– Senedd Cymru am 5:18 pm ar 11 Ionawr 2022.
Ac felly, dwi'n galw ar y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol i gyflwyno'r cynigion yma. Eluned Morgan.
Llywydd, cynigiaf y cynigion sydd ger ein bron. Fel y nododd y Prif Weinidog yr wythnos diwethaf, omicron bellach yw'r ffurf amlycaf ar y feirws yng Nghymru ac mae achosion wedi bod yn codi'n sydyn. Mae achosion yn llawer uwch yn awr nag yr oedden nhw ar anterth y tonnau blaenorol. Mae omicron eisoes yn rhoi pwysau sylweddol ar y GIG ar yr adeg brysuraf o'r flwyddyn, nid yn unig o dderbyniadau cynyddol i'r ysbyty, ond drwy absenoldebau staff. Mae lefelau salwch staff yn codi yn yr un modd mewn gwasanaethau cyhoeddus eraill. Ger ein bron heddiw mae tair set o reoliadau diwygio. Mae'r rhain yn deillio o'r ffaith bod y Cabinet wedi symud i adolygiad wythnosol o'r rheoliadau coronafeirws ar ôl i'r amrywiolyn omicron gyrraedd a lledaenu.
Yn gyntaf, fe wnaeth diwygiadau rhif 22 o 11 Rhagfyr egluro bod yn rhaid gwisgo masgiau mewn theatrau, sinemâu a neuaddau cyngerdd. Gwnaethon nhw hefyd orchuddion wyneb yn ofyniad cyfreithiol yn ystod gwersi gyrru proffesiynol a phrofion ymarferol yng Nghymru. O 15 Rhagfyr, dilëwyd adferiad blaenorol neu imiwnedd naturiol fel ffordd o ddangos statws COVID-19 at ddibenion y pas COVID.
Yn ail, ger ein bron heddiw mae diwygiadau Rhif 23. O 20 Rhagfyr, gosododd y rhain ddyletswydd gyfreithiol ar gyflogwyr i ganiatáu i'w gweithwyr weithio gartref pan fyddai hyn yn fesur rhesymol i'w gymryd, ac ar gyflogeion i wneud yr un peth pan fo'n ymarferol. Mae pwysigrwydd gweithio gartref fel mesur lliniaru wedi'i nodi dro ar ôl tro gan SAGE a TAG. Mae hyn yn arbennig o bwysig pan fydd cyfraddau achosion yn y gymuned yn uchel. Gall cysylltiadau yn y gweithle fod yn sbardun sylweddol i drosglwyddo. Bwriedir i ddyletswydd benodol ar yr unigolyn gynorthwyo gweithwyr drwy roi'r gofyniad iddyn nhw nodi a oes anghydfod gyda chyflogwr sy'n gwneud i bobl fynd i'r gwaith pan nad yw'n angenrheidiol neu'n rhesymol. Nid yw hon yn ddarpariaeth newydd; roedd yn ofyniad cyfreithiol hyd at fis Gorffennaf 2020 gyda'r un sancsiynau'n berthnasol bryd hynny fel yn awr. Nid ydym yn ymwybodol o unrhyw hysbysiadau cosb benodedig sydd wedi'u cyflwyno i unigolion drwy gydol yr holl gyfnod y bu hyn yn y gyfraith yn ystod 2020. Disgwylir i'r un dull cymesur gael ei gymryd gan gyrff gorfodi o addysgu a chynghori unigolion cyn cymryd unrhyw gamau gorfodi. Rwy'n credu ei bod yn werth dweud, os na chaiff y rhain eu cefnogi, y bydd y rheoliadau hyn yn peidio â bod yn weithredol o ddiwedd heddiw a bydd llai o fesurau ar waith i amddiffyn gweithwyr.
Bydd yr Aelodau'n ymwybodol bod Cymru wedi symud i lefel rybudd 2 ar Ŵyl San Steffan. Darparwyd ar gyfer y mesurau ychwanegol hyn gan reoliadau diwygio Rhif 25, sydd ger ein bron ni heddiw, ac mae'r rhain yn cynnwys gofyniad cyffredinol i fusnesau rhoi mesurau ar waith i sicrhau pellter cymdeithasol o 2m ym mhob safle sy'n cael ei reoleiddio, gan gynnwys gweithleoedd pan fo hynny'n rhesymol. Mae rheol o chwech o bobl ar gyfer ymgynnull mewn lleoliadau, fel, er enghraifft, bwytai a thafarndai ac mewn sinemâu neu theatrau. Rhaid i bob lleoliad trwyddedig gymryd mesurau ychwanegol i ddiogelu cwsmeriaid a staff, gan gynnwys gwasanaeth gweini wrth y bwrdd. Mae gorchuddion wyneb yn ofynnol mewn lleoliadau lletygarwch bob amser, heblaw pan fo pobl yn eistedd. Nid yw digwyddiadau mawr yn cael eu caniatáu; y nifer mwyaf o bobl sy'n cael ymgynnull mewn digwyddiad o dan do yw 30, a 50 yn yr awyr agored, ac mae'n ofynnol i glybiau nos i gau.
Gallaf sicrhau Aelodau nad ydym ni'n cymryd y mesurau hyn yn ysgafn. Mae'r don omicron, fodd bynnag, wedi darparu rhagor o dystiolaeth nad yw'r pandemig yma ar ben. Mae'r digwyddiadau hyn yn bwysig i ddiogelu Cymru. Diolch, Llywydd.
Galwaf nawr ar Gadeirydd y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad, Huw Irranca-Davies.
