1. Cwestiynau i’r Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol – Senedd Cymru ar 12 Ionawr 2022.
2. Sut mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi elusennau a'r sector gwirfoddol yn ystod pandemig COVID-19? OQ57420
Rydym wedi darparu dros £40 miliwn mewn cyllid ychwanegol i sefydliadau’r sector gwirfoddol ers dechrau’r pandemig. Ac mae Llywodraeth Cymru hefyd yn darparu cyllid craidd ar gyfer Cyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru a chynghorau gwirfoddol sirol i’w galluogi i gefnogi sefydliadau gwirfoddol lleol a grwpiau gwirfoddol ledled Cymru.
Diolch am eich ymateb, Weinidog. Mae elusennau a’r sector gwirfoddol ehangach wedi chwarae rhan hanfodol yn cefnogi ein cymunedau drwy gydol y pandemig. A hoffwn gofnodi fy mod yn gwerthfawrogi’r fyddin wych o wirfoddolwyr ledled Cymru sydd wedi mynd y tu hwnt i'r galw i’n helpu drwy’r cyfnod anodd hwn. Fodd bynnag, mae’r sector wedi wynebu pwysau ariannol sylweddol o ganlyniad i’r pandemig, gyda CGGC yn amcangyfrif yn ddiweddar fod sefydliadau gwirfoddol wedi colli oddeutu £600 miliwn o incwm, ac nad oes gan oddeutu chwarter yr elusennau bach gronfeydd wrth gefn, ond serch hynny, mae'r galw am y gwasanaethau hyn wedi cynyddu oddeutu 67 y cant ers mis Ebrill 2021. Nawr, rwy’n cydnabod y cymorth a ddarparwyd yn flaenorol gan Lywodraeth Cymru i helpu i fynd i'r afael â rhywfaint o’r diffygion ariannol hyn, yn ogystal â’r £7 miliwn ychwanegol a gyhoeddwyd yn ddiweddar ar gyfer y tair blynedd nesaf. Ond mae'n amlwg fod angen cymorth pellach i helpu'r sector i ymadfer tra bo'r cyfyngiadau presennol ar iechyd y cyhoedd yn cyfyngu ar weithgareddau codi arian a'r galw am wasanaethau mor uchel. Weinidog, pa gymorth ychwanegol y mae’r Llywodraeth yn bwriadu ei ddarparu i’r sector gwirfoddol dros y flwyddyn nesaf i sicrhau y gall sefydliadau barhau i gefnogi ein cymunedau? Diolch.
Hoffwn ddiolch i’r Aelod am ei gwestiwn pwysig iawn, oherwydd rydym wedi gweld, fel y dywedoch chi, Peter Fox, drwy gydol y pandemig, y sector gwirfoddol cryf ac annibynnol hwnnw sy’n hollbwysig i les Cymru a’n cymunedau, a'r diwylliant o wirfoddoli yn dod i'r amlwg wrth i gymaint o bobl fynd ati i gynorthwyo pobl, cymdogion a chymunedau. Felly, i gadarnhau, y llynedd, fe wnaethom lansio trydydd cam cronfa gwydnwch y trydydd sector, gyda dros £4 miliwn i helpu sefydliadau hyfyw'r sector gwirfoddol i oroesi—a dyna bwynt allweddol eich cwestiynau—a chael eu cynnal drwy'r pandemig, a bod yn wydn. Ac ers hynny, mae'r swm wedi'i gynyddu o £4 miliwn i £7.2 miliwn. Wrth gwrs, mae hynny’n hollbwysig i sicrhau bod gennym hefyd £1 filiwn ychwanegol ar gyfer ein grant gwirfoddoli Cymru, i gefnogi’r rheini sy’n cynnig eu cymorth yn y ffordd hon, ond gan weithio’n agos iawn gyda chyngor partneriaeth y trydydd sector ar y ffordd ymlaen ac ar gyfer adferiad a gwydnwch y trydydd sector. Rydym yn cefnogi’r trydydd sector ym mhob ffordd y gallwn—yn genedlaethol, yn rhanbarthol ac yn lleol.
Weinidog, fel cadeirydd y grŵp trawsbleidiol ar ddementia, rwyf wedi clywed adroddiadau anodd iawn gan unigolion yn y sector gwirfoddol sy’n darparu cymorth i bobl sy’n byw gyda dementia a chyflyrau gwanychol eraill, ac un o'u cwynion rheolaidd yw nad ydynt yn teimlo eu bod yn cael eu gwerthfawrogi fel cydweithwyr, ac nad yw awdurdodau lleol a gwasanaethau statudol eraill yn cyfathrebu'n effeithiol gyda hwy. Mae disgwyl i wirfoddolwyr elusennau fel Cymdeithas Alzheimer's unioni'r sefyllfa heb fawr ddim gwybodaeth a chymorth, ac maent yn wirioneddol bryderus fod hynny’n arwain at bobl yn cwympo drwy'r bylchau, ac yn arwain at wirfoddolwyr yn rhoi'r gorau iddi gan nad ydynt yn cael y cymorth sydd ei angen arnynt. Rwy'n deall, Weinidog, fod hwn yn fater sy'n perthyn i nifer o bortffolios gwahanol yn ôl pob tebyg, ond a wnaiff y Gweinidog drafod gyda’i chyd-Weinidogion, a chydag awdurdodau lleol a gwasanaethau statudol, sut i fynd ati yn y ffordd orau i gefnogi’r gwasanaethau a ddarperir gan elusennau, a ddarperir gan wirfoddolwyr, yn ystod y cyfnod heriol hwn? Diolch yn fawr.
