Part of the debate – Senedd Cymru am 3:15 pm ar 11 Ionawr 2022.
Ar wahân i gymorth busnes, mae angen i ni edrych hefyd ar ffyrdd o gefnogi ein heconomïau lleol a chenedlaethol, ac rwy'n credu y gallai'r gyllideb hon fod wedi gwneud llawer mwy yn hynny o beth. Bydd ein canol trefi yn cael cyfalaf ychwanegol o £100 miliwn yn ystod cyfnod y gyllideb, ond rwy'n amau na fydd y gronfa hon yn ddigonol i ddechrau gwrthdroi dirywiad hirdymor y stryd fawr o'r diwedd nac yn eu helpu i addasu i arferion defnyddwyr sydd wedi newid a hynny hyd yn oed yn fwy yn ystod cyfnod y pandemig. Ni allwn i ychwaith ddod o hyd i lawer o sôn am sut y bydd Llywodraeth Cymru yn buddsoddi mewn cynhyrchwyr a gweithgynhyrchwyr yng Nghymru i allforio mwy o'u nwyddau a'u gwasanaethau dramor a helpu i wella'r brand 'Gwnaed yng Nghymru'. Hoffwn i gael rhagor o wybodaeth am hynny, os yn bosibl, Gweinidog.
Ac yna mae'r cynnydd yn y cyllid ar gyfer y GIG. O'r hyn yr wyf i'n ymwybodol ohono, bydd bron i £900 miliwn o gyfanswm yr arian yn cael ei ddyrannu yn ystod y flwyddyn ariannol 2022-23. Er bod yr angen amdano yn fawr, ac rydym ni'n ei groesawu, dim ond £400 miliwn a fyddai yn weddill i'w ddyrannu dros y ddwy flynedd ganlynol, sy'n golygu y gallai byrddau iechyd gael eu temtio i ddal rhywfaint o'r cyllid gwreiddiol yn ôl i lenwi unrhyw fylchau a ragwelir mewn cyllidebau yn y dyfodol. Gweinidog, a gaf i ofyn sut y cafodd y penderfyniadau ynghylch sut i ddyrannu'r cyllid hwn eu gwneud, ac a wnewch chi roi'r sicrwydd ariannol sydd ei angen ar ysbytai a byrddau iechyd yn y tymor canolig a hir? Rwyf wedi siomi hefyd o nodi nad oedd cyflwyno'r canolfannau llawfeddygol rhanbarthol er mwyn mynd i'r afael ag ôl-groniad rhestr aros y GIG, fel y galwodd y Ceidwadwyr amdanyn nhw yn flaenorol, yn rhan o'r gyllideb. A wnewch chi ystyried gweithio gyda ni, Gweinidog, i ymchwilio i sut y gallwn ni gyflymu mynediad at driniaeth, gan ddefnyddio rhywfaint o'ch cyllid nad yw wedi ei neilltuo i gyflwyno cynllun gwerth £30 miliwn i roi mynediad at feddygon teulu fel y gall mwy o gleifion weld eu meddyg teulu a helpu i leihau'r straen ar ysbytai?
Nawr, er gwaethaf y setliad cadarnhaol i gynghorau, mae'n rhaid edrych ar hyn yn y cyd-destun ehangach. Mae hyn yn cynnwys yr effeithiau parhaus na fydd cronfa caledi COVID yn eu datrys mwyach, y pwysau sylweddol a wynebir ar draws maes gofal cymdeithasol, costau polisi Llywodraeth Cymru a phwysau chwyddiant. Bydd llawer o'r arian ychwanegol hwn wedi ei lyncu eisoes, gan gyfyngu'n fawr ar allu cynghorau i weithredu. Mae angen mwy o eglurder ar gynghorau hefyd o ran y ffrydiau cyllid grant penodol ar gyfer y flwyddyn nesaf i helpu gyda chynllunio ariannol, yn ogystal ag eglurder o ran cyllid grant ychwanegol y gallen nhw ddisgwyl ei weld cyn diwedd mis Mawrth. Gweinidog, a wnewch chi roi mwy o eglurder yn hynny o beth?
Rwyf i hefyd wedi clywed rhai pryderon ei bod yn bosibl y bydd y grant adnewyddu priffyrdd cyhoeddus presennol yn cael ei ddileu, gan beri pryder i gynghorau ynghylch sut y maen nhw am dalu i gynnal a chadw rhwydweithiau ffyrdd sy'n dirywio eisoes. Rwy'n cydnabod safbwynt eich Llywodraeth chi ar adeiladu ffyrdd newydd, ond y gwir amdani yw bod angen ffyrdd arnom ni o hyd ac mae'r angen i gynghorau eu cynnal a'u cadw yn parhau. A wnewch chi egluro'r sefyllfa hon, Gweinidog, a dweud a yw hi'n fwriad gennych chi i roi arian ychwanegol ar gyfer gwaith cynnal a chadw ffyrdd, fel y mae'r Llywodraeth wedi ei wneud o'r blaen?
