Part of the debate – Senedd Cymru am 1:55 pm ar 22 Rhagfyr 2021.
A gaf fi ddweud fy mod yn credu bod y ddadl am ddifrifoldeb omicron yn colli'r pwynt i raddau? Mae nifer y bobl a fydd yn mynd yn sâl gyda'r amrywiolyn omicron yn golygu, hyd yn oed pe bai'n llai difrifol, na fydd hynny'n atal y cynnydd enfawr yn y galw a allai fod yn sgil pobl yn mynd yn sâl. Fe wnaeth un o ddirprwy brif swyddogion meddygol Lloegr mewn cyfarfod COBRA ei egluro yn y ffordd hon: pe bai omicron ond yn hanner mor ddifrifol â delta, mae hynny'n prynu 48 awr i chi o ran yr effaith y bydd omicron yn ei chael ar ein gwasanaethau cyhoeddus. Felly, mae trosglwyddadwyedd omicron yn broblem eilaidd mewn ffordd, yn hytrach na phroblem sylfaenol, ac nid wyf yn credu bod y dystiolaeth fel y caiff ei hadrodd mewn rhai papurau newydd heddiw mor syml ag y maent yn ei ddweud. Y dystiolaeth a welais—. Rwy'n ychwanegu'r cafeat arferol yma, y gwn y bydd arweinydd yr wrthblaid yn ei ddeall, fod tystiolaeth newydd yn dod i'r amlwg bob dydd. Mae'r dystiolaeth a welais hyd yn hyn yn dynodi, os ydych wedi cael coronafeirws yn barod, y gall omicron gael effaith lai difrifol arnoch os cewch eich ailheintio, ond os ydych yn dal y coronafeirws am y tro cyntaf ac mai eich dos cyntaf ohono yw omicron, mae'n debygol o fod yr un mor ddifrifol ag unrhyw fath cynharach arall o'r feirws.
Ar wasanaethau trên, mae Trafnidiaeth Cymru yn rhedeg cymaint o drenau ag y gall gyda nifer y staff sydd ar gael iddo, ac effeithir ar y sefyllfa ar draws rhannau eraill o'r Deyrnas Unedig yn union fel yr effeithir arnom ni yma yng Nghymru. Mewn ffordd, mae hynny'n cysylltu ag un o gwestiynau diweddarach Andrew Davies. Wrth gwrs, rydym yr un mor bryderus ynghylch omicron yn effeithio ar nifer fawr o bobl y mae angen iddynt fod yn y gweithle, mewn busnesau preifat ac mewn gwasanaethau cyhoeddus, gyda'r bobl sy'n mynd mor ddifrifol wael fel mai dim ond gwely ysbyty fydd yn ddigon ar eu cyfer. Mae'r ddau beth hynny'n bwysig iawn.
Rydym wedi symud heddiw i'r drefn newydd ar gyfer pobl sy'n gysylltiadau i bobl sydd â'r coronafeirws. Mae gan y Gweinidog iechyd gyngor o'i blaen heddiw ar drefn a allai fod yn wahanol i bobl sy'n dioddef yn uniongyrchol o'r feirws, ond fe fydd hi'n awyddus i edrych ar gyngor gan ein prif swyddog meddygol ein hunain ac eraill, a gwn y gwnaiff ei phenderfyniad cyn gynted ag y gall. Gwn fod y cyngor hwnnw eisoes wedi mynd iddi, a bydd yn rhan o'r hyn y bydd yn ei wneud heddiw.
