Elusennau a'r Sector Gwirfoddol

Part of 1. Cwestiynau i’r Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol – Senedd Cymru am 1:40 pm ar 12 Ionawr 2022.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Rhys ab Owen Rhys ab Owen Plaid Cymru 1:40, 12 Ionawr 2022

(Cyfieithwyd)

Weinidog, fel cadeirydd y grŵp trawsbleidiol ar ddementia, rwyf wedi clywed adroddiadau anodd iawn gan unigolion yn y sector gwirfoddol sy’n darparu cymorth i bobl sy’n byw gyda dementia a chyflyrau gwanychol eraill, ac un o'u cwynion rheolaidd yw nad ydynt yn teimlo eu bod yn cael eu gwerthfawrogi fel cydweithwyr, ac nad yw awdurdodau lleol a gwasanaethau statudol eraill yn cyfathrebu'n effeithiol gyda hwy. Mae disgwyl i wirfoddolwyr elusennau fel Cymdeithas Alzheimer's unioni'r sefyllfa heb fawr ddim gwybodaeth a chymorth, ac maent yn wirioneddol bryderus fod hynny’n arwain at bobl yn cwympo drwy'r bylchau, ac yn arwain at wirfoddolwyr yn rhoi'r gorau iddi gan nad ydynt yn cael y cymorth sydd ei angen arnynt. Rwy'n deall, Weinidog, fod hwn yn fater sy'n perthyn i nifer o bortffolios gwahanol yn ôl pob tebyg, ond a wnaiff y Gweinidog drafod gyda’i chyd-Weinidogion, a chydag awdurdodau lleol a gwasanaethau statudol, sut i fynd ati yn y ffordd orau i gefnogi’r gwasanaethau a ddarperir gan elusennau, a ddarperir gan wirfoddolwyr, yn ystod y cyfnod heriol hwn? Diolch yn fawr.