Part of 2. Cwestiynau i’r Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad – Senedd Cymru am 2:56 pm ar 12 Ionawr 2022.
Diolch i'r Cwnsler Cyffredinol am yr ateb hwnnw, ac fe fydd yn gwybod ein bod, yn ystod y pandemig, wedi gweld newid go iawn i ddefnyddio gwasanaethau ar-lein i ganiatáu i bobl gael mynediad at gyfiawnder ledled Cymru. Mae'n fater o anghenraid, ac mae wedi darparu rhai cyfleoedd. Hebddo, byddai llawer mwy o bobl yn cael eu heffeithio gan yr oedi a'r ôl-groniadau a welwn. Ond mae'n rhaid inni gofio nad oes gan bawb allu na modd o ddefnyddio'r gwasanaethau hyn. Yn wir, fel y dywedodd comisiwn Thomas, gall yn wir fod yn anos i'r rhai sydd wedi'u hallgáu'n ddigidol gael mynediad at hawliau cyfreithiol. Felly, a gaf fi ofyn pa sgyrsiau y mae'r Cwnsler Cyffredinol wedi'u cael gyda Gweinidogion yn y Weinyddiaeth Gyfiawnder i sicrhau eu bod yn ymwybodol o'r pwyslais rydym ni yng Nghymru yn ei roi ar sicrhau bod pob gwasanaeth llys ar gael i bobl heb sgiliau digidol, neu heb fynediad hawdd at blatfformau digidol, neu'n wir at y cymorth cyfreithiol sydd ei angen ochr yn ochr â mynediad digidol at gyfiawnder?