2. Cwestiynau i’r Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad – Senedd Cymru am 2:35 pm ar 12 Ionawr 2022.
Rŷn ni'n symud ymlaen nawr i'r cwestiynau i lefarwyr y pleidiau. Llefarydd y Ceidwadwyr sydd gyntaf—Darren Millar.
Diolch, Lywydd. Weinidog, a allwch chi egluro inni pam y mae gan y Comisiwn Annibynnol ar Ddyfodol Cyfansoddiadol Cymru gyllideb o £3.3 miliwn, os gwelwch yn dda?
Diolch am y cwestiwn. Mae gan gomisiwn y cyfansoddiad gyllideb sydd wedi'i chynllunio i'w alluogi i gyflawni ei waith pwysig yn ymgysylltu â phobl Cymru.
Diolch am yr ateb hwnnw, Weinidog, ond mae arnaf ofn nad yw'n egluro pam fod angen i'r comisiwn gael cyllideb mor fawr. Pan sefydlwyd y comisiwn hwn, gofynnais ichi beth fyddai'r gyllideb, ac fe ddywedoch chi y byddech yn ysgrifennu ataf. Rwy'n dal i aros am eich llythyr—nid wyf wedi'i dderbyn. Ond yn amlwg, rwyf wedi llwyddo i gael golwg ar gyllideb Llywodraeth Cymru, a drafodwyd ddoe, a gwelais fod £3.3 miliwn wedi'i ddyrannu i'r comisiwn penodol hwn. Roedd comisiynau blaenorol yn costio tua £1 filiwn i ymgymryd â'u gwaith—ac rwy'n cyfeirio at gomisiwn Richard a chomisiwn Silk, ac roedd gan y ddau ohonynt gyllideb a oedd yn llawer llai na thraean o'r gyllideb ar gyfer y comisiwn hwn. Felly, a gaf fi ofyn ichi eto: pam fod Llywodraeth Cymru yn teimlo bod angen gwario £3.3 miliwn ar y gwaith hwn, ac a allwch chi ddarparu copi o'r gyllideb fanwl ar gyfer gwaith y comisiwn i'r Senedd, ac i mi, yn unol â'r addewid a wnaethoch yn ôl ym mis Hydref ond nad ydych eto wedi'i gyflawni?
Wel, a gaf fi ddweud yn gyntaf, os nad ydych wedi cael y llythyr gennyf, rwy'n ymddiheuro am hynny. Wrth gwrs, rydych chi wedi cael y wybodaeth o'r gyllideb, ac wrth gwrs, rwy'n credu fy mod wedi cyfeirio at y gyllideb a oedd i ddod mewn atebion blaenorol. O ran cost gweithredu comisiwn a fydd yn ymgysylltu â phobl Cymru, dros gyfnod o sawl blwyddyn, ar fater sy'n sylfaenol bwysig i ddyfodol Cymru a dyfodol y DU, mae'n ymddangos i mi'n gwbl briodol y dylid cael digon o arian i'w alluogi i wneud y gwaith hwnnw ac i ymgysylltu â phobl Cymru. Mae'n amlwg fod gwaith ymgysylltu'r comisiwn yn rhywbeth cwbl ychwanegol at waith rhai o'r comisiynau blaenorol, ac mae'n rhan sylfaenol o adeiladu'r consensws hwnnw rwyf wedi'i ddisgrifio o'r blaen.
O ran y manylion, rwy'n tybio mai'r broblem gyda'r manylion ar hyn o bryd yw bod y comisiwn, ar hyn o bryd, yn y broses o ddatblygu ei strategaeth ei hun a'i rhaglen waith ei hun a chostau hynny. Ac rwy'n siŵr y gellir darparu rhagor o wybodaeth maes o law, pan fydd gennym ragor o wybodaeth am y manylion hynny. Ond am y tro, y peth pwysig yw sicrhau bod y comisiwn yn gallu gwneud gwaith sydd mor hanfodol i ddyfodol Cymru a dyfodol y DU.
Wel, rwy'n ddiolchgar am eich ymddiheuriad, Weinidog. Wrth gwrs, mae un llinell yn y gyllideb i ymdrin â'r mater penodol hwn, a gofynnais mewn cyfleoedd blaenorol yn y Senedd am esboniad ynglŷn â beth fyddai'r tâl i gadeiryddion ac aelodau'r comisiwn, ac rwy'n dal i aros am y wybodaeth honno. Wrth gwrs, nid yw wedi'i gynnwys yn y gyllideb sydd wedi'i chyhoeddi. Rydych yn sôn am ymgysylltu; wrth gwrs, roedd y comisiynau blaenorol yn ymgysylltu'n eithaf helaeth fel rhan o'u gwaith, ac yn ei reoli o fewn amlen ariannol sy'n wahanol iawn i'r £3.3 miliwn y mae Llywodraeth Cymru wedi ceisio'i ddyrannu.
