Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:04 pm ar 11 Ionawr 2022.
Diolch i Vikki Howells am hynna, Llywydd. Mae Sgrinio Serfigol Cymru wedi gweithredu argymhelliad Pwyllgor Sgrinio Cenedlaethol y DU ac wedi ymestyn y cyfnod sgrinio arferol o bobl rhwng 25 a 49 oed o dair i bum mlynedd os na chanfyddir HPV yn eu prawf sgrinio serfigol. Mae'r cyfnod sgrinio bellach yn cyd-fynd â'r cyfnod sgrinio ar gyfer pobl 50 i 64 oed yng Nghymru.