A gaf fi ddiolch i arweinydd yr wrthblaid am gyfle cynnar i unioni rhai o'r straeon sydd wedi cylchredeg am y gweithle? Oherwydd mae hon yn stori ddi-sail mewn gwirionedd. Fel y dywedodd arweinydd yr wrthblaid, rydym yn adfer rheolau a oedd gennym yn gynharach yn y pandemig. Nid rheolau newydd yw'r rhain fel y cyfryw. Maent yn rheolau rydym wedi'u defnyddio o'r blaen. Maent yno i greu chwarae teg lle mae cyflogwyr a gweithwyr yn gwybod beth yw eu hawliau a'u cyfrifoldebau. Fe'u cynlluniwyd i ddiogelu gweithwyr, nid eu cosbi. Pan oedd gennym y rheolau hynny ar waith yn gynharach yn y pandemig, nid oes cofnod ein bod wedi gallu dod o hyd i unrhyw un yn cael dirwy. Maent yno i wneud yn siŵr fod pawb yn deall y rheoliadau. A phan oeddwn yng nghyngor partneriaeth gymdeithasol yr wrthblaid yn gynharach heddiw, croesawodd cyflogwyr y rheoliadau oherwydd bod y rheoliadau eu hunain yn ddefnyddiol, hyd yn oed os nad yw'r adroddiadau arnynt wedi bod felly. Ac rwy'n ddiolchgar iawn i Gydffederasiwn Diwydiant Prydain a sefydliadau cyflogwyr eraill ac i undebau llafur a Chyngres yr Undebau Llafur am yr holl gymorth y maent yn ei roi i ni i sicrhau bod gweithleoedd a gweithwyr yn deall beth yw'r rheolau mewn gwirionedd, a beth y maent yno i'w wneud.
Mae arnaf ofn fod effaith pobl yn absennol o'r gweithle a'r pwysau ar y GIG yn golygu bod rhaid atal llawdriniaeth ddewisol mewn rhai rhannau o Gymru. Ceir fframwaith gwneud penderfyniadau lleol sy'n caniatáu i fyrddau iechyd raddnodi hynny yn ôl eu hamgylchiadau eu hunain a gallant ddechrau llawdriniaeth ddewisol eto pan fydd yr amgylchiadau'n caniatáu iddynt wneud hynny.
Mae'n ddrwg gennyf glywed bod pobl yn teimlo bod y broses o fod yn frechwr yn rhwystredig. Rydym yn ei leihau i'r lleiafswm y credwn sy'n ddiogel. Os yw rhywun yn rhoi brechlyn i rywun arall, mae angen inni wybod eu bod wedi'u hyfforddi'n briodol i wneud hynny. Mae'r rheolau sydd yno ar gyfer pigiadau atgyfnerthu ac ar gyfer brechu plant, er enghraifft, yn wahanol i'r rhai a fyddai wedi bod yno yn y don gyntaf o frechu. Ac mae angen inni sicrhau bod pobl yn cael yr hyfforddiant sydd ei angen arnynt i allu brechu'n ddiogel. Rwy'n hynod ddiolchgar i'r cannoedd o bobl sydd wedi camu ymlaen. Nid oes gennym broblem gyda'r cyflenwad o frechwyr a brechlynnau yng Nghymru ar hyn o bryd—gallwn frechu pawb sy'n dod i gael brechiad. Mae problem o hyd gyda phobl yn methu apwyntiadau. Roedd cyfradd o 18 y cant o bobl heb fynychu eu hapwyntiad mewn rhai canolfannau brechu yng Nghymru ddoe. Mae hynny bron yn un o bob pump o bobl yn methu apwyntiadau pan gânt eu gwahodd. Ac os gallem berswadio'r bobl hynny i wneud yr apwyntiad yn brif flaenoriaeth, byddai hynny'n ein helpu i gael yr amddiffyniad hwnnw allan i gynifer o bobl â phosibl.
Yn olaf, Lywydd, credaf mai Israel yn unig sydd wedi symud at bedwaredd raglen frechu gynhwysfawr gyda'r pigiad atgyfnerthu ac fe wnaethant hynny heddiw. Ond mae Israel wedi bod ar y blaen i wledydd eraill yr holl ffordd drwy'r broses frechu. Rydym yn edrych ar y dystiolaeth o ran pa mor hir y mae'r pigiad atgyfnerthu presennol yn cynnig yr amddiffyniad mwyaf posibl i chi. Ac os yw'n ymddangos bod yr amddiffyniad yn pylu a bod angen inni wneud mwy yn ddiweddarach i mewn i'r flwyddyn nesaf, yna wrth gwrs, ochr yn ochr â rhannau eraill o'r Deyrnas Unedig, byddwn yn ceisio rhoi rhaglen o'r fath ar waith. Diolch yn fawr iawn.