenwi chwe ffurflen wahanol i gael ei hystyried yn frechwr pan oedd hi eisoes wedi gwneud y rhaglen frechu yn ystod y don gyntaf. Felly, dylem yn sicr annog yr unigolion hynny i gamu ymlaen a gwirfoddoli. A allech dynnu sylw hefyd at y ffordd y credwch fod eich Llywodraeth yn gweithio gyda byrddau iechyd i osgoi atal llawdriniaeth ddewisol, o ystyried, yn amlwg, effaith y feirws COVID a welwn ledled Cymru ar hyn o bryd? Yn benodol, mae rhai byrddau iechyd wedi cyhoeddi y bydd llawdriniaeth ddewisol yn cael ei chanslo am y dyfodol y gellir ei ragweld. A ydych yn rhagweld byrddau iechyd eraill yn dilyn yr arweiniad hwnnw gan y bwrdd iechyd yng ngogledd Cymru?
Fy mhwynt olaf i chi, Brif Weinidog, yw bod rhai gwledydd eisoes yn nodi'r angen am bedwerydd dos atgyfnerthu oherwydd, yn amlwg, yr amser y mae'r pigiad atgyfnerthu'n aros yn effeithiol ac yn cynnig yr amddiffyniad mwyaf. A oes gwaith yn cael ei wneud yn Llywodraeth Cymru i ysgogi rhaglen o'r fath wrth inni symud o'r gaeaf i'r gwanwyn, er mwyn sicrhau bod pedwerydd dos atgyfnerthu ar gael, yn enwedig i unigolion a oedd yn y garfan gyntaf i gael y pigiad atgyfnerthu yn ôl ym mis Medi a mis Hydref? Diolch, Brif Weinidog.