1. Cwestiynau i’r Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol – Senedd Cymru ar 12 Ionawr 2022.
1. Pa asesiad y mae Llywodraeth Cymru wedi'i wneud o effaith deddfwriaeth gwrth-gaethwasiaeth sy'n effeithio ar Gymru? OQ57402
Mae Deddf Caethwasiaeth Fodern 2015 wedi gwella’r ffocws ar nodi a mynd i’r afael â pheryglon caethwasiaeth fodern, rhoi cymorth i oroeswyr a dod â chyflawnwyr o flaen eu gwell. Rydym yn gweithio gyda’r Swyddfa Gartref a phartneriaid yng Nghymru i adolygu’r strategaeth caethwasiaeth fodern a deall effaith y Ddeddf yn well.
Diolch, Ddirprwy Weinidog, ac fel y gwyddoch, mae Deddf Caethwasiaeth Fodern y DU yn nodi bod angen i gwmnïau a chanddynt drosiant o £36 miliwn neu fwy ddatgan y camau y maent yn eu cymryd i atal caethwasiaeth yn eu cadwyni cyflenwi. Mae datblygiadau mwy diweddar gan Lywodraeth y DU yn 2020, y cyntaf o'u bath drwy'r byd, wedi ymestyn y gofyniad hwn i gynnwys pob corff cyhoeddus ac awdurdod lleol yng Nghymru a Lloegr a chanddynt gyllidebau o dros £36 miliwn.
Fel y gŵyr y Dirprwy Weinidog, cymharol ychydig o gwmnïau preifat yng Nghymru sy’n cyrraedd y trothwy hwnnw o £36 miliwn, ac fel un o’r Gweinidogion arweiniol dros atal caethwasiaeth yng Nghymru, credaf mai eich cyfrifoldeb chi yw dadlau'r achos i Lywodraeth y DU dros newid y trothwy hwn fel ei fod yn cynnwys mwy o fusnesau Cymru. I gychwyn, a all y Dirprwy Weinidog egluro pa ymdrechion penodol y mae’r Llywodraeth hon wedi’u gwneud i newid y trothwy £36 miliwn hwn i fod yn fwy perthnasol i fusnesau Cymru? Ac yn ail, a all y Dirprwy Weinidog egluro pa gyfraniad y mae'r Gweinidog a hithau wedi’i wneud yn bersonol, fel arweinwyr ar atal caethwasiaeth, i gyfiawnhau’r rôl hon yn eu portffolios gweinidogol? Diolch.
A gaf fi ddiolch i’r Aelod am ei gwestiwn a’i ddiddordeb yn y mater hwn? Rwy’n siŵr y gall Aelodau ar draws y Senedd gytuno y dylid cael consensws a gwaith trawsbleidiol ar hyn o ystyried natur y pwnc dan sylw a’r heriau sy’n ein hwynebu. Ac er bod caethwasiaeth fodern yn fater a gedwir yn ôl o dan Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006, wrth i’r Ddeddf hon ddod i rym, rydym wedi gweithio’n agos iawn gyda Llywodraeth y DU a chyda phartneriaid yng Nghymru. Rydym yn rhan o'r grŵp arwain atal caethwasiaeth yng Nghymru ac rydym hefyd yn gweithio’n agos—. Roeddem yn rhan o’r adolygiad o’r strategaeth y mae’n ei gynnal ar hyn o bryd. Byddaf yn sicr yn ystyried rhai o'r pwyntiau a gododd yr Aelod heddiw mewn perthynas â'r adolygiad hwnnw a'r sgyrsiau parhaus rydym yn eu cael gyda'n swyddogion cyfatebol yn Llywodraeth y DU.
Ac efallai y dylwn gyfeirio ar y pwynt hwn at rai o'r pethau rydym wedi'u gwneud yng Nghymru eisoes, sef ein cod ymarfer ar gyflogaeth foesegol mewn cadwyni cyflenwi a'n gwaith ar gaethwasiaeth fodern a'r bartneriaeth gymdeithasol a gwaith teg, ac rydym hefyd yn ystyried adolygu ac adnewyddu’r strategaeth honno i weld sut y gallwn ei chryfhau ymhellach yn y dyfodol.