Diolch, Llywydd, a diolch, Gweinidog, hefyd. Ystyriwyd y rheoliadau hyn yn ein cyfarfod ddoe, a gosodwyd ein hadroddiadau i'r Senedd sy’n cynnwys pwyntiau adrodd ar y rhinweddau ar gyfer pob un o'r rheoliadau hyn yn syth wedyn.
Nawr, weithiau, rwy'n ymwybodol bod cydweithwyr weithiau'n gweld ein harsylwadau ychydig yn sych wrth i ni geisio taflu goleuni, yn hytrach na gwres, ond byddwch yn amyneddgar, gan ein bod yn gobeithio y bydd ein sylwadau'n helpu'r Senedd hon yn ei gwaith craffu ac yn helpu'r Llywodraeth drwy wella'r ddeddfwriaeth a'r rheoliadau a'r esboniadau a ddaw yn ei sgil.
Nawr, mae ein hadroddiadau ar y rheoliadau hyn yn codi'r hyn y bydd Aelodau bellach yn ei gydnabod fel pwyntiau teilyngdod eithaf cyfarwydd o dan Reol Sefydlog 21.3, sef tynnu sylw at unrhyw ymyrraeth bosibl â hawliau dynol a diffyg ymgynghori ffurfiol. Rydym wedi cydnabod cyfiawnhad Llywodraeth Cymru ynglŷn â'r pwyntiau hyn, fel y nodir yn y memoranda esboniadol.
Nawr, yn dilyn y pwyntiau adrodd hyn, rydym hefyd wedi nodi pwyntiau adrodd ychwanegol ar gyfer rheoliadau Rhif 22 a Rhif 23. O ran rheoliadau Rhif 22, fe wnaethom nodi nad oes asesiad o'r effaith ar gydraddoldeb. Felly, gofynnwyd i Lywodraeth Cymru egluro pa drefniadau y mae wedi'u gwneud mewn perthynas â'r rheoliadau hyn i gyhoeddi adroddiadau ar asesiadau o'r effaith ar gydraddoldeb yn unol â rheoliad 8(1)(d) o Reoliadau Deddf Cydraddoldeb 2010 (Dyletswyddau Statudol) (Cymru) 2011.
Yn ogystal â hyn, ac fel y nodwyd yn rheoliadau Rhif 22, o 15 Rhagfyr 2021, dilëwyd imiwnedd naturiol fel ffordd o ddangos statws COVID-19 at ddibenion y pas COVID. Mae'r memorandwm esboniadol i'r rheoliadau yn nodi bod
'asesiadau effaith cryno wedi'u cyhoeddi yn flaenorol sy’n cynnwys effeithiau sy’n ymwneud â gorchuddion wyneb.'
Fodd bynnag, ni chyfeirir at asesiadau o'r effaith ar gydraddoldeb sy'n ymwneud â newidiadau i reoliadau sy'n eithrio imiwnedd naturiol fel ffordd o ddangos statws COVID-19 at ddibenion y pas COVID.
Nawr, mae Llywodraeth Cymru bellach wedi cadarnhau y bydd asesiad effaith wedi'i ddiweddaru yn cael ei gyhoeddi cyn bo hir, ac rydym yn croesawu hynny. Ond, o gofio bod y rheoliadau hyn wedi bod mewn grym ers canol mis Rhagfyr, wrth i ni siarad, gobeithiwn y bydd y Gweinidog yn cytuno â ni y dylid cyhoeddi'r diweddariadau hyn, pan fo hynny'n bosibl, mewn modd mwy amserol ac, yn wir, y gwneir hyn yn y dyfodol, pryd bynnag y bo modd.
Felly, o ran eithrio adferiad blaenorol, h.y. imiwnedd naturiol, mae'r memorandwm esboniadol yn nodi bod y diben hwn
'yn cael ei gyfiawnhau ar sail iechyd y cyhoedd' yn ogystal â chynrychioli
'cryfhau'r gofynion fel y cynigiwyd yn flaenorol gan y Grŵp Cyngor Technegol ac fe'i cefnogir gan y Prif Swyddog Meddygol.'
Fodd bynnag, ni chyfeirir at y dystiolaeth y mae Llywodraeth Cymru wedi dibynnu arni i wneud y ddarpariaeth hon. Felly, gofynnwyd i Lywodraeth Cymru nodi'r dystiolaeth sy'n dangos bod eithrio imiwnedd naturiol fel ffordd o ddangos statws COVID-19 at ddibenion y pas COVID, mewn dyfyniadau, yn 'cael ei gyfiawnhau ar sail iechyd y cyhoedd'.
Ers hyn, mae Llywodraeth Cymru, a diolchwn iddyn nhw am hyn, wedi rhannu gwybodaeth bellach gyda ni, gan gynnwys cofnodion cyfarfod SAGE 99 a gynhaliwyd ar 16 Rhagfyr 2021, ac a nodir yn ein hadroddiad. Felly, Gweinidog, wrth groesawu'r wybodaeth ychwanegol honno, rydym yn atgoffa Llywodraeth Cymru yn barchus ac yn dyner, os oes gennym wybodaeth lawnach a chynnar yn y memorandwm esboniadol sy'n cyd-fynd â'r rheoliadau pan gânt eu gosod gerbron y Senedd, y byddai'n fuddiol i'r gwaith craffu ac yn ddefnyddiol i bob un ohonom ni.
Fe wnaethom ni hefyd ofyn am ymateb gan Lywodraeth Cymru o ran dau bwynt teilyngdod a godwyd yn ein hadroddiad ar reoliadau Rhif 23, sydd, fel y gŵyr yr Aelodau, yn newid y darpariaethau sy'n ymwneud â gweithio gartref. Unwaith eto, gofynnwyd i Lywodraeth Cymru egluro pa drefniadau y mae wedi'u gwneud ynglŷn â'r rheoliadau hyn i gyhoeddi adroddiadau ar asesiadau o'r effaith ar gydraddoldeb yn unol â Rheoliadau Deddf Cydraddoldeb 2010 (Dyletswyddau Statudol) (Cymru) 2011.
