Part of the debate – Senedd Cymru am 3:45 pm ar 11 Ionawr 2022.
Wrth groesawu datganiad y gyllideb a'r ddadl hon, mae'n rhaid i mi gofnodi fy siom o ran ein hagenda newid hinsawdd. Bydd yr Aelodau yn ymwybodol iawn o fy mhryderon a gafodd eu codi yn y Senedd bod Llywodraeth Cymru yn parhau i wthio trefniadau hirdymor ar gyfer llywodraethu amgylcheddol i'r cefndir, gan wastraffu'r cyfle hwn i Gymru fod yn arweinydd byd-eang ym maes diogelu amgylcheddol gwyrdd. Yn wir, er bod Natural England yn cael cynnydd o 47 y cant yng nghyllid Llywodraeth y DU, mae data a gafodd ei ddarparu gan Cyswllt Amgylchedd Cymru, drwy eu cyflwyniad ymgynghori cyllidebol, yn dangos bod cyllid Cyfoeth Naturiol Cymru wedi gostwng 35 y cant rhwng 2013 a 2020. Yn ystod yr un cyfnod, mae erlyniadau ynghylch troseddau amgylcheddol wedi gostwng 61 y cant, gydag aelodau Cyswllt Amgylchedd Cymru yn codi pryderon yn briodol am ddiffyg capasiti ymddangosiadol ar gyfer rhaglenni monitro cadarn a rheoli safleoedd gwarchodedig. Yn ôl fy nadansoddiad i fy hun, mae CNC nawr ar fin cael toriad mewn cyllid mewn termau real, gyda nhw'n parhau i fod ar £69.7 miliwn ar gyfer 2022-23. Felly, er mwyn diogelu ein mannau gwyrdd, rwy'n gofyn i'r Gweinidog adolygu'r sefyllfa hon, a cheisio defnyddio pa adnoddau bynnag sydd ar gael i gyflwyno fframwaith ar gyfer swyddfa annibynnol hirdymor ar gyfer diogelu'r amgylchedd.
O ran dadansoddi cyllidebau, rwyf i hefyd yn sylwi ar bryderon ynghylch y ffaith bod llinellau'r gyllideb ar gyfer y môr a physgodfeydd yn aml yn mynd yn ddyrys. Gyda chadwraeth forol yn bryder canolog i lawer o drigolion ar hyd yr arfordir yma, yn y gogledd, mae lefel bresennol yr anhawster wrth geisio nodi pa lefel o gyllideb sy'n cael ei darparu ar gyfer bioamrywiaeth forol neu adfer cynefinoedd, o'i chymharu â'r arian sydd ar gael i gefnogi'r diwydiant pysgota—. Nid yw yno. Felly, yn enw tryloywder, a fyddai'r Gweinidog yn ceisio darparu dadansoddiad ychwanegol fel y byddai modd craffu ar hyn yn haws?
Mewn mannau eraill, rwy'n cydnabod y bydd swm amhenodol yn mynd tuag at sefydlu cwmni ynni sy'n eiddo i'r cyhoedd. O ystyried y materion y mae cwmni Bristol Energy wedi'u hwynebu, pryd cafodd yr ased aflwyddiannus ei werthu am £14 miliwn, a oedd yn llawer llai na'r £36.5 miliwn a gafodd ei fuddsoddi gan Gyngor Dinas Bryste, efallai y byddai'n well gwario'r arian hwn yn sefydlu treial microgrid yn y gogledd. Mae'r rhai sy'n gwneud penderfyniadau ym Mae Caerdydd wedi cydnabod ers tro bod Cymru'n parhau i wynebu argyfwng capasiti grid, sy'n achosi toriadau diangen yn y system, gan atal cynnydd ystyrlon a hirdymor yn chwyldro diwydiannol gwyrdd y genedl. Byddai meithrin treial microgrid o'r fath yn y gogledd yn cyd-fynd â strategaeth ynni'r gogledd. Felly, rwy'n gofyn i'r Gweinidog edrych eto ar y gyllideb hon fel bod modd cydnabod ein diddordeb cyffredin mewn cynnydd o'r fath gyda'r adnodd y mae'n ei haeddu.
Yn olaf, mae'n bryder i mi fod y gyllideb yn ceisio darparu £1 miliwn o gyllid refeniw i sefydlu cwmni adeiladu cenedlaethol a fydd, i bob pwrpas, yn cystadlu â'n datblygwyr eiddo sy'n gweithio'n galed. O sgyrsiau gyda'r diwydiant, gwn i fod y sector preifat yn barod i ddarparu tai a chreu cyfleoedd cyflogaeth. Fodd bynnag, fel y gall fy ngrŵp rhanddeiliaid fy hun dystio, gwyddom ni fod 10,000 o gartrefi newydd yn cael eu rhwystro drwy ganllawiau trafferthus CNC ar ffosffadau. Mae angen i'r Gweinidog Newid Hinsawdd egluro pa adnoddau y bydd Llywodraeth Cymru yn eu neilltuo i glirio'r rhwystr ar adeiladu tai ledled Cymru. Ar ôl datgan argyfwng hinsawdd ymhell dros ddwy flynedd yn ôl erbyn hyn, byddai rhywun wedi meddwl erbyn hyn y byddai'r gyllideb hon wedi adlewyrchu blaenoriaethau Llywodraeth Cymru o ran newid hinsawdd a'n hallbynnau carbon. Yn amlwg, wrth ddarllen drwyddi, nid yw'n amlwg iawn o gwbl bod y pwyslais hwn mor ystyrlon ag y dylai fod. Diolch, Dirprwy Lywydd.