At hynny, bydd pwysau parhaus yn golygu y bydd yn rhaid i gynghorau barhau i ddibynnu ar drethdalwyr sy'n gweithio'n galed i ategu eu cyllidebau drwy gyfrwng y dreth gyngor. O ystyried y pwysau ariannol ar deuluoedd, y buom ni'n sôn amdanyn nhw'n gynharach heddiw, a wnaiff y Llywodraeth ystyried darparu cyllid ychwanegol i gynghorau—hynny yw, y tu hwnt i'r hyn sydd wedi ei gyhoeddi—i alluogi cynghorau i rewi'r dreth gyngor am ddwy flynedd ac ysgafnu'r pwysau ar deuluoedd? Mae gennych chi'r gallu i wneud hyn pe byddech chi'n dymuno.
Mae ysgolion hefyd wedi eu taro'n wael yn ystod y pandemig ac mae tarfu parhaus yn peryglu rhwystro ein pobl ifanc yn fwy byth. Rwy'n sylwi bod y gyllideb yn dyrannu £320 miliwn arall ar gyfer adfer a diwygio addysg, sydd i'w groesawu. Serch hynny, mae'r cyllid hwn wedi ei wasgaru unwaith eto dros y tair blynedd ariannol nesaf, felly tybed a fydd y cyllid yn cael ei wasgaru'n rhy eang gan arwain at fod yn ddiffygiol, felly, yn ei gymorth i ysgolion a phobl ifanc er mwyn adfer ar ôl effaith y pandemig.
At hynny, rwy'n sylwi bod y gyllideb yn cynnwys £64.5 miliwn ychwanegol hyd at 2024-25 i gefnogi ysgolion mewn cysylltiad ag amrywiaeth o bethau, megis anghenion dysgu ychwanegol, cefnogi parhad y rhaglen recriwtio, adfer a chodi safonau, a chefnogi lles dysgwyr. Rwy'n credu y byddai'n ddefnyddiol cael dadansoddiad o'r dyraniadau penodol yn y pecyn cyllid hwn, yn ogystal â chael deall a fydd unrhyw arian ychwanegol ar gael i ysgolion i gefnogi'r broses o recriwtio staff addysgu parhaol ar ôl i'r rhaglen recriwtio, adfer a chodi safonau ddod i ben. Mae hi'n amlwg, er mwyn helpu i godi safonau a chefnogi dysgwyr i adennill tir o ran eu haddysg, fod angen i ni wrthdroi'r dirywiad yn nifer yr athrawon yng Nghymru. I ailadrodd y pwynt hwn, yn ôl ystadegau diweddaraf Cyngor y Gweithlu Addysg, mae nifer yr athrawon sydd wedi eu cofrestru yng Nghymru wedi gostwng 10.3 y cant rhwng 2011 a 2021, ac mae'n amlwg nad yw hyn yn gynaliadwy.
Yn olaf, mae newid hinsawdd yn her sylweddol wrth i ni symud trwy'r degawd hwn a thu hwnt i hynny. Yn ôl amcangyfrifon diweddar gan Bwyllgor y DU ar Newid Hinsawdd, mae angen gwerth tua £4.2 biliwn o fuddsoddiad yn ystod yr ail gyllideb garbon rhwng 2021 a 2025, ac eto dim ond £1.8 biliwn o gyfalaf a £160 miliwn o refeniw mewn buddsoddiad gwyrdd y mae eich cyllideb chi'n ei ddyrannu ar gyfer y tair blynedd nesaf. Gweinidog, a ydych chi'n hyderus y bydd y lefel hon o fuddsoddiad yn cyflawni'r newidiadau angenrheidiol i drawsnewid Cymru i fod yn gymdeithas carbon isel? Ac rwyf i o'r farn bod angen mwy o eglurder arnom ni o ran yr elfennau sy'n gysylltiedig ag amddiffynfeydd llifogydd. Gan ein bod ni ar ddechrau'r adeg honno o'r flwyddyn pan all unrhyw beth ddigwydd, ac rwy'n credu bod diffyg eglurder ynghylch yr hyn yr ydych chi'n bwriadu ei wneud ynglŷn â llifogydd, ac rydym ni'n gwybod beth y mae angen i ni ei weld yn digwydd.
I grynhoi, Dirprwy Lywydd, rwy'n credu bod yna bethau yn y gyllideb hon y gallwn ni eu croesawu. Mae'r arian ychwanegol sydd wedi ei ddarparu gan Lywodraeth y DU yn tynnu sylw yn wirioneddol at bwysigrwydd bod yn rhan o undeb cryf. Ond mae angen gwirioneddol i'r gyllideb hon gyflawni'r hyn y mae'n bwriadu ei wneud—Cymru gryfach, decach a gwyrddach. Mae hyn yn rhywbeth y mae Llywodraethau blaenorol, Llywodraethau Cymru, wedi methu â'i chyflawni, yn aml. Mater i'r Llywodraeth hon yw dangos y gall sicrhau newid gwirioneddol i bobl Cymru, ac adeiladu cenedl sy'n fwy llewyrchus ac uchelgeisiol. Ac os na allwch chi wneud hynny, yn sicr mae yna blaid yn y Senedd hon a all ei wneud. Diolch, Dirprwy Lywydd.