2. Cwestiynau i’r Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad – Senedd Cymru ar 12 Ionawr 2022.
5. Pa gyngor cyfreithiol y mae'r Cwnsler Cyffredinol wedi'i roi i Lywodraeth Cymru ar reoliadau diogelwch tomenni glo? OQ57426
Diolch i’r Aelod am ei chwestiwn. Mae diogelu ein cymunedau yn parhau i fod yn brif flaenoriaeth i Lywodraeth Cymru, a byddwn yn parhau i gyflawni ein cyfrifoldebau datganoledig i wneud hynny. Rydym wedi comisiynu Comisiwn y Gyfraith i adolygu’r ddeddfwriaeth, a byddwn yn ceisio cyflwyno deddfwriaeth newydd i ganiatáu inni reoli hen domenni glo yng Nghymru.
Diolch am eich ateb. Gwn y bydd Llywodraeth Cymru yn ymwybodol iawn o’r pryderon hyn ynghylch diogelwch tomenni glo. Mae’n rhywbeth rwyf wedi’i godi droeon yn y Senedd, ac fel y nodwyd gennych, gwn fod gwaith yn mynd rhagddo i ganfod i atebion i sicrhau bod y tomenni yr ystyrir eu bod yn peri’r risg fwyaf, yn enwedig, yn ddiogel. Byddai'n dda gennyf ddeall safbwynt cyfreithiol Llywodraeth Cymru ar hyn. Dywedodd y Gweinidog cyllid mewn datganiad ym mis Medi y llynedd:
'Mae cyfrifoldeb cyfreithiol a moesol ar Lywodraeth y DU i weithio gyda Llywodraeth Cymru i fynd i’r afael â’r mater hwn ac i ariannu’r costau hirdymor hyn.'
Gwnsler Cyffredinol, a wnewch chi esbonio beth yw’r cyfrifoldebau cyfreithiol hyn sydd gan Lywodraeth y DU, o dan Ddeddf Mwyngloddiau a Chwareli (Tomenni) 1969 yn ôl pob tebyg, a pha rôl y gallwch ei chwarae i helpu i sicrhau bod y cyfrifoldebau hynny’n cael eu cyflawni? Oherwydd, fel y dywedodd y dirprwy Weinidog newid hinsawdd ddiwedd y llynedd, mae Llywodraeth y DU yn ymwrthod â’r cyfrifoldebau hynny ar hyn o bryd.
Ac yn olaf, os caf, fe gyfeirioch chi yn eich ateb cyntaf at yr ymgynghoriad a gynhelir gan Gomisiwn y Gyfraith, sy'n rhywbeth rwy'n ei groesawu. A fyddech cystal â rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i ni am y gwaith a wnaed hyd yn hyn a rhoi dyddiad i ni pryd rydych yn disgwyl iddynt gyhoeddi eu hargymhellion, os gwelwch yn dda?
Iawn. Diolch am amryw o bwyntiau pwysig mewn perthynas â thomenni glo, a chredaf fod gan eich etholaeth—eich rhanbarth—a’r etholaeth rwy'n ei chynrychioli nifer fawr o domenni glo, yn amlwg.
Mae'n debyg mai'r man cychwyn, wrth gwrs, yw pan ddaeth deddfwriaeth 1994 i rym—a chan fynd yn ôl, eto, at y ddeddfwriaeth ar ôl Aberfan ym 1969—roedd y ffocws ar fwyngloddiau a thomenni gweithredol yn hytrach na hen domenni. Ac wrth gwrs, mae mater pellach wedi codi mewn perthynas â hynny, sef wrth gwrs, y gwahaniaeth rhwng adfer tomenni a'u gwneud yn ddiogel. Oherwydd mae adfer, mewn sawl achos, wedi bod yn faes y mae Llywodraeth Cymru wedi ymwneud ag ef, ond wrth gwrs, mae mater diogelwch tomenni yn rhywbeth sydd wedi dod i'r amlwg yn fwyaf arbennig o ganlyniad i'r newid yn yr hinsawdd, ac rwy'n credu ei fod yn ymwneud â chyfrifoldebau sy'n dyddio o gyfnod ymhell cyn datganoli. Nawr, fe fyddwch wedi fy nghlywed yn dweud y tro diwethaf i hyn gael ei godi—a chredaf ichi gymryd rhan yn y cwestiynau bryd hynny—fy mod yn credu bod cyfrifoldeb moesol a gwleidyddol fan lleiaf ar Lywodraeth y DU yn hyn o beth.
