Anghydraddoldebau Cymdeithasol

Part of 1. Cwestiynau i’r Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol – Senedd Cymru am 2:19 pm ar 12 Ionawr 2022.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Siân Gwenllian Siân Gwenllian Plaid Cymru 2:19, 12 Ionawr 2022

Dwi'n gobeithio y gwnaiff y cysylltiad wella wrth i fi symud ymlaen. Mae'r pandemig wedi tanlinellu'r anghydraddoldeb dwfn sydd yn bodoli yn fy etholaeth i rhwng cymunedau â'i gilydd, a rhwng teuluoedd â'i gilydd. Er enghraifft, mae problemau tai anaddas mewn rhannau o Arfon—tai sy'n rhy fach i anghenion y teuluoedd sydd ynddyn nhw, tai sydd yn damp ac yn anodd i'w gwresogi. Ac, wrth gwrs, mae hyn wedi ei gwneud hi'n anoddach i atal lledaeniad yr haint, y COVID, yn ystod y cyfnod yma, ac yn anoddach i ddelio efo'i effeithiau.

Rŵan, mae'r teuluoedd yma yn wynebu argyfwng arall, yr argyfwng costau byw, gan amlygu anghydraddoldeb cymdeithasol arall a fydd yn effeithio llawer o deuluoedd yn Arfon, yn ôl yr arolygon, efo Gwynedd ymhlith y siroedd fydd yn cael ei heffeithio fwyaf. Fe ofynnodd arweinydd Plaid Cymru i'r Prif Weinidog ddoe i roi sylw i'r argyfwng costau byw drwy gynnal uwchgynhadledd i ddyfeisio ymateb trawslywodraethol brys i'r argyfwng costau byw. Ydy'ch Llywodraeth chi wedi cael cyfle i ystyried hyn ymhellach, ac a wnewch chi gefnogi cynnal uwchgynhadledd i lunio'r ymateb brys sydd mawr ei angen?