Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:55 pm ar 11 Ionawr 2022.
Llywydd, rwy'n cytuno â'r pwynt y dechreuodd Adam Price ag ef. Mewn dadansoddiad manwl iawn a gyhoeddwyd ychydig ddyddiau'n ôl, dywedodd y Resolution Foundation y bydd mis Ebrill yn nodi trychineb costau byw i lawer, llawer o deuluoedd ledled y Deyrnas Unedig, gyda biliau o dros £1,000 yn dod i'w rhan a hynny dim ond yn sgil cynnydd mewn prisiau tanwydd a'r newidiadau i gyfraniadau yswiriant gwladol, ac nid yw hynny'n ystyried yr holl bwysau eraill y gwyddom sydd yno eisoes mewn cyllidebau teuluol, gyda chyflogau go iawn yn aros yn eu hunfan neu'n lleihau. Ac yn yr ystyr hwnnw, rwy'n credu bod Adam Price yn llygad ei le—mae'r argyfwng costau byw yn mynd i gael lle blaenllaw ym mywydau llawer o deuluoedd ledled Cymru. Ac i lawer o deuluoedd mae wedi dechrau eisoes, Llywydd, gyda'r miloedd hynny o deuluoedd yn wynebu toriad o £20 yr wythnos gyda'r gostyngiad mewn credyd cynhwysol—penderfyniad gwirioneddol greulon a wnaed gan Lywodraeth a oedd yn gwybod beth fyddai effaith y penderfyniad hwnnw ar fywydau'r teuluoedd tlotaf.
Nawr, ar draws Llywodraeth Cymru, rydym eisoes yn gweithredu, boed hynny drwy'r gronfa cymorth i aelwydydd gwerth £51 miliwn, a fydd yn cynnig cymorth gyda biliau tanwydd i deuluoedd yng Nghymru y gaeaf hwn; gyda'n hymrwymiad i'r cynllun i ostwng y dreth gyngor, mae 60 y cant o aelwydydd yng Nghymru yn cael cymorth drwy'r cynllun gostyngiadau'r dreth gyngor; drwy'r miliynau o bunnau hefyd yr ydym ni wedi'u rhoi yn y gronfa cymorth dewisol; a thrwy'r camau yr ydym yn eu cymryd drwy ein cronfa gynghori sengl i sicrhau bod gan bobl yng Nghymru y cymorth sydd ei angen arnyn nhw pan fyddan nhw'n hawlio'r pethau y mae ganddyn nhw'r hawl iddyn nhw—£17.5 miliwn mewn budd-daliadau ychwanegol a sicrhawyd yn ystod chwe mis cyntaf y flwyddyn ariannol hon drwy'r gronfa gynghori sengl a 35 o gynghorwyr budd-daliadau newydd a recriwtiwyd i'n helpu gyda'r ymgyrch yr ydym ni'n ei rhedeg i sicrhau bod pobl yng Nghymru yn cael y cymorth sydd yna.
Nawr, byddaf yn ystyried y pwynt y mae'r Aelod wedi'i wneud, wrth gwrs, ynghylch a fyddai dod â phobl o gwmpas y bwrdd cyn mis Ebrill i weld beth arall y gellid ei wneud yn ein helpu ni gyda'r camau y gall Llywodraeth Cymru eu cymryd, ond nid yw hynny oherwydd nad oes set gynhwysfawr iawn o gamau gweithredu y mae Llywodraeth Cymru eisoes wedi'u rhoi ar waith.