Rheoliadau Diogelwch Tomenni Glo

Part of 2. Cwestiynau i’r Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad – Senedd Cymru am 3:09 pm ar 12 Ionawr 2022.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Mick Antoniw Mick Antoniw Labour 3:09, 12 Ionawr 2022

(Cyfieithwyd)

Wel, diolch i Joel am ei gwestiwn, ac mae’r pwynt a godwch ar rôl awdurdodau lleol yn gywir, a hefyd ynghylch rhwymedigaethau perchnogion tir preifat a chanddynt domenni glo ar eu heiddo, neu hyd yn oed rannau o domenni glo, weithiau, fel rhai o'r cymhlethdodau. Mae hwn yn fater a nodwyd gan Gomisiwn y Gyfraith, rwy'n credu, ac mae'n rhan o'r gwaith parhaus, ac rwy'n siŵr y bydd yn rhan o rywbeth y mae angen inni fynd i'r afael ag ef mewn perthynas ag unrhyw gyfundrefn reoleiddiol yng nghyswllt tomenni glo. A phan fyddwn wedi cael yr adroddiad llawn a'r argymhellion, ac wedi cael cyfle i ystyried y rheini yn ogystal â sylwedd y ddeddfwriaeth, rwy'n siŵr y bydd hynny'n rhan bwysig o'r gwaith.