Part of 2. Cwestiynau i’r Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad – Senedd Cymru am 2:51 pm ar 12 Ionawr 2022.
Diolch yn fawr, Cwnsler. Rwy'n gweld yr argymhellion yma, fel sefydlu tribiwnlys apêl, fel cam pwysig iawn yn natblygu’r system gyfiawnder yma yng Nghymru. Efallai nad yw e'n cael lot o sylw yn gyhoeddus, ond dwi'n credu ei fod o bwysigrwydd mawr. Yn fy marn i, drwy'r tribiwnlysoedd Cymreig, mae gennym ni sylfaen i adeiladu system cyfiawnder teg a chyfiawn yma yng Nghymru. Mae'r tribiwnlysoedd yn hygyrch—mae hwnna wedi cael ei godi yn barod gan Jack Sargeant, o ran y broblem gyda hygyrchedd yn y system bresennol—ac maen nhw wedi cael eu strwythuro mewn ffordd sy'n annog trafodaeth yn hytrach na gwrthdaro. A beth sy'n wych am y tribiwnlysoedd Cymreig yw dyw eu datblygiad ddim yn amodol ar Lywodraeth San Steffan ond, wrth gwrs, ar Lywodraeth Cymru. Does dim modd beio San Steffan y tro hwn, Cwnsler Cyffredinol. Yn rhy aml o lawer yn y gorffennol, mae'r tribiwnlysoedd Cymreig wedi cael eu hanghofio, yn syrthio rhwng dwy stôl oherwydd natur setliad datganoli, a mawr y gobeithiaf y gwnaiff Llywodraeth Cymru ddal gafael yn y cyfle yma. Felly, wrth eu datblygu ymhellach, a ydy'r Cwnsler Cyffredinol yn cytuno gyda'r egwyddor sylfaenol y dylai holl ddeddfwriaeth Senedd Cymru o nawr ymlaen ddefnyddio Tribiwnlysoedd Cymru i benderfynu ar unrhyw anghydfod sy'n deillio o'r ddeddfwriaeth hynny, yn hytrach na defnyddio llysoedd sirol Cymru a Lloegr? Diolch yn fawr.