Nawr, pan gyhoeddoch chi eich bod yn sefydlu'r comisiwn, fe ddywedoch chi wrth Aelodau'r Senedd eich bod yn disgwyl iddo gwblhau ei waith erbyn diwedd 2023. A allwch chi egluro, felly, pam fod £1.1 miliwn arall yn dal i fod wedi'i ddyrannu yn y gyllideb—y gyllideb tair blynedd ddangosol a gyhoeddwyd—ar gyfer blwyddyn ariannol 2024-25, a fyddai ar ôl i'r comisiwn hwn gwblhau ei waith? Pam y disgwylir i draean o gyllideb y comisiwn ddigwydd ar ôl cwblhau gwaith y comisiwn? Mae'n ymddangos i mi nad yw hynny'n gwneud unrhyw synnwyr o gwbl, neu a ydych chi wedi diwygio'r amserlen?
A gaf fi ddiolch ichi yn gyntaf am y sylwadau pellach hynny? O ran y tâl, hoffwn ddweud unwaith eto ei bod hi'n ddrwg gennyf os nad ydych wedi cael y llythyr, ond yn sicr, gwn fy mod wedi cael cais ysgrifenedig gan un o'ch Aelodau, Mr Joel James, a ofynnodd am y wybodaeth honno, a darparwyd y wybodaeth mewn perthynas â chyfraddau talu. Rwy'n siomedig os oes Aelod unigol o'ch grŵp eich hun, efallai, heb dynnu eich sylw at wybodaeth a ddarparwyd yn benodol. Rwy'n siŵr y gellir darparu copi o'r llythyr hwnnw i chi, os yw Mr Joel James yn cytuno, ac mae'r wybodaeth yn hwnnw. Felly, fe wnaf ymdrin â hynny.
Ar y gwariant a'r gyllideb, wel, mae'r gyllideb yno mewn perthynas â'r comisiwn a'i waith, ac nid yw hwnnw'n dod i ben yn sydyn. Bydd sut y gellir gwario'r gyllideb dros gyfnod o amser, ac i ba raddau y caiff ei gwario, yn dibynnu ar y rhaglen waith lawn, ond o ran cyflwyno'r adroddiad, yn amlwg bydd gwaith yn parhau o hwnnw. A chredaf fy mod wedi egluro mewn datganiadau blaenorol hefyd, wrth gwrs, mai un o'r materion sy'n codi yw sefydlu comisiwn cyfansoddiadol parhaol yn y pen draw, nid hyn, ac wrth gwrs, bydd argymhellion ynglŷn â hynny a byddai'n arwain at faterion yn ymwneud â hynny. Felly, mae'n anochel y bydd yn parhau y tu hwnt i amserlenni'r flwyddyn benodol. Y peth pwysig oedd adroddiad interim erbyn diwedd eleni, ac adroddiad llawn erbyn y flwyddyn ddilynol, ond wrth gwrs, gall yr amserlenni hynny newid oherwydd, fel y gwyddoch, mae dadleuon, trafodaethau a digwyddiadau'n ymwneud â'r cyfansoddiad yn waith sydd ar y gweill.
Llefarydd Plaid Cymru, Rhys ab Owen.
Diolch yn fawr, Ddirprwy Lywydd. Gwnsler Cyffredinol, nododd adroddiad y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad trawsbleidiol ar femorandwm cydsyniad deddfwriaethol Llywodraeth Cymru ar y Bil Cymwysterau Proffesiynol y byddai'r Ysgrifennydd Gwladol neu'r Arglwydd Ganghellor, heb gydsyniad y Senedd neu Weinidogion Cymru, yn gallu arfer pwerau i wneud rheoliadau er mwyn diwygio deddfwriaeth sylfaenol, gan gynnwys Deddfau'r Senedd. Mae hyn yn golygu y gallai'r Ysgrifennydd Gwladol neu'r Arglwydd Ganghellor arfer y pwerau i wneud rheoliadau er mwyn diwygio Deddfau'r Senedd a rheoliadau a wneir gan Weinidogion Cymru. Yn wir, gallai Gweinidogion Torïaidd yn Llundain fynd gam ymhellach a diwygio Deddf Llywodraeth Cymru 2006, sef sail ein setliad datganoli presennol. Credaf y gallwn ni i gyd gytuno ei fod yn fater o egwyddor gyfansoddiadol sylfaenol na ddylai cymhwysedd deddfwriaethol y Senedd hon gael ei addasu drwy reoliadau a wneir gan unrhyw Weinidog yn Llundain, yn enwedig y Llywodraeth Geidwadol bresennol hon. Pa drafodaeth a gawsoch, Gwnsler Cyffredinol, gyda Gweinidogion San Steffan ynghylch y defnydd posibl o is-ddeddfwriaeth yn San Steffan i danseilio'r setliad datganoli yma yng Nghymru?
Diolch. Rydych yn codi pwynt pwysig iawn, ac mae'n bwynt rwy'n ei ystyried yn gyffredinol o ran effaith gyffredinol cydsyniad deddfwriaethol i ddeddfwriaeth y DU, a'r effaith ar y setliad datganoli. Ac mae llawer o anghysondebau ac anomaleddau ac anawsterau mewn perthynas â phob deddfwriaeth sy'n cael ei phasio. Rwy'n sicr wedi codi hynny mewn trafodaethau uniongyrchol a gefais gyda Gweinidogion Llywodraeth y DU, ond gallaf ddweud wrthych hefyd: gyda phob deddfwriaeth a gyflwynir, mae Gweinidogion Cymru a Llywodraeth Cymru yn gohebu ac yn ymgysylltu'n helaeth ynghylch materion cydsyniad, ac anghydfodau ynghylch yr hyn a allai fod yn fater a gedwir yn ôl ai peidio, a hynny ar sail cynnal cyfanrwydd y setliad datganoli.
Mae'n sicr yn iawn fod materion yn codi ynghylch gwendid confensiwn Sewel. Wrth i gynnydd gael ei wneud mewn perthynas â'r adolygiad rhynglywodraethol, rwy'n gobeithio y bydd creu cyrff a gweithdrefn anghydfodau, ac ysgrifenyddiaeth annibynnol, yn darparu mecanwaith ar gyfer ymgysylltu pellach mewn gwirionedd, a gorfodi a gwella confensiwn Sewel, sydd wedi gwanhau cymaint dros y blynyddoedd diwethaf, rwy'n credu, oherwydd ymosodiadau cyfansoddiadol uniongyrchol gan Lywodraeth y DU. Felly, rydych yn iawn i godi'r pwynt hwn, ond credaf y bydd y trefniadau rhynglywodraethol y byddwn yn gobeithio cael cyhoeddiadau pellach arnynt dros yr wythnosau a'r misoedd cynnar yn dechrau mynd i'r afael â pheth o'r gwactod cyfansoddiadol hwnnw. Nid wyf yn credu y bydd yn ei ddatrys, ond credaf y gallai ddarparu mecanwaith ar gyfer cam tuag at drefniant cyfansoddiadol mwy cadarn a therfynol.
Diolch, Gwnsler Cyffredinol. Nid wyf yn credu y byddwn yn dweud bod confensiwn Sewel yn wan; rwy'n credu y byddwn yn ei ddisgrifio fel rhywbeth nad yw'n bodoli ar hyn o bryd, ond dyna ni. Gwnsler Cyffredinol, yr wythnos diwethaf, dywedodd yr Arglwyddi fod y gorddefnydd o is-ddeddfwriaeth yn San Steffan yn beryglus i ddemocratiaeth. Beirniadodd yr Arglwydd Farnwr, y cyn arglwydd brif ustus uchel ei barch, y cynnydd mewn is-ddeddfwriaeth a dywedodd nad yw Tŷ'r Cyffredin wedi gwrthod unrhyw ddeddfwriaeth ddirprwyedig ers 1979. Aeth ymlaen i ddweud,
'caiff miloedd a miloedd o dudalennau, mewn print mân, eu hanfon atom bob blwyddyn, yn dweud wrth bawb ohonom sut y dylem fyw' oni bai eich bod, Gwnsler Cyffredinol, yn cael eich gwahodd i barti yng ngardd 10 Stryd Downing. Fodd bynnag, nid wyf yn credu y gallwn ninnau fel Senedd fod yn hunanfodlon ynglŷn â hyn. Mae rhai meysydd yn peri pryder gwirioneddol imi yn y Senedd hon. Rydym wedi gweld cynnydd enfawr yn y defnydd o is-ddeddfwriaeth yn y lle hwn. Wrth holi'r Gweinidog addysg am y Bil Addysg Drydyddol ac Ymchwil (Cymru), mynegwyd pryderon fod adrannau yn y Bil yn rhoi llai o rôl graffu i Senedd Cymru nag o'r blaen. Ac mae gan y Ddeddf diogelwch adeiladau—Bil Llywodraeth y DU—sydd o fewn maes a ddatganolwyd yn llawn, y gwnaethoch gydsynio iddi, 17 cymal sy'n creu pwerau rheoleiddio i Weinidogion Cymru. Nawr, o ystyried y diffyg craffu priodol amlwg iawn o fewn proses y memoranda cydsyniad deddfwriaethol, a'r cynnydd sylweddol yn y defnydd o is-ddeddfwriaeth yn y lle hwn, pa gamau rydych yn eu cymryd fel swyddog cyfreithiol y Senedd i sicrhau na fydd hyn yn peryglu democratiaeth Gymreig yn yr un modd ag y mae cyfreithwyr blaenllaw yn ei rybuddio mewn perthynas â San Steffan? Diolch yn fawr.
