Cynllun Cymorth Tanwydd y Gaeaf

Part of 1. Cwestiynau i’r Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol – Senedd Cymru am 2:00 pm ar 12 Ionawr 2022.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Jane Hutt Jane Hutt Labour 2:00, 12 Ionawr 2022

(Cyfieithwyd)

Mae aelwydydd yn profi argyfwng costau byw oherwydd prisiau ynni cynyddol a thoriadau i gymorth lles. Mae cynghorau'n cefnogi'r defnydd o gynllun cymorth tanwydd gaeaf Llywodraeth Cymru gan aelwydydd cymwys i'w helpu i gadw'n gynnes y gaeaf hwn, a bydd yn parhau i hyrwyddo'r cynllun dros yr wythnosau nesaf.