Part of 2. Cwestiynau i’r Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad – Senedd Cymru am 2:59 pm ar 12 Ionawr 2022.
Weinidog, mae gan dechnoleg ddigidol botensial i ail-lunio'r ffordd y mae cyfiawnder yn gweithredu a sut y mae pobl yn cael mynediad ato. Mae'r gwasanaeth llysoedd a thribiwnlysoedd yn buddsoddi tua £1 biliwn i ddiwygio ei systemau gyda'r nod o gyflwyno technolegau newydd a ffyrdd modern o weithio yn y llysoedd, ac mae'r Weinyddiaeth Gyfiawnder wedi creu cronfa arloesi gwerth £5 miliwn i hyrwyddo'r ffyrdd newydd hyn o ddarparu cymorth a chyngor cyfreithiol drwy ddulliau digidol. Mae'n amlwg y bydd hyn yn cael effaith ar lysoedd Cymru. Yn ychwanegol at hyn, a yw'r Gweinidog wedi asesu'r amrywiaeth o gyfleoedd i bobl ddefnyddio technoleg i hunanasesu eu problem i weld a yw'n broblem gyfreithiol ai peidio?