Part of the debate – Senedd Cymru am 5:35 pm ar 11 Ionawr 2022.
A dydy pethau ddim cweit mor straightforward, wedi dweud hynny, efo'r ail set, sef rheoliadau Rhif 23. Y nod canolog yn fan hyn—rydym ni'n hapus iawn efo hynny—ydy'r rheoliadau ar weithio o gartref. Roedd hynny'n gwneud synnwyr, dwi'n credu, ac yn dilyn cyngor gwbl glir gan gynghorwyr gwyddonol, technegol y Llywodraeth. Ond mae yna elfen o'r rheoliadau yma dydyn ni ddim yn gyfforddus efo nhw, sef yr elfen o fygythiad o ddirwy i weithwyr unigol os dydyn nhw ddim yn gweithio o gartref lle bo hynny'n bosib. I ni, i'r TUC—rydym ni'n ddiolchgar am y gwaith mae'r TUC wedi gwneud ar hyn—ac i lawer o bobl sydd wedi codi pryder am hyn, dydy hyn ddim yn dderbyniol. Mi eglurodd y Prif Weinidog fod hyn yn warchodaeth i weithwyr mewn rhyw ffordd. Dwi ddim yn derbyn hynny. Mi ddywedodd fod hyn yn adlewyrchu'r rheolau sydd wedi bod mewn grym yn gynharach yn y pandemig. Mi wnaeth y Gweinidog ailadrodd hynny heddiw ac rydym ni wedi clywed nad oes unrhyw un wedi cael dirwy o gwbl. Wel, dydy hynny ddim yn cyfiawnhau'r hyn sy'n annheg ac yn anghyfiawn yma o ran egwyddor, dwi ddim yn credu. Mater o sicrhau diogelwch yn y gweithle ydy hyn, onid e, mewn difrif, ac i ni dydy hi ddim yn dderbyniol rhoi'r onus ar gyflogeion unigol i sicrhau eu diogelwch eu hunain yn y gweithle; y cyflogwr sy'n gorfod cario'r cyfrifoldeb yn hynny o beth. Dyna'r sail resymol i faterion yn ymwneud â diogelwch yn y gweithle. A thra dydw i ddim eisiau dirwyon i gael eu rhoi i gyflogwyr chwaith—dwi eisiau i bobl gadw at y rheoliadau—mae'n iawn mai'r cyflogwr sy'n gorfod wynebu'r bygythiad hwnnw os ydy'r rheoliadau'n cael eu torri.
Mae'r Llywodraeth wedi newid tipyn o'r canllawiau o gwmpas y rheoliadau, ond mae'r rheoliadau sylfaenol yn aros fel yr oedden nhw. Felly, fel mae hi'n sefyll, mi fyddwn ni'n pleidleisio yn erbyn y rheoliadau yma. Mi ydw i, serch hynny, yn mynd i wrando'n astud ar yr hyn sydd gan y Gweinidog i'w ddweud. Os gallwn ni gael sicrwydd cliriach na fydd gweithwyr yn cael eu dirwyo, na fydd y bygythiad yno, ac y bydd, yn bwysicach, rheoliadau newydd yn cael eu llunio ar frys a fyddai'n rhoi cyfrifoldeb ar y cyflogwr ac nid y cyflogai—gwneud hynny'n glir—mi fuasem ni'n barod i ymatal er mwyn cadw'r elfen greiddiol bwysig yna o ran gweithio o gartref, er wrth gwrs dwi'n gobeithio ein bod ni'n agosáu at allu codi'r gofyniad hwnnw hefyd. Fel dwi'n dweud, mi wrandawaf yn ofalus iawn ar ymateb y Gweinidog.
Yn olaf, dwi'n troi at reoliadau 25. Dyw'r rhain ddim yn syml chwaith. Rydyn ni'n cefnogi'n gryf yr egwyddor greiddiol bod codi'r lefel o reoliadau diogelu'r cyhoedd wedi bod yn beth synhwyrol i wneud yn wyneb y dystiolaeth oedd gennym ni yn y cyfnod yna cyn y Nadolig ar y bygythiad roeddem ni'n ei wynebu, ond mae yna elfen o'r rheoliadau dydyn ni ddim yn cyd-fynd â nhw—mi wnaethom ni godi hynny cyn iddyn nhw gael eu cyflwyno; mae'n rhywbeth rydw i ac eraill wedi cyfeirio ato fo heddiw droeon ar draws y pleidiau gwleidyddol—a hynny ydy'r nifer o bobl sy'n cael ymgynnull y tu allan, yn cynnwys ar gyfer digwyddiadau chwaraeon. Dydyn ni ddim yn credu bod yr uchafswm o 50 wedi bod yn gymesur, ac mae bod yn gymesur ac ymddangos yn deg yn gorfod bod yn rhan hanfodol o reoliadau. Wrth ymateb i alwadau am ddileu'r rheoliadau yna ar ganiatáu torfeydd mewn gemau chwaraeon mawr, beth ddywedodd y Llywodraeth oedd mai'r ffactor mwyaf, o bosib, efo digwyddiadau ydy nid gwylio'r gêm ei hun, yn angenrheidiol, ond y pethau eraill sy'n gysylltiedig â nhw—y niferoedd sydd yn teithio ar drafnidiaeth gyhoeddus ar yr un pryd neu yn ymgynnull mewn tafarndai cyn ac ar ôl gêm. Wel, efallai bod hynny yn wir efo'r digwyddiadau mwyaf—hyd yn oed efo'r rheini, dwi'n dymuno bod y Llywodraeth yn codi’r cyfyngiadau mor fuan â phosib fel bod modd cario ymlaen efo'r gemau chwe gwlad, er enghraifft—ond os edrychwn ni’n sicr ar yr haenau is yna o chwaraeon—gemau pêl-droed a rygbi lleol neu genedlaethol sy’n denu cannoedd yn hytrach na degau o filoedd o bobl—wel, sori, ond dydy’r dadleuon dros bobl yn heintio'i gilydd mewn niferoedd mawr ar drafnidiaeth gyhoeddus ac mewn tafarndai, yn amlwg, ddim yn dal dŵr yn yr un ffordd.
Rŵan, oherwydd ein bod ni yn gytûn efo’r egwyddor greiddiol o godi y lefel rhybudd, wnawn ni ddim gwrthwynebu, ond mae ein penderfyniad ni i ymatal ar hyn heddiw, dwi’n meddwl, yn adlewyrchu’r teimlad y gellid bod wedi mireinio o gwmpas y digwyddiadau chwaraeon yn enwedig, ac fel neges eto ein bod ni’n gofyn, unwaith eto, i’r Gweinidog edrych ar y mater hwnnw, p’un ai efo gemau chwaraeon neu parkruns ac ati, a hynny mor fuan â phosib. Diolch.