Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau

Part of 2. Cwestiynau i’r Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad – Senedd Cymru am 2:42 pm ar 12 Ionawr 2022.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Rhys ab Owen Rhys ab Owen Plaid Cymru 2:42, 12 Ionawr 2022

(Cyfieithwyd)

Diolch yn fawr, Ddirprwy Lywydd. Gwnsler Cyffredinol, nododd adroddiad y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad trawsbleidiol ar femorandwm cydsyniad deddfwriaethol Llywodraeth Cymru ar y Bil Cymwysterau Proffesiynol y byddai'r Ysgrifennydd Gwladol neu'r Arglwydd Ganghellor, heb gydsyniad y Senedd neu Weinidogion Cymru, yn gallu arfer pwerau i wneud rheoliadau er mwyn diwygio deddfwriaeth sylfaenol, gan gynnwys Deddfau'r Senedd. Mae hyn yn golygu y gallai'r Ysgrifennydd Gwladol neu'r Arglwydd Ganghellor arfer y pwerau i wneud rheoliadau er mwyn diwygio Deddfau'r Senedd a rheoliadau a wneir gan Weinidogion Cymru. Yn wir, gallai Gweinidogion Torïaidd yn Llundain fynd gam ymhellach a diwygio Deddf Llywodraeth Cymru 2006, sef sail ein setliad datganoli presennol. Credaf y gallwn ni i gyd gytuno ei fod yn fater o egwyddor gyfansoddiadol sylfaenol na ddylai cymhwysedd deddfwriaethol y Senedd hon gael ei addasu drwy reoliadau a wneir gan unrhyw Weinidog yn Llundain, yn enwedig y Llywodraeth Geidwadol bresennol hon. Pa drafodaeth a gawsoch, Gwnsler Cyffredinol, gyda Gweinidogion San Steffan ynghylch y defnydd posibl o is-ddeddfwriaeth yn San Steffan i danseilio'r setliad datganoli yma yng Nghymru?