Part of 2. Cwestiynau i’r Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad – Senedd Cymru am 2:55 pm ar 12 Ionawr 2022.
Diolch am y cwestiwn. Mae Llywodraeth Cymru yn asesu cynlluniau Llywodraeth y DU wrth iddynt godi i sicrhau bod ystyriaethau mynediad at gyfiawnder wedi cael eu hystyried yn llawn. Mae gan dechnoleg ddigidol botensial i ehangu mynediad at gyfiawnder, ond mae'n rhaid i'r system weithio'n galed i sicrhau nad oes neb yn cael ei adael ar ôl.