Dylem gydnabod, wrth gwrs, fod Cymru wedi arwain y ffordd yn y DU ar fynd i’r afael â chaethwasiaeth fodern. Ni oedd y wlad gyntaf yn y DU i benodi arweinydd atal masnachu pobl pan oedd Carl Sargeant yn Weinidog, ac mae’r rôl honno wedi’i chefnogi gan grwpiau fel Bawso a Chyngor Ffoaduriaid Cymru, sy’n darparu arbenigedd sy’n canolbwyntio ar ddioddefwyr. A bellach, mae gennym Jeff Cuthbert yn arwain ymateb y comisiynwyr heddlu a throseddu. Felly, mae gan Gymru hanes da i’w adrodd. Fel rydych wedi sôn, Weinidog, mae gennym god ymarfer ar gyflogaeth foesegol mewn cadwyni cyflenwi, ac mae hwnnw’n allweddol hefyd. Ond rydym hefyd yn ddarostyngedig i ddeddfwriaeth y DU. Mae gennyf bryderon difrifol ynghylch Bil Cenedligrwydd a Ffiniau y DU a gondemniwyd gan elusennau blaenllaw fel un sy’n amlwg yn hiliol ac sy’n sicr yn bygwth ein statws fel cenedl noddfa gyda’i derfynau amser cosbol i ddioddefwyr masnachu pobl ac eraill gyflwyno eu hachosion. Felly, a yw Llywodraeth Cymru yn asesu’r Bil, i weld sut y gallai Cymru gau’r bylchau anochel y bydd yn eu creu o ran cymorth i ddioddefwyr?
Y Gweinidog i ateb.
Y Dirprwy Weinidog i ymateb. Ie, ewch yn eich blaen, Hannah Blythyn.
Diolch, Lywydd. A gaf fi ddiolch eto i’r Aelod am ei gwaith yn y maes hwn—gwaith grŵp trawsbleidiol y Senedd ar fasnachu pobl? Gwn fod swyddogion Llywodraeth Cymru wedi cyfarfod â’r grŵp yn ddiweddar i weld sut y gallwn gydweithio unwaith eto ar draws y Senedd, ac ar draws y Llywodraeth, a chyda phartneriaid ledled Cymru. Ac mae'r Aelod, Joyce Watson, yn iawn i gyfeirio at waith y Comisiynydd Heddlu a Throseddu, Jeff Cuthbert, fel yr arweinydd dynodedig yn y maes hwn a'r ffordd rydym yn gweithio gyda'n gilydd. Ac mae'r Aelod yn tynnu sylw at bryderon ynghylch y Bil Cenedligrwydd a Ffiniau, ac fe wyddoch fod fy nghyd-Aelodau, y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol a'r Cwnsler Cyffredinol, wedi cyhoeddi datganiad ysgrifenedig ym mis Rhagfyr, ychydig cyn y toriad, yn nodi pryderon dybryd Llywodraeth Cymru yn y maes, a’r ffordd y gallai danseilio peth o’r gwaith rydym yn ei wneud mewn perthynas â'r genedl noddfa, heb sôn am gaethwasiaeth fodern. Rydym yn poeni bod y Bil yn cyfuno caethwasiaeth fodern â materion mewnfudo ac y gallai greu rhwystrau ychwanegol rhag nodi achosion a darparu cymorth i ddioddefwyr caethwasiaeth fodern. Rydym yn galw’n gryf iawn ar Lywodraeth y DU i ddilyn llwybr gwahanol ar hyn, a byddwn yn parhau i wneud popeth a allwn yng Nghymru, gan weithredu’r cod ymarfer a gweithio gyda’r cyrff nad ydynt wedi’u datganoli hefyd, a chyda’n comisiynwyr heddlu a throseddu a chydag awdurdodau lleol, i sicrhau ein bod yn mynd i’r afael â’r arferion niweidiol hyn yng Nghymru.