Mae mater atebolrwydd cyfreithiol yn llawer mwy cymhleth, oherwydd gwendid y fframwaith deddfwriaethol a grëwyd ar ôl 1994 yn y bôn, lle mae gennych domenni sydd bellach mewn perchnogaeth wahanol. Mae rhai ohonynt yn dal ym mherchnogaeth yr Awdurdod Glo, sy'n parhau i fod yn gyfrifol amdanynt. Mae cwestiynau'n codi ynglŷn ag a yw’r cyfrifoldeb yn ymwneud â risgiau diogelwch yn unig neu â risgiau ehangach mwy hirdymor. Tra bod hyn oll yn mynd rhagddo, a thra bod Llywodraeth y DU yn amlwg wedi ymwrthod, yn gwbl gywilyddus yn fy marn i, ag unrhyw gyfrifoldeb dros yr hyn a adawodd y diwydiant glo ar ei ôl yn y cyfnod cyn datganoli, mae’n rhaid inni sicrhau, serch hynny, fod ein cymunedau’n ddiogel. O ganlyniad, mae Comisiwn y Gyfraith wedi bod yn cyflawni ei waith. Credaf fod y gwaith yn agos at fod wedi ei gwblhau. Fe wnaethant gynnal nifer o sesiynau yng Nghymru, a chawsant eu mynychu gan nifer eithaf da o bobl yn ôl yr hyn a ddeallaf. Rwyf wedi cyfarfod â hwy—gyda Chomisiwn y Gyfraith—ac wedi trafod y gwaith sy'n mynd rhagddo, ac wrth gwrs, y bwriad yw deddfu yn y maes hwn. Mae'n rhaid inni ddeddfu er mwyn creu fframwaith.
Bydd y dadleuon ynglŷn â chyllid yn parhau, ond fel Llywodraeth Cymru, ein blaenoriaeth, fel y dywedais, yw diogelwch pobl Cymru a’n cymunedau. Felly, o fewn y gyllideb tair blynedd nesaf, mae £44.4 miliwn ar gael ar gyfer gwaith diogelwch. Rydym hefyd wedi darparu £800,000 i’r Awdurdod Glo mewn perthynas â chynnal arolygiadau o domenni risg uchel, ac mae gwaith yn mynd rhagddo o hyd ar werthuso a dadansoddi pa rai yw’r rheini a'u lleoliad a beth yw’r lefelau diogelwch. Ac rwy’n deall bod y Gweinidog Newid Hinsawdd, yn amlwg, wedi gwneud sylwadau ar hynny yn y gorffennol ac y bydd yn sicr o wneud hynny yn y dyfodol agos.
Fel y gŵyr y Cwnsler Cyffredinol, ar hyn o bryd, nid oes deddfwriaeth ddigonol i awdurdodau lleol sicrhau bod tomenni glo ar dir preifat yn ddiogel. Er bod y Ddeddf bresennol yn rhoi pŵer angenrheidiol i awdurdodau lleol gael mynediad i dir preifat ar unrhyw adeg resymol er mwyn archwilio a chynnal profion diogelwch, mae angen rhoi o leiaf ddau ddiwrnod o rybudd. Os yw perchennog y tir yn gwrthod, ac mae hawl ganddynt i wneud hynny, mae gofyniad i awdurdodau lleol gael gorchymyn llys er mwyn cael mynediad, a gallai hyn gymryd cryn dipyn o amser. Er y byddai'r rhan fwyaf o berchnogion tir, rwy'n siŵr, yn fwy na pharod i gael archwiliadau o hen domenni glo, ceir cyfyngiad deddfwriaethol serch hynny a allai arwain at ganlyniadau difrifol. Gyda hyn mewn golwg, a yw’r Cwnsler Cyffredinol o’r farn fod angen tynhau’r ddeddfwriaeth hon er mwyn lleihau unrhyw berygl i’r cyhoedd yn sgil oedi cyn archwilio hen domenni glo, a pha ystyriaethau y mae wedi’u rhoi i’r posibilrwydd o ddiwygio’r agwedd hon ar y ddeddfwriaeth ar gyfer unrhyw system reoleiddio newydd? Diolch.
Wel, diolch i Joel am ei gwestiwn, ac mae’r pwynt a godwch ar rôl awdurdodau lleol yn gywir, a hefyd ynghylch rhwymedigaethau perchnogion tir preifat a chanddynt domenni glo ar eu heiddo, neu hyd yn oed rannau o domenni glo, weithiau, fel rhai o'r cymhlethdodau. Mae hwn yn fater a nodwyd gan Gomisiwn y Gyfraith, rwy'n credu, ac mae'n rhan o'r gwaith parhaus, ac rwy'n siŵr y bydd yn rhan o rywbeth y mae angen inni fynd i'r afael ag ef mewn perthynas ag unrhyw gyfundrefn reoleiddiol yng nghyswllt tomenni glo. A phan fyddwn wedi cael yr adroddiad llawn a'r argymhellion, ac wedi cael cyfle i ystyried y rheini yn ogystal â sylwedd y ddeddfwriaeth, rwy'n siŵr y bydd hynny'n rhan bwysig o'r gwaith.