Part of 1. Cwestiynau i’r Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol – Senedd Cymru am 1:31 pm ar 12 Ionawr 2022.
Mae Deddf Caethwasiaeth Fodern 2015 wedi gwella’r ffocws ar nodi a mynd i’r afael â pheryglon caethwasiaeth fodern, rhoi cymorth i oroeswyr a dod â chyflawnwyr o flaen eu gwell. Rydym yn gweithio gyda’r Swyddfa Gartref a phartneriaid yng Nghymru i adolygu’r strategaeth caethwasiaeth fodern a deall effaith y Ddeddf yn well.