Cwestiynau Heb Rybudd gan Arweinwyr y Pleidiau

Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:54 pm ar 11 Ionawr 2022.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Adam Price Adam Price Plaid Cymru 1:54, 11 Ionawr 2022

(Cyfieithwyd)

Prif Weinidog, gall dyledion cynyddol a'r cynnydd cyflym a chronnol yng nghostau byw oddiweddyd COVID cyn bo hir fel yr argyfwng mwyaf a wynebwn dros y flwyddyn i ddod, gan ein bwrw ni fwyfwy i dlodi a salwch meddwl. Mae llawer o'r ysgogiadau allweddol, wrth gwrs, yn aros yn San Steffan, ond rydym wedi dysgu hyd yn oed heddiw, onid ydym ni, i roi ychydig iawn o ffydd mewn Prif Weinidog sy'n trefnu partïon gardd yng nghanol pandemig? Pan darodd yr argyfwng ariannol byd-eang, trefnodd Llywodraeth Cymru wedyn uwchgynhadledd economaidd frys i rannu syniadau ynghylch yr hyn y gallem ni yng Nghymru ei wneud yn annibynnol ein hunain i ymateb. A fyddech chi'n cytuno, Prif Weinidog, i ystyried trefnu uwchgynhadledd gymdeithasol yng Nghymru i helpu i lunio ymateb brys ar draws y Llywodraeth i'r argyfwng costau byw sy'n wynebu pobl a theuluoedd yn 2022?