'Adroddiad Tribiwnlysoedd Datganoledig yng Nghymru'

Part of 2. Cwestiynau i’r Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad – Senedd Cymru am 2:50 pm ar 12 Ionawr 2022.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Mick Antoniw Mick Antoniw Labour 2:50, 12 Ionawr 2022

Diolch am eich cwestiwn, Rhys. Yn y datganiad ysgrifenedig i groesawu cyhoeddi'r adroddiad, fe wnes i esbonio bod y Llywodraeth yn cefnogi'n gryf yr egwyddor sylfaenol tu ôl i'r argymhellion sydd wedi cael eu gwneud. Byddwn yn nodi mwy o fanylion am ein cynlluniau yn ystod y misoedd nesaf. Bydd yr Aelodau'n deall na allaf roi amserlen ar gyfer y ddeddfwriaeth angenrheidiol ar hyn o bryd.