Mae'n bwynt pwysig iawn mewn perthynas â gwaith seneddau ar draws y DU, nid yn unig mewn perthynas ag is-ddeddfwriaeth ond wrth gwrs, y defnydd cynyddol o fframwaith deddfwriaethol, sy'n arwain at yr un pwerau'n mynd i weithrediaethau yn y pen draw, a lleihau rolau craffu wrth gwrs. A gaf fi ddweud, ar fater craffu, fod gennyf rywbeth mewn golwg? Rwy'n croesawu'r mewnbwn gan y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad ynghylch mater memoranda cydsyniad deddfwriaethol, ac wrth gwrs, cyflawnir adolygiad yn o hynny gan y Pwyllgor Busnes, ac mae hwnnw'n sicr yn faes rwyf wedi bod yn ei ystyried ac wedi bod yn rhoi cryn sylw iddo. Credaf fod yr un peth yn wir am y pwyntiau a godwch ynglŷn ag is-ddeddfwriaeth, ac rwy'n cynnwys fframwaith deddfwriaethol gyda hynny, oherwydd o ochr y Llywodraeth, credaf fod dau rym sy'n cystadlu: un yw'r rheidrwydd ar Lywodraeth i fwrw ymlaen â deddfwriaeth, i fwrw ymlaen â gweithredu maniffestos, ond yn yr un modd, rhaid i hynny fod o fewn fframwaith senedd, lle mae'n rhaid i arfer pwerau gan lywodraeth gael ei ddwyn i gyfrif yn briodol, a'u bod yn dryloyw, a bod gallu i graffu'n briodol. Nawr, ceir problemau gwirioneddol gyda chraffu am amryw o resymau eraill hefyd, fel y gŵyr yr Aelod, sef, er enghraifft, maint y ddeddfwriaeth sydd ar y ffordd, y materion sy'n codi gyda memoranda cydsyniad deddfwriaethol a'r ffordd y mae'n rhaid ymateb i ddeddfwriaeth mor gyflym, yn enwedig yng ngoleuni Brexit a materion go debyg mewn perthynas â COVID wrth gwrs.
Yr hyn y gallaf ei ddweud yw—ac rwyf wedi dweud hyn, rwy'n credu, yn y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad, ond gallaf ei ailadrodd yma—rwy'n fwy na pharod i ymgysylltu'n rheolaidd ar y materion hynny sy'n ymwneud â chraffu, ar y drafodaeth ynghylch yr heriau sydd gennym nid yn unig fel Senedd newydd, fel democratiaeth newydd, ond un sydd hefyd—. Mae gan bob sesiwn o'r Senedd rôl ddeddfwriaethol gynyddol a chyfrifoldebau cynyddol, ac mae'n rhaid inni sicrhau bod strwythur democrataidd ac atebolrwydd Senedd Cymru yn weithredol. Ceir amgylcheddau anodd oherwydd y trefniant cyfansoddiadol camweithredol sydd gennym ar hyn o bryd yn y DU, ond dyna pam fod angen inni gael ein comisiwn cyfansoddiadol ein hunain a hefyd yr adolygiad rhynglywodraethol a'r ystyriaethau eraill sydd ar y gweill sy'n cydnabod y camweithredu hwnnw ac sy'n dechrau edrych ar ffyrdd o'i ddatrys.
Cwestiwn 3, Rhys ab Owen.
Mae'n ddrwg gennyf, gadewch imi ei estyn. Mae'n ddrwg gennyf, nid oeddwn wedi deall mai fy nghwestiwn i oedd y trydydd cwestiwn.
Dylech ddarllen yr agenda.
Mae'n ddrwg gennyf.