5. Datganiadau 90 Eiliad

Part of the debate – Senedd Cymru am 3:30 pm ar 12 Ionawr 2022.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Sioned Williams Sioned Williams Plaid Cymru 3:30, 12 Ionawr 2022

Yr wythnos hon, bu farw'r arlunydd Mike Jones o Bontardawe, sy'n adnabyddus am ei bortreadau o gymunedau gwerinol diwydiannol y de, yn enwedig ei gwm Tawe genedigol. Magwyd Mike yng Nghilmaengwyn a Godre'r Graig, ger Ystalyfera, pan oedd y diwydiannau trwm yn eu bri. Glöwr oedd ei dad, a chadwai ei rieni dafarn hefyd—lle delfrydol i arsylwi ar gymeriadau ei fro. Ac roedd Mike yn un o'r llu o ddoniau creadigol i'w hysbrydoli gan gymunedau diwydiannol Cymraeg cwm Tawe.

Mae'n cael ei gydnabod fel un o'n harlunwyr disgleiriaf am ddarlunio'r cymunedau hynny. Mae ei waith wedi ei arddangos mewn orielau ar draws Cymru a thu hwnt, gan gynnwys yr academi frenhinol yn Llundain, ac yn Efrog Newydd a Seland Newydd. Mae gwaith Mike yn cyfleu bywydau cymeriadau ei filltir sgwar—glowyr, gweithwyr tun a dur, ffermwyr a gwragedd tŷ, yn ogystal â'r pentrefi tai teras lle roedden nhw'n byw.

Llynedd, ac yntau'n dathlu'r 80 oed, cafwyd nifer o arddangosfeydd llwyddiannus dros Gymru. Roedd wrth ei fodd bod Tŷ'r Gwrhyd Pontardawe a Chylch Darllen Cwm Tawe wedi trefnu arddