Asesu Ansawdd Dysgu

Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:28 pm ar 11 Ionawr 2022.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Mark Drakeford Mark Drakeford Labour 2:28, 11 Ionawr 2022

(Cyfieithwyd)

Diolch i Jenny Rathbone. Llywydd, mae Cymwysterau Cymru wedi penderfynu cynnal arholiadau yn 2022, yn gyson â'r dull a ddefnyddir mewn rhannau eraill o'r DU, ac mae addasiadau wedi'u gwneud i'r cynnwys a gaiff ei asesu fel nad yw dysgwyr o dan anfantais. Ar 16 Rhagfyr, cyhoeddodd y Gweinidog addysg £24 miliwn o gymorth ychwanegol, yn canolbwyntio ar ddysgwyr yn y blynyddoedd arholiadau.