Part of 1. Cwestiynau i’r Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol – Senedd Cymru am 2:08 pm ar 12 Ionawr 2022.
Diolch, Weinidog. Gwyddom fod gwerthusiad ffisegol unigolyn yn hanfodol i anghenion y cyfryw unigolyn, ond dechrau ei daith yn unig yw cael ei adsefydlu a chael diogelwch mewn gwlad newydd. Fel cenedl noddfa, gwn ein bod yng Nghymru yn ymfalchïo yn y ffordd y cynigiwn y cymorth sydd ei angen i sicrhau y gall pobl ailadeiladu eu bywydau ac integreiddio yn eu cymunedau. A all y Gweinidog amlinellu pa gymorth parhaus rydym yn ei gynnig fel Llywodraeth a chyda'n partneriaid awdurdod lleol, i sicrhau y gall y rhai a adsefydlir gael mynediad at yr holl wasanaethau sydd eu hangen arnynt?