Part of 1. Cwestiynau i’r Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol – Senedd Cymru am 1:37 pm ar 12 Ionawr 2022.
Rydym wedi darparu dros £40 miliwn mewn cyllid ychwanegol i sefydliadau’r sector gwirfoddol ers dechrau’r pandemig. Ac mae Llywodraeth Cymru hefyd yn darparu cyllid craidd ar gyfer Cyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru a chynghorau gwirfoddol sirol i’w galluogi i gefnogi sefydliadau gwirfoddol lleol a grwpiau gwirfoddol ledled Cymru.