Cynllun Setliad Dinasyddion Affganistan

Part of 1. Cwestiynau i’r Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol – Senedd Cymru am 2:07 pm ar 12 Ionawr 2022.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Jane Hutt Jane Hutt Labour 2:07, 12 Ionawr 2022

(Cyfieithwyd)

Rydym yn codi cynllun adsefydlu dinasyddion Affganistan yn rheolaidd gyda Llywodraeth y DU ac ers cyhoeddi'r cynllun, rwyf wedi cymryd rhan mewn sawl galwad rhwng Gweinidogion y pedair gwlad, y ddiweddaraf ohonynt ddoe, ac rwyf wedi codi materion yn amrywio o fylchau yn y cymhwysedd i arafwch datblygiadau.