Yn ogystal â hyn, mae'r memorandwm esboniadol sy'n cyd-fynd â rheoliadau Rhif 23 yn nodi, a dyfynnaf,
'mae asesiadau effaith cryno yn cael eu paratoi a fydd yn cynnwys effeithiau sy’n ymwneud â gweithio gartref.'
Fodd bynnag, nid yw'n glir a fydd yr asesiadau hyn yn cynnwys asesiad o'r effaith ar gydraddoldeb. Gan nad yw'r asesiadau hyn wedi'u cyhoeddi eto, nid yw'r cyhoedd, yn ogystal â'r Senedd, ychwaith yn gallu asesu effaith ar gydraddoldeb y ddarpariaeth newydd sy'n cael ei chyflwyno gan y rheoliadau hyn.
Nawr, ymatebodd y Llywodraeth, yn wir, i'n hadroddiad yn gynharach heddiw, ac, ynglŷn â'r pwynt hwn, dywedwyd wrthym fod Llywodraeth Cymru yn paratoi ac yn cyhoeddi asesiadau effaith cryno fel mater o drefn ar y newidiadau yn y rheoliadau coronafeirws, mewn dyfyniadau
'cyn gynted â phosibl ar ôl pob cyfnod adolygu.'
Felly, fe wnaf ailadrodd unwaith eto bwynt yr wyf eisoes wedi'i wneud, y byddai'n ein helpu ni i gyd pe bai'r rhain yn cael eu cyhoeddi cyn gynted â phosibl mewn modd amserol. Ac, yn wir, credwn y dylen nhw.
Mae ein pwynt adrodd diwethaf yn ymwneud â chreu trosedd i unigolion sy'n torri'r gofyniad i weithio gartref pan fo'n rhesymol ymarferol iddyn nhw wneud hynny. Nawr, unwaith eto, nid yw'r memorandwm esboniadol yn nodi nac yn cysylltu ag unrhyw dystiolaeth benodol y mae Llywodraeth Cymru yn dibynnu arni wrth wneud y ddarpariaeth hon, felly rydym wedi gofyn i Lywodraeth Cymru nodi'r dystiolaeth berthnasol sy'n cefnogi tynhau sylweddol ar y cyfyngiadau ar weithio gartref ar hyn o bryd.
Ac, yn yr ymateb a gawsom heddiw tua amser cinio, mae Llywodraeth Cymru wedi ein cyfeirio at yr is-grŵp gweithredol Modelu Ffliw Pandemig Gwyddonol ar gyfer SAGE o fis Mehefin 2021, a'r cyngor gan y gell cyngor technegol o fis Rhagfyr 2021. Mae ymateb Llywodraeth Cymru hefyd yn nodi bod data arolygon a symudedd ar yr adeg y gwnaed y penderfyniad yn dangos nad oedd canllawiau a negeseuon yn cael yr effaith a ddymunir o ran symud cyfran y bobl sy'n gweithio gartref yng Nghymru i leihau lledaeniad COVID, a nodwn yr ymateb hwnnw a diolchwn i'r Gweinidog am yr ymateb hwnnw.
Felly, Gweinidog, mewn perygl o ailadrodd ac i gloi, mae ein pwyllgor, unwaith eto, gan gydnabod natur frys y rheoliadau dilynol hyn sy'n ymwneud â'r coronafeirws, yn gofyn yn syml y dylai gwybodaeth lawnach fod ar gael ar y dechrau pryd bynnag y bo modd pan fydd rheoliadau'n cael eu gosod gerbron y Senedd, oherwydd byddai'n well i'r Senedd a'r cyhoedd graffu arnyn nhw, ond hefyd yn well i'r Llywodraeth wrth wneud ei hachos. Diolch yn fawr iawn.
A gaf i ddweud, Gweinidog, fy mod yn credu ei bod yn gwbl annerbyniol ar yr adeg hon yn y pandemig ein bod yn pleidleisio ar y rheoliadau hyn yn ôl-weithredol? Roedd hyn, wrth gwrs, yn ddealladwy bron i ddwy flynedd yn ôl ar ddechrau'r pandemig, ond rydym ni yn awr mewn cyfarfod rhithwir, lle gellir gofyn am gyfarfodydd yn haws, ac rydym yn awr mewn sefyllfa lle y dylid trafod y rheoliadau yn gyntaf cyn i'r rheoliadau ddod i fodolaeth. Rwy'n credu bod angen i ni hefyd weld y dystiolaeth wyddonol sydd y tu ôl i'r rheoliadau yn cael ei darparu'n llawer cynharach, nid yn hwyr fel y bu yn achos y rheoliadau hyn hefyd.
