Part of the debate – Senedd Cymru am 3:22 pm ar 11 Ionawr 2022.
Diolch yn fawr iawn, Dirprwy Lywydd, a diolch am y cyfle i gyfannu at y ddadl yma ar y datganiad ar gyllideb drafft Cymru. Mae’r Gweinidog wedi disgrifio’r gyllideb yma, ac rŷn ni newydd glywed llefarydd y Ceidwadwyr hefyd yn ailadrodd hynny, fel cyllideb fydd yn creu Cymru deg, Cymru werdd a Chymru gref. Wel, mi fentraf i fynd ymhellach a dweud, diolch i Blaid Cymru, bydd y gyllideb hon yn creu Cymru hyd yn oed yn fwy teg, yn fwy gwyrdd ac yn fwy cryf. O brydau ysgol am ddim i bob disgybl cynradd, i ymestyn gofal plant am ddim i bob plentyn dwy oed, i fynd i’r afael â’r argyfwng tai a llawer, llawer mwy, mae’r ymrwymiadau mae Plaid Cymru wedi’u sicrhau fel rhan o’r cytundeb cydweithio gyda Llywodraeth Cymru yn mynd i fod yn drawsnewidiol, yn enwedig, wrth gwrs, i rai o’n cartrefi tlotaf ni. Mae’r buddsoddiad sydd yn y gyllideb hon, felly, i roi’r polisïau radical, diriaethol o’r cytundeb cydweithredu ar waith yn rhai rŷn ni yn eu cefnogi, wrth gwrs, am y byddan nhw, fel dwi’n dweud, yn cyfrannu’n helaeth at newid bywydau pobl er gwell, ble bynnag ŷch chi yng Nghrymu.
Y tu hwnt i’r hyn sydd yn y cytundeb, wrth gwrs, mae gennym ni, fel pob Aelod arall o’r Senedd yma, job o waith i’w wneud i graffu ar weddill y gyllideb ac i sicrhau ei bod hi'n cyflawni’r hyn sydd ei angen, a’i bod hi’n cael yr effaith fwyaf positif posib o dan yr amgylchiadau rŷn ni’n ffeindio’n hunain ynddyn nhw. A dwi’n dweud hynny nid yn unig am fod COVID, wrth gwrs, yn taflu ei gysgod dros bob dim, nid yn unig chwaith am fod gadael yr Undeb Ewropeaidd yn dal i gael effaith ar economi Cymru, nac am fod lefel uchel chwyddiant a chynnydd costau byw oll yn mynd i gael effaith sylweddol ar waith y Llywodraeth, ar wasanaethau cyhoeddus ac ar fywydau teuluoedd ar draws Cymru, ond dwi’n sôn hefyd am annigonolrwydd y setliad gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig.
Nawr, fel rŷn ni wedi clywed sawl gwaith, ac mi ategodd y Gweinidog hyn yn ei datganiad hi, pe bai’r gyllideb sy’n dod i Gymru wedi cynyddu’n unol â maint economi’r Deyrnas Unedig ers 2010, yna fyddai gan Gymru £3 biliwn yn ychwanegol yn y gyllideb ddrafft sydd o’n blaenau ni heddiw. Mewn cyllideb o faint yr un sydd gennym ni, mae £3 biliwn yn swm arwyddocaol iawn, iawn. Yn lle hynny, wrth gwrs, ac yn wahanol i’r Alban a Gogledd Iwerddon, mae Cymru yn gorfod troedio’r bil ar gyfer prosiectau fel rheilffordd HS2, sy’n cael ei hadeiladu’n gyfan gwbl y tu allan i Gymru ac er anfantais i’r economi Gymreig. Mae’r toriad creulon gan y Prif Weinidog i gredyd cynhwysol wedi cymryd dros £0.25 biliwn allan o economi Cymru, ac mi fydd e’n gadael dros 0.25 miliwn o deuluoedd Cymru yn wynebu cael eu plymio i dlodi. Mae’r Ceidwadwyr wedi torri addewidion ar arian Ewropeaidd hefyd. Fe soniodd y Gweinidog am y £46 miliwn rŷn ni wedi’i dderbyn o’r community renwal fund, lle bydden ni, wrth gwrs, wedi derbyn £375 miliwn petai ni'n dal yn yr Undeb Ewropeaidd. Er eu haddewid nhw yn San Steffan na fyddai Cymru geiniog ar ei cholled, mae’r gyllideb ar gyfer cefnogaeth amaethyddol £137 miliwn yn llai eleni, ac mi fydd hi'n £106 miliwn yn brin y flwyddyn nesaf.
Er, felly, bod y setliad ar yr olwg gyntaf yn edrych yn reit bositif, y gwir yw ei fod yn llawer mwy heriol nag y mae'n ymddangos. Erbyn diwedd y drydedd flwyddyn, mi fydd y gyllideb refeniw i fyny dim ond 0.5 y cant mewn termau real, ac mi fydd y gyllideb gyfalaf wedi disgyn tua 11 y cant.
Nawr, mae proffil y gyllideb yn heriol hefyd, wrth gwrs, gyda'r cynnydd yn uwch yn y blynyddoedd cyntaf, neu yn y flwyddyn gyntaf yn benodol. Mae hynny'n golygu, er bod blwyddyn 1 yn lled gadarnhaol, mae'n stori wahanol yn y blynyddoedd dilynol. Canlyniad hynny yw y bydd y gyllideb iechyd, er enghraifft, yn codi 8 y cant yn y flwyddyn gyntaf, ond yna dim ond 0.8 y cant yn yr ail flwyddyn a 0.3 y cant yn y drydedd flwyddyn. Mae’r stori’n debyg ar gyfer awdurdodau lleol a chyllidebau eraill hefyd. Felly, tra bod cyllideb 2022-23 yn heriol am y rhesymau y gwnes i grybwyll gynnau, mi fydd cyllidebau 2023-24 a 2024-25 hyd yn oed yn anos.
Nawr, dwi'n croesawu bod Llywodraeth Cymru yn bwriadu defnyddio ei phwerau benthyca cyfalaf yn llawn yn y blynyddoedd yma sydd i ddod—rhywbeth y mae Plaid Cymru, wrth gwrs, wedi galw amdano fe ers amser—er mwyn buddsoddi mewn gwella isadeiledd a chryfhau seiliau twf yn yr economi Cymreig, ac mae'n hen bryd, os caf i ddweud, i hynny ddigwydd.
Dwi eisiau dweud ychydig hefyd am setliad awdurdodau lleol, oherwydd roedd ariannu awdurdodau lleol, wrth gwrs, o dan bwysau sylweddol cyn y pandemig, gyda Chanolfan Llywodraethiant Cymru yn awgrymu bod gwariant y pen yn 2019-20 9.4 y cant yn is nag yr oedd e ddegawd ynghynt. Mae’r heriau hynny, wrth gwrs, wedi dwysáu yn y ddwy flynedd ddiwethaf. Mae costau gwasanaethau wedi cynyddu wrth i awdurdodau lleol ymateb yn arwrol, os caf i ddweud, i’r angen i ymgymryd â chyfrifoldebau ychwanegol a newydd o ganlyniad i COVID, gan gynnwys pethau fel gweinyddu taliadau grant i fusnesau, ehangu cymorth digartrefedd, rhoi'r gwasanaeth olrhain a chysylltu ar waith, ac yn y blaen ac yn y blaen, ac, ar yr un pryd, fe gollwyd ffynonellau refeniw pwysig o wahanol wasanaethau fel hamdden a gwasanaethau diwylliannol ac yn y blaen.
Fel mae'n sefyll ar hyn o bryd, mae nifer o’r heriau rheini'n dal i fodoli. Nawr, allwn ni ddim ond croesawu’r cynnydd ar gyfartaledd o 9.4 y cant i'r setliad awdurdodau lleol yn y gyllideb ddrafft hon, wrth gwrs, ond pan ŷch chi'n sylweddoli fod y cynnydd yn cymryd lle pethau fel y gronfa galedi i awdurdodau lleol, a bod disgwyl i elfennau eraill megis newidiadau i ariannu digartrefedd a chwestiynau ynglŷn ag ariannu ffyrdd, fel y clywsom yn gynharach, a'r newid i’r grant gweithlu gofal cymdeithasol, i gyd angen dod allan o'r setliad, ynghyd â phethau fel codiadau cyflog sydd ar y gweill, a phwysau eraill megis costau ynni uwch, chwyddiant uchel, ac yn y blaen ac yn y blaen, yna yn sydyn, wrth gwrs, dyw e ddim yn edrych mor hael. Unwaith eto, mae’n debyg mai yn yr ail a’r drydedd flwyddyn y gwelwn yr heriau mwyaf sylweddol o safbwynt awdurdodau lleol wrth i'r esgid wasgu ymhellach.
Tra, felly, bod yna lawer yn y gyllideb hon rŷn ni yn ei groesawu, a hynny yn bennaf, fel roeddwn i'n dweud, yr adnoddau sy'n cael eu clustnodi ar gyfer y polisïau radical a phellgyrhaeddol sydd yn y cytundeb cydweithio, mae mwy i'r gyllideb na hynny, ac fe fyddwn ni, fel y pleidiau eraill, yn craffu ar y gyllideb yn fanwl, yn bennaf drwy waith y pwyllgorau o hyn ymlaen, dros yr wythnosau sydd i ddod, fel sydd, wrth gwrs, yn hawl ac yn gyfrifoldeb i bob Aelod o'r Senedd yma.