Diolch yn fawr, Rhys ab Owen. Mae hynny’n rhan hollbwysig o’r ffordd rydym yn gweithio gyda’r sector gwirfoddol. A dweud y gwir, buom yn arloesol wrth ddatblygu cynllun partneriaeth y sector gwirfoddol, sy'n golygu bod pob sector, gan gynnwys y sector iechyd a gofal cymdeithasol, yn cyfarfod â Gweinidogion, yn cyfarfod â’r Gweinidogion iechyd a gwasanaethau cymdeithasol, i drafod y materion penodol hynny, gan fod hwn yn fater trawslywodraethol, fel y dywedwch, o ran yr anghenion hynny, ond yn enwedig yn ystod y pandemig, ac estyn allan, yn enwedig mewn perthynas â gwasanaethau dementia, at y rheini sy’n gweithio yn y sector. Felly, mae fy swyddogion yn gweithio gyda swyddogion iechyd i adolygu’r cyfeiriad strategol ar gyfer cymorth a buddsoddiad i'r trydydd sector mewn perthynas â’r elusennau a nodwyd gennych heddiw. Ac mae hynny ar sail genedlaethol wrth gwrs, ond yn lleol, mae gan eich cynghorau gwirfoddol—bob un ohonynt ledled Cymru—ran allweddol i'w chwarae yn cefnogi darparwyr lleol hefyd.
Rwy’n datgan buddiant yma gan fy mod yn dal yn aelod o fwrdd ymddiriedolwyr Canolfan Pentre. Mae’r cymorth y mae elusennau a’r sector gwirfoddol yn ei roi i’r rhai mwyaf agored i niwed yn ein cymunedau yn amhrisiadwy, a thrwy gydol y pandemig, mae wedi lleddfu pwysau enfawr ar awdurdodau lleol. Ni fyddem yn gallu darparu’r cymorth hwn heb y cyllid hollbwysig. Yn anffodus, mae llawer o'n helusennau ledled Cymru yn ei chael hi'n anodd cael cyllid. Credaf ein bod weithiau'n anghofio bod yr elusennau hyn yn cael eu rhedeg yn bennaf gan bobl sydd wedi ymddeol neu rieni na allant weithio’n llawnamser oherwydd cyfrifoldebau gofal plant, heb fawr ddim profiad, os o gwbl, o orfod gwneud ceisiadau am gyllid. Rhaid inni wneud mwy i gael gwared ar y rhwystr hwn er mwyn sicrhau bod mwy o bobl yn gallu cael y cymorth sydd ei angen arnynt. Am y rheswm hwn, a wnaiff y Gweinidog weithio gyda chynghorau gwirfoddol sirol, a chyrff ariannu eraill, i sicrhau ei bod yn haws gwneud ceisiadau am arian grant?
Diolch yn fawr iawn, Buffy Williams. Ac a gaf fi dalu teyrnged i bob un o'r gwirfoddolwyr yn eich cymuned, a ledled Cymru gyfan, sydd wedi chwarae rhan mor bwysig yn ystod y pandemig, ond sydd wedi gwneud hynny erioed, fel anadl einioes ein cymunedau?
Felly, hoffwn roi sicrwydd i chi fod swyddogion yn gweithio gyda chyllidwyr, gan gynnwys fforwm cyllidwyr Cymru, sy’n fforwm pwysig i ddod â’r holl gyllidwyr ynghyd, i sicrhau bod y materion hyn yn cael eu codi mewn perthynas â hygyrchedd cynlluniau grant. Mae’r cynghorau gwirfoddol sirol yn aml yn rheolwyr grantiau, ac fe fyddwch yn cysylltu gyda'ch un chi, rwy’n siŵr. A byddaf yn gofyn i fy swyddogion edrych yn benodol ar sut y gall y prosesau ymgeisio fod yn haws, ac yn gymesur o ran y sefyllfaoedd y mae sefydliadau’r sector gwirfoddol ynddynt, i sicrhau y gallant gael mynediad at y cyllid hwnnw. Ac nid oes a wnelo hyn â chael mynediad at gyllid y Llywodraeth yn unig; mae arian y loteri wedi bod yn hollbwysig hefyd, onid yw, a sicrhau ein bod yn gallu—. Ac mae'r ffaith bod awdurdodau lleol yn chwarae eu rhan hefyd wedi bod yn hollbwysig drwy gydol y pandemig, ac mae hyn yn rhan o'r ffordd rydym yn edrych ar hyfywedd ariannol y trydydd sector, gyda chyllid cynaliadwy yn un o elfennau allweddol y seilwaith hwnnw.