Ac mae nifer o anghysonderau, rwy'n credu, yn y set bresennol o reoliadau, Gweinidog. Bu cryn dipyn o drafod heddiw ar ddigwyddiadau parkrun, er enghraifft, yn ystod cwestiynau'r Prif Weinidog a'r eitem olaf hefyd. Rwy'n credu bod gwaharddiad ar ddigwyddiadau awyr agored, fel digwyddiadau parkrun, sy'n denu mwy na 50 o bobl fel uchafswm presenoldeb, fel y nodwyd gennych, yn amhriodol. Rwyf wedi clywed, Gweinidog, eich esboniad yn yr eitem flaenorol, ond soniodd Aelodau eraill am yr agweddau ymarferol o ran goresgyn rhai o'r materion. Rydych chi, rwy'n credu, Gweinidog, yn yr eitem ddiwethaf, wedi sôn am rywfaint o hyblygrwydd gan y trefnwyr. Wel, byddwn i'n awgrymu bod gennych chi, Gweinidog, hyblygrwydd o ran y rheoliadau ac o ran adolygu'r rheoliadau yn ddiweddarach yr wythnos hon. Rwy'n clywed yr hyn yr ydych yn ei ddweud o ran digwyddiadau parkrun, Gweinidog, ond rwy'n credu ei bod yn hurt bod 50 o wylwyr ar yr ystlys mewn gêm rygbi ddiweddar yng Nghaerffili, ond 140 y tu fewn i'r clwb. Felly, mae hyn yn cyfeirio at agweddau sylweddol ar y rheoliadau nad ydyn nhw'n gymesur. Ac, wrth gwrs, mae'r rheoliadau hyn, yn enwedig o ran digwyddiadau chwaraeon awyr agored, yn cael effaith sylweddol ar iechyd meddwl a lles pobl hefyd. Wrth gwrs, fe dynnaf sylw heddiw at y ffaith y daw'r cyfyngiadau ar ddigwyddiadau awyr agored mawr yn yr Alban i ben o ddydd Llun ymlaen.
Cyhoeddwyd tystiolaeth y grŵp cyngor technegol diwethaf ar 17 Rhagfyr, nad yw llwyr yn ystyried y dystiolaeth sy'n ymddangos yn awr. Ni fyddwn ni, fel Ceidwadwyr Cymreig, Gweinidog, yn cefnogi'r rheoliadau hyn heddiw. Mae cryn nifer o agweddau ar y rheoliadau yr ydym ni'n eu cefnogi, yn enwedig o ran y gofynion amrywiol ar gyfer masgiau wyneb ac agweddau eraill hefyd. Byddwch yn ymwybodol, Gweinidog, ein bod wedi cefnogi'r mwyafrif llethol o reoliadau Llywodraeth Cymru o'r blaen, er y bu gennym bryderon am agweddau ar y rheoliadau hynny, ond mae arnaf ofn, y tro hwn, fod mwy o anghysondebau nad ydyn nhw, ar y cyfan, yn ei gwneud yn briodol i'r Ceidwadwyr Cymreig roi eu cefnogaeth i'r rheoliadau.
Rydych wedi amlinellu, Gweinidog, os na chaiff y rheoliadau hyn eu cefnogi heddiw, y bydd y rheoliadau wedyn yn dod i ben a bydd llai o gyfyngiadau yng Nghymru. Yr hyn y byddwn i yn ei ddweud am hynny, Gweinidog, yw bod angen i'r rheoliadau gael eu cyflwyno a chael eu trafod cyn iddyn nhw ddod i rym, ynghyd â'r dystiolaeth wyddonol sy'n cael ei chyhoeddi bryd hynny hefyd, ac yna ni fyddem yn y sefyllfa fel y gwnaethoch chi ei nodi. Diolch.
Diolch am y cyfle i amlinellu safbwynt Plaid Cymru ar y tri set o reoliadau yma. Mi wnaf i eu cymryd nhw yn eu trefn, yn dechrau efo'r hawsaf, Rhif 22. Dwi ddim yn gweld bod yna lawer yn ddadleuol yn fan hyn; newidiadau bach sydd yna, mewn difrif, o ran ambell i ddiffiniad o gwmpas y pàs COVID, o ran gwisgo gorchudd wyneb. Rydyn ni'n hapus i'w cefnogi nhw. Yr unig beth y gwnaf innau dynnu sylw ato fo yn fan hyn, fel rydw i ac eraill wedi gwneud droeon o'r blaen dros bron i'r ddwy flynedd ddiwethaf, yw bod y rheoliadau yma'n rhai sydd wedi cael eu gosod ers dros fis. Mi ddaethon nhw i rym union fis yn ôl. Oes, mae yna resymau drwy gydol y pandemig yma i fod wedi gweithredu'n gyflym, ond mae'n adlewyrchiad gwael yn ddemocrataidd arnom ni fel Senedd nad ydym ni'n cael cyfle i bleidleisio arnyn nhw tan fis ar ôl i reoliadau ddod i rym. Yn ymarferol, does dim ots efo'r rheoliadau yma achos rydym ni'n eu cefnogi nhw, fel dwi'n ei ddweud.
A dydy pethau ddim cweit mor straightforward, wedi dweud hynny, efo'r ail set, sef rheoliadau Rhif 23. Y nod canolog yn fan hyn—rydym ni'n hapus iawn efo hynny—ydy'r rheoliadau ar weithio o gartref. Roedd hynny'n gwneud synnwyr, dwi'n credu, ac yn dilyn cyngor gwbl glir gan gynghorwyr gwyddonol, technegol y Llywodraeth. Ond mae yna elfen o'r rheoliadau yma dydyn ni ddim yn gyfforddus efo nhw, sef yr elfen o fygythiad o ddirwy i weithwyr unigol os dydyn nhw ddim yn gweithio o gartref lle bo hynny'n bosib. I ni, i'r TUC—rydym ni'n ddiolchgar am y gwaith mae'r TUC wedi gwneud ar hyn—ac i lawer o bobl sydd wedi codi pryder am hyn, dydy hyn ddim yn dderbyniol. Mi eglurodd y Prif Weinidog fod hyn yn warchodaeth i weithwyr mewn rhyw ffordd. Dwi ddim yn derbyn hynny. Mi ddywedodd fod hyn yn adlewyrchu'r rheolau sydd wedi bod mewn grym yn gynharach yn y pandemig. Mi wnaeth y Gweinidog ailadrodd hynny heddiw ac rydym ni wedi clywed nad oes unrhyw un wedi cael dirwy o gwbl. Wel, dydy hynny ddim yn cyfiawnhau'r hyn sy'n annheg ac yn anghyfiawn yma o ran egwyddor, dwi ddim yn credu. Mater o sicrhau diogelwch yn y gweithle ydy hyn, onid e, mewn difrif, ac i ni dydy hi ddim yn dderbyniol rhoi'r onus ar gyflogeion unigol i sicrhau eu diogelwch eu hunain yn y gweithle; y cyflogwr sy'n gorfod cario'r cyfrifoldeb yn hynny o beth. Dyna'r sail resymol i faterion yn ymwneud â diogelwch yn y gweithle. A thra dydw i ddim eisiau dirwyon i gael eu rhoi i gyflogwyr chwaith—dwi eisiau i bobl gadw at y rheoliadau—mae'n iawn mai'r cyflogwr sy'n gorfod wynebu'r bygythiad hwnnw os ydy'r rheoliadau'n cael eu torri.
Mae'r Llywodraeth wedi newid tipyn o'r canllawiau o gwmpas y rheoliadau, ond mae'r rheoliadau sylfaenol yn aros fel yr oedden nhw. Felly, fel mae hi'n sefyll, mi fyddwn ni'n pleidleisio yn erbyn y rheoliadau yma. Mi ydw i, serch hynny, yn mynd i wrando'n astud ar yr hyn sydd gan y Gweinidog i'w ddweud. Os gallwn ni gael sicrwydd cliriach na fydd gweithwyr yn cael eu dirwyo, na fydd y bygythiad yno, ac y bydd, yn bwysicach, rheoliadau newydd yn cael eu llunio ar frys a fyddai'n rhoi cyfrifoldeb ar y cyflogwr ac nid y cyflogai—gwneud hynny'n glir—mi fuasem ni'n barod i ymatal er mwyn cadw'r elfen greiddiol bwysig yna o ran gweithio o gartref, er wrth gwrs dwi'n gobeithio ein bod ni'n agosáu at allu codi'r gofyniad hwnnw hefyd. Fel dwi'n dweud, mi wrandawaf yn ofalus iawn ar ymateb y Gweinidog.
Yn olaf, dwi'n troi at reoliadau 25. Dyw'r rhain ddim yn syml chwaith. Rydyn ni'n cefnogi'n gryf yr egwyddor greiddiol bod codi'r lefel o reoliadau diogelu'r cyhoedd wedi bod yn beth synhwyrol i wneud yn wyneb y dystiolaeth oedd gennym ni yn y cyfnod yna cyn y Nadolig ar y bygythiad roeddem ni'n ei wynebu, ond mae yna elfen o'r rheoliadau dydyn ni ddim yn cyd-fynd â nhw—mi wnaethom ni godi hynny cyn iddyn nhw gael eu cyflwyno; mae'n rhywbeth rydw i ac eraill wedi cyfeirio ato fo heddiw droeon ar draws y pleidiau gwleidyddol—a hynny ydy'r nifer o bobl sy'n cael ymgynnull y tu allan, yn cynnwys ar gyfer digwyddiadau chwaraeon. Dydyn ni ddim yn credu bod yr uchafswm o 50 wedi bod yn gymesur, ac mae bod yn gymesur ac ymddangos yn deg yn gorfod bod yn rhan hanfodol o reoliadau. Wrth ymateb i alwadau am ddileu'r rheoliadau yna ar ganiatáu torfeydd mewn gemau chwaraeon mawr, beth ddywedodd y Llywodraeth oedd mai'r ffactor mwyaf, o bosib, efo digwyddiadau ydy nid gwylio'r gêm ei hun, yn angenrheidiol, ond y pethau eraill sy'n gysylltiedig â nhw—y niferoedd sydd yn teithio ar drafnidiaeth gyhoeddus ar yr un pryd neu yn ymgynnull mewn tafarndai cyn ac ar ôl gêm. Wel, efallai bod hynny yn wir efo'r digwyddiadau mwyaf—hyd yn oed efo'r rheini, dwi'n dymuno bod y Llywodraeth yn codi’r cyfyngiadau mor fuan â phosib fel bod modd cario ymlaen efo'r gemau chwe gwlad, er enghraifft—ond os edrychwn ni’n sicr ar yr haenau is yna o chwaraeon—gemau pêl-droed a rygbi lleol neu genedlaethol sy’n denu cannoedd yn hytrach na degau o filoedd o bobl—wel, sori, ond dydy’r dadleuon dros bobl yn heintio'i gilydd mewn niferoedd mawr ar drafnidiaeth gyhoeddus ac mewn tafarndai, yn amlwg, ddim yn dal dŵr yn yr un ffordd.
Rŵan, oherwydd ein bod ni yn gytûn efo’r egwyddor greiddiol o godi y lefel rhybudd, wnawn ni ddim gwrthwynebu, ond mae ein penderfyniad ni i ymatal ar hyn heddiw, dwi’n meddwl, yn adlewyrchu’r teimlad y gellid bod wedi mireinio o gwmpas y digwyddiadau chwaraeon yn enwedig, ac fel neges eto ein bod ni’n gofyn, unwaith eto, i’r Gweinidog edrych ar y mater hwnnw, p’un ai efo gemau chwaraeon neu parkruns ac ati, a hynny mor fuan â phosib. Diolch.
Ni fydd yn syndod i'r Gweinidog fod gennyf bryderon mawr ynghylch y dirwyon ar weithwyr yn rheoliad Rhif 23, ac nid fi yw'r unig un, wrth gwrs—fel y nododd Rhun ap Iorwerth, mae'r TUC ac Aelodau eraill wedi codi pryderon. Fel y nodais pan gafodd y Senedd ei galw'n ôl, mae memorandwm cyd-ddealltwriaeth y Llywodraeth yn dangos yn gwbl glir fod y Llywodraeth yn credu bod y berthynas yn gytbwys rhwng gweithwyr a chyflogwyr, sydd yn bell iawn o'r gwir. Roedd pwynt a wnaed gan y Prif Weinidog ar gofnod yn ystod dadl yr adalw fod y dirwyon hyn yn rhoi amddiffyniad ychwanegol i weithwyr, a soniwyd am senario damcaniaethol, ac rwy'n dyfynnu'n uniongyrchol o'r Cofnod yn y fan yma,
'gallant ddweud wrth y cyflogwr, "Ni allaf ddod i weithio ar y telerau hynny, oherwydd, pe bawn yn gwneud hynny, byddwn yn cyflawni trosedd, ac ni allwch fy rhoi yn y sefyllfa honno."'
Gyda'r parch mwyaf, mae'n rhaid i mi ddweud bod hon yn safbwynt gwbl naïf. Mae'n debyg y gallwn i roi sawl enghraifft o sut y byddai'r sgwrs honno wedi bod o'r adeg y gweithiais mewn swyddi isafswm cyflog cyn dod i'r lle hwn, ond rwy'n gwerthfawrogi, wrth gwrs, ein bod yn brin o amser.
Mae'r Llywodraeth hefyd yn pwysleisio'r ffaith nad oes unrhyw weithiwr wedi cael dirwy eto. Mae hyn yn dangos i mi nad yw'r Llywodraeth eisiau i weithwyr gael dirwy yn y lle cyntaf, ac os felly, yna rwy'n ei chael yn anodd deall pam mae'r Llywodraeth am fwrw ymlaen â'r dirwyon ar weithwyr o gwbl. I gloi, Llywydd, dylai'r cyfrifoldeb fod ar gyflogwyr ac nid gweithwyr. Y cyflogwr sy'n gyfrifol am ddiogelwch yn y gweithle, ac nid ydym ni'n sôn am berthynas gytbwys yma.
Mae’r rheoliadau a chanllawiau mae’r Llywodraeth wedi’u gosod dros y ddwy flynedd bron ddiwethaf yma wedi, ar y cyfan, cael cefnogaeth eang, ond mae’r gefnogaeth yma yn gwanhau, a hyn yn dilyn y penderfyniad i atal rhagor na 50 o bobl i ymweld â digwyddiadau awyr agored. Mae coronafeirws, o’r annwyd cyffredin i COVID-19, yn lledu ar yr adeg yma o’r flwyddyn oherwydd bod pobl yn cymysgu o dan do. Ond, o dan y rheoliadau presennol, gall pobl fynd i weld gemau ar y teledu yn y clybiau a thafarndai, fel rydym ni wedi'i glywed yn barod, ond fedran nhw ddim mynd i weld y gêm ar y cae chwarae yn yr awyr agored. Mae rhywun yn deall yr angen i reoli y gemau mwy o faint sydd efo miloedd o bobl yn heidio ar drafnidiaeth gyhoeddus ac i mewn i dafarndai, fel y gwnes i sôn fy hun yn ôl yn ystod gemau rygbi yr hydref. Ac mae rhywun yn deall, wrth gwrs, yr angen i reoli hynny. Ond mae’r rheolau presennol yma, sy’n rhwystro gemau fel Llanuwchllyn yn erbyn Porthmadog yn y pêl-droed, er enghraifft, yn rheoliadau sy’n anghymesur ac, fel y dywedais i, yn peryglu’r gefnogaeth eang sydd wedi bod i reoliadau yn eu cyfanrwydd. A wnewch chi felly ailedrych ar yr elfen yma ac, fel y soniodd Llyr Gruffydd yn gynharach heddiw, edrych ar gynyddu’r uchafswm ar gyfer mynd i weld gemau yn yr awyr agored a chymryd rhan mewn parkrun, a hynny mor fuan â phosib, os gwelwch yn dda?
Yn gyntaf, hoffwn ddiolch i'r Gweinidog a hefyd ei thîm am eu holl waith, dan bwysau, ar yr adeg hon. Diolch i chi am eich ymroddiad i'n cadw ni'n ddiogel. Rwyf hefyd yn ddiolchgar i chi am eich amser i gwrdd â mi. Hoffwn wneud cyfraniad byr i'r drafodaeth ar ddiwygiad 23 i'r rheoliadau COVID.
Rwy'n cyd-fynd yn fawr iawn â chyfraniadau gan Blaid Cymru yma. Fel y gwyddoch chi, rwy'n bryderus o weld y Llywodraeth yn parhau i fynd ar drywydd y diwygiad hwn, a allai weld gweithwyr yn cael dirwy o £60 am dorri'r gyfraith hon. Byddwn i'n hapus i gefnogi'r gwelliant gyda'r ddirwy ar weithwyr yn cael ei dileu a chadw'r cosbau ar y cyflogwyr.
Ar y cyfan, rwyf wedi cefnogi, ac rwy'n parhau i gefnogi, y dull pragmatig y mae'r Llywodraeth hon wedi'i arddel, ond ni allaf gefnogi rhoi dirwy i weithwyr am benderfyniad sydd y tu hwnt i'w rheolaeth yn llwyr. Edrychaf ymlaen at glywed eich barn ar hyn, Gweinidog, a meddwl oeddwn i tybed a allech chi egluro a yw gwelliant 23 yn ymwneud dim ond â'r gofynion hynny ar weithwyr unigol i weithio gartref, ac nid darpariaethau i ddirwyo cyflogwyr nad ydyn nhw'n gwneud darpariaethau i unigolion weithio gartref yn ddiogel. Pe na bai'r rheoliadau hyn yn cael eu cymeradwyo gan y Senedd, a fyddai'r ddarpariaeth i ddirwyo cyflogwyr yn cael ei dileu o'r rheoliadau?
Yn olaf, a wnewch chi ymrwymo i gyflwyno rheoliadau diwygiedig cyn gynted â phosibl sy'n dileu'r ddarpariaeth i ddirwyo gweithwyr? Diolch. Diolch yn fawr iawn.
Y Gweinidog iechyd nawr i ymateb i'r ddadl.
Diolch yn fawr. Diolch am y ddadl ddiddorol honno. Mae'n bwysig iawn ein bod ni'n canolbwyntio ar fanylion rhai o'r pwyntiau y mae Aelodau wedi'u nodi heddiw.
O ran chwaraeon awyr agored, rwyf eisiau ei gwneud hi'n glir ein bod ni wedi clywed barn pobl yn glir iawn o ran chwaraeon awyr agored, ac rwy'n siŵr eich bod chi wedi fy nghlywed i yn gynharach heddiw yn awgrymu y byddwn ni, yn amlwg, yn ceisio datgymalu'r rheolau hynny cyn gynted ag y bydd yn ddiogel gwneud hynny. Yn amlwg, wrth i ni fynd tuag at y brig, nid dyma'r amser i wneud hynny.
Rwyf i eisiau canolbwyntio fy ymateb, os nad oes ots gennych chi, ar reoliad 23. Rwy'n credu ei bod yn bwysig bod Aelodau'n deall ein bod ni, fel Llywodraeth Lafur, yn gwbl awyddus i sicrhau ein bod ni wedi gosod mesurau ar waith sy'n amddiffyn gweithwyr yn ein cymunedau ni. Mae'n bwysig bod Aelodau'n nodi, os nad oes cefnogaeth i'r rheoliad penodol hwn heddiw, y bydd y rheolau hynny sydd wedi bod ar waith ers mis nawr yn peidio â chael effaith o ddiwedd heddiw. Felly, yfory ni fyddai gofyniad penodol i gefnogi pobl i weithio gartref, a bydd llai o amddiffyniadau i weithwyr yng Nghymru. Gobeithio y bydd yr Aelodau'n myfyrio'n ofalus iawn ar hyn cyn bwrw eu pleidlais.
I ateb cwestiwn Jane Dodds yn benodol, byddai'r ddirwy honno i gyflogwyr hefyd yn cael ei dileu o yfory. Rwy'n credu ei bod yn bwysig nodi eto fod hwn yn fesur lliniarol sydd wedi'i nodi dro ar ôl tro gan y Grŵp Cynghori Gwyddonol ar Argyfyngau a'r Grŵp Cyngor Technegol, ac mae wedi bod yn fesur sylfaenol mewn canllawiau ers i ni symud i lefel rhybudd 0. Rwyf i eisiau pwysleisio ein bod ni wedi clywed pryderon Aelodau am y dirwyon ar weithwyr unigol, ond hoffwn i nodi fy mod i'n credu mai'r ffordd o ddatrys hyn yw peidio â threchu'r rheoliadau heddiw—ond i ganiatáu i'r rheoliadau basio ac i drafodaethau ar y materion hyn barhau. Hoffwn i wneud ymrwymiad, os aiff y rheoliadau drwodd, y byddwn ni'n trafod ymhellach a ddylai fod diwygiadau eraill i'r pwyntiau hyn.
Bwriad bod â dyletswydd benodol ar unigolyn yw cefnogi gweithwyr. Rwyf i eisiau gwneud y pwynt hwnnw. Dyna pam yr ydym ni wedi eu rhoi ar waith. Mae'n darparu'r cyfeiriad hwnnw yn y gyfraith petai anghydfod gyda chyflogwr sy'n gwneud i bobl ddychwelyd i'r gweithle pan nad yw'n angenrheidiol nac yn rhesymol.
A gaf i dorri ar draws y Gweinidog am eiliad? Dwi'n gweld bod Rhun ap Iorwerth eisiau gwneud ymyrraeth. Os ydy'r Gweinidog yn cytuno, fe wnaf i ganiatáu'r ymyrraeth.
Dwi'n hapus i wneud hynny.
Diolch i'r Gweinidog am dderbyn yr ymyrraeth. Dwi yn cymryd yr hyn dwi wedi'i glywed gan y Gweinidog yn fanna fel cam positif, ei bod hi'n barod i drafod. Dwi'n meddwl un o'n gofynion ni yw bod hyn yn digwydd ar fyrder. A fyddwn ni'n cael rhywfaint yn rhagor o ymrwymiad o ran parodrwydd i symud yn gyflym iawn ar hyn? Oherwydd dwi'n meddwl ei bod hi'n angenrheidiol, os oes yna newid yn gallu cael ei gyflwyno, bod hynny'n digwydd mor fuan â phosib, a bod y cyngor cyfreithiol angenrheidiol ac ati yn cael ei gymryd fel mater o frys.
Rhun, gallaf roi'r ymrwymiad hwnnw i chi, oherwydd rydym ni'n gobeithio ein bod yn cyrraedd y brig a bydd pobl, gobeithio, yn mynd yn ôl i'r gwaith rywbryd yn fuan iawn. Felly, os ydym ni eisiau gwneud unrhyw newidiadau, yna mae'n gwneud synnwyr i ddeall y byddai'n rhaid i ni eu gwneud yn gyflym iawn er mwyn iddyn nhw wneud unrhyw synnwyr o gwbl. Felly, gallaf i roi'r ymrwymiad hwnnw i chi.
Rwy'n credu mai'r hyn sy'n bwysig—ac rwy'n nodi'r pwyntiau y gwnaeth Luke—yw realiti yr hyn sy'n digwydd ar lawr gwlad yma, o ran y pŵer sydd gan gyflogeion. Rwy'n credu ei bod yn bwysig iawn i bobl ddarllen y canllawiau. Gobeithio, os yw pobl yn pleidleisio ar hyn heddiw, eu bod wedi darllen y canllawiau, oherwydd mae'r canllawiau'n ei gwneud yn gwbl glir bod yr holl bwysau hyn ar gyflogwyr, nid gweithwyr, ac mae'r hyblygrwydd i gyflogeion yn eithaf sylweddol. Ac felly rwy'n gobeithio bod pobl sy'n petruso yma yn gwneud hynny gyda'r wybodaeth lawn am yr hyn sydd yn y canllawiau hynny, oherwydd mae'r canllawiau hynny'n glir iawn ac yn benodol iawn, a gobeithio y bydden nhw'n rhoi rhywfaint o sicrwydd i bobl.
Os caf i, unwaith eto, dorri ar draws y Gweinidog, hoffai Huw Irranca-Davies wneud ymyriad, os yw hynny'n dderbyniol i'r Gweinidog.
Ydy. Yn sicr.
Gweinidog, diolch yn fawr i chi am y sicrwydd hwnnw. Nid wyf i'n siarad fel Cadeirydd y pwyllgor yn y fan yma, rwy'n siarad fel aelod ufudd o'r meinciau cefn, ond mae llawer ohonom ni'n aelodau undeb ac wedi bod ers ein dyddiau cynharaf yno. Rwy'n croesawu'r sicrwydd y mae hi newydd ei roi mewn ymateb i'r cwestiwn gan Rhun am drafodaethau, ond hefyd y pwyslais ar gyflogwyr yma, sy'n bwysig yn fy marn i. Ac ar y sail honno, rwy'n gobeithio'n fawr y bydd y Gweinidog yn cytuno â mi y bydd Rhun ac eraill, a Jane ac eraill, yn gallu cefnogi'r rhain a chael y trafodaethau brys hynny, fel ein bod ni'n egluro bod y pwysau ar y cyflogwr, nid ar weithwyr yma.
Rwy'n gobeithio, pe bai pobl yn teimlo eu bod yn gallu cefnogi'r mesurau hyn heddiw, y bydden nhw wedyn yn cael cyfle i edrych ar fanylion yr hyn yr ydym ni wedi'i nodi yn y canllawiau hynny. Diolch am yr ymyriad hwnnw, Huw.
Yn sicr, yr hyn yr ydym ni wedi'i ddarganfod yw y bu gennym ni ganllawiau ar waith, ond wrth i fygythiad omicron ddod yn gliriach, roedd yn amlwg bod angen i ni gryfhau'r amddiffyniadau, oherwydd yr hyn y gwnaethom ni ei ddarganfod oedd bod y data symudedd yr oeddem ni'n ei weld yn awgrymu, mewn gwirionedd, nad oedd pobl yn cymryd y canllawiau 'gweithio gartref' o ddifrif. Rwy'n credu ei bod yn bwysig bod pobl yn deall bod y canllawiau i weithwyr yn ei gwneud yn gwbl glir y gall pobl fynd i'r gwaith am resymau lles, ac mae'n rhoi cyngor i weithwyr hefyd i sicrhau eu bod yn deall y gallan nhw gael cymorth a chyngor ychwanegol gan eu hundebau neu'r mudiad undebau llafur.
Ar hyn o bryd, mae modd cyflwyno hysbysiadau cosb benodedig o ran unrhyw drosedd, a gall swyddogion gorfodi roi dirwy i berson sydd wedi cyflawni trosedd. Ond yr hyn sy'n fy mhoeni i yw, pe bai'r ddarpariaeth yn cael ei dileu o ran gweithio gartref, y gallai ddangos yn anfwriadol bod y gofyniad i weithio gartref yn cael ei ystyried rywsut yn llai o rwymedigaeth na'r holl ofynion eraill yn y rheoliadau, a gallai wanhau'r gofyniad hwnnw i bwynt lle na fyddai'n effeithiol mwyach. Felly, hoffwn i ailadrodd y pwynt ein bod ni wedi clywed y farn o ran unigolion yn cael eu dirwyo. Rydym ni'n sicr wedi ymrwymo i ystyried hyn, ond y ffordd i ddatrys hyn, hoffwn i danlinellu, yw peidio â threchu'r rheoliadau heddiw; ond caniatáu i'r rheoliadau hynny fynd drwodd, er mwyn caniatáu i'r drafodaeth honno barhau. Byddwn i'n annog yr Aelodau i gefnogi'r rheoliadau sydd ger ein bron ni heddiw. Diolch.
Y cwestiwn nawr yw: a ddylid derbyn y cynnig o dan eitem 5? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Oes, dwi'n gweld gwrthwynebiad, ac felly byddwn yn gohirio'r bleidlais ar eitem 5 tan y cyfnod pleidleisio.
Y cwestiwn nesaf, felly, yw: a ddylid derbyn y cynnig o dan eitem 6? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Oes, gwrthwynebiad eto, ac felly rwy'n gohirio'r bleidlais ar eitem 6.
Ac yn olaf wedyn, a ddylid derbyn y cynnig o dan eitem 7? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Oes, felly fe wnawn ni ohirio'r bleidlais ar hynny hefyd.