3. Dadl ar Ddatganiad: Cyllideb Ddrafft 2022-23

Part of the debate – Senedd Cymru am 3:11 pm ar 11 Ionawr 2022.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Peter Fox Peter Fox Conservative 3:11, 11 Ionawr 2022

(Cyfieithwyd)

Diolch, Dirprwy Lywydd. A gaf i ddiolch i chi, Gweinidog, am eich datganiad chi heddiw? Mae'r ddwy flynedd ddiwethaf wedi bod ymysg y rhai anoddaf yr ydym ni erioed wedi eu gweld. Mae pandemig COVID-19 wedi effeithio ar bob un ohonom ni, mae cyfyngiadau wedi cyfyngu ar ein rhyddid, mae rhannau helaeth o'n cymdeithas ni wedi eu gorfodi i gau, ac mae gwasanaethau cyhoeddus wedi bod o dan bwysau enfawr. Mae ein gwasanaethau rheng flaen, yn ogystal â'n cymunedau, yn dal i wynebu heriau sylweddol wrth i ni symud drwy gam nesaf y pandemig.

Rydym ni yn rhan o undeb ehangach o genhedloedd, a thrwy fod yn rhan o'r undeb hwn y mae Llywodraeth Cymru wedi bod mewn sefyllfa i gefnogi gwasanaethau cyhoeddus a busnesau, yn ogystal ag i ymateb i'r pandemig. Rydym ni wedi gweld symiau sylweddol o arian yn llifo i Gymru oddi wrth Lywodraeth y DU ers dechrau'r pandemig, ac rwy'n croesawu'r £2.5 biliwn ychwanegol y flwyddyn ar gyfartaledd i Lywodraeth Cymru yn ystod cyfnod yr adolygiad o wariant yn fawr iawn, fel y cafodd ei gyhoeddi yn setliad y gyllideb yn ddiweddar, ac mae dadansoddiad cyllidol Cymru yn nodi bod hynny'n cyfateb i gynnydd cyfartalog o 3.1 y cant y flwyddyn bob blwyddyn yn ystod y cyfnod hwnnw.

Yn y cyd-destun hwnnw, felly, Dirprwy Lywydd, rwy'n croesawu'r gwyliau ardrethi busnes y mae'r angen yn ddirfawr amdanyn nhw i helpu cwmnïau i adfer ar ôl heriau parhaus y pandemig, ynghyd â'r cynnydd yn y cyllid i'n hawdurdodau lleol sy'n darparu cynifer o wasanaethau allweddol mewn cymunedau ledled Cymru. Rwy'n credu y bydd pob un ohonom ni yn y Siambr rithwir hon yn croesawu'r £1.3 biliwn ychwanegol ar gyfer GIG Cymru dros y tair blynedd nesaf hefyd.

Ond, wrth gwrs, Gweinidog, fel sy'n wir bob amser, yn y manylion y mae'r broblem, ac, fel yr oedd y Prif Weinidog yn sôn yn gynharach, fe geir cost cyfle bob amser wrth wneud penderfyniadau gwario, ac mae angen i ni ddeall beth allai'r rhain fod, ac rwy'n siŵr y bydd y gwaith hwnnw yn mynd rhagddo yn y pwyllgorau dros yr wythnosau nesaf. Er enghraifft, rwyf i wedi clywed pryderon gan nifer o berchnogion busnes yn fy etholaeth i na fyddai'r cymorth a gynigir gan y gronfa cadernid economaidd yn cwmpasu'r golled sylweddol o ran incwm y bu iddyn nhw ei dioddef yn ystod cyfnod y Nadolig, sydd, wrth gwrs, fel arfer yn helpu llawer o fusnesau lletygarwch drwy'r misoedd tawelach hynny ar ddechrau'r flwyddyn. Ceir pryderon hefyd ynghylch y meini prawf y mae'n rhaid eu defnyddio i gael defnyddio'r gronfa cadernid economaidd, lle mae angen i fusnesau fod wedi colli 60 y cant o'u trosiant i fod yn gymwys ar gyfer hynny. Felly, hyd yn oed os oedd busnes yn ddigon ffodus i beidio â bod wedi gweld effaith sylweddol iawn yn sgil y cyfyngiadau, byddai colled lai o incwm yn dal i gael effaith sylweddol, o ystyried agweddau ariannol y ddwy flynedd ddiwethaf.

Mae Ffederasiwn Busnesau Bach Cymru yn galw ar Lywodraeth Cymru hefyd i adolygu a chynyddu'r cyllid sydd ar gael i gefnogi busnesau yn y sector sydd wedi eu taro gan y cyfyngiadau COVID a gafodd eu cyflwyno yn ystod cyfnod y Nadolig. Maen nhw wedi datgan eu bod nhw'n pryderu ynghylch, rwy'n dyfynnu,

'natur benagored dybiedig y cyfyngiadau presennol. Felly mae'n bwysig bod Llywodraeth Cymru yn amlinellu'r amodau ar gyfer llacio'r cyfyngiadau ar fusnesau yng Nghymru o bosibl i ganiatáu iddyn nhw gynllunio ar gyfer y dyfodol.'

Gweinidog, a wnewch chi roi sicrwydd i fusnesau ledled Cymru y bydd Llywodraeth Cymru yn rhoi cymorth ychwanegol brys ar ben yr hyn a gafodd ei gyhoeddi yn y gyllideb, pe byddai'r cyfyngiadau dinistriol presennol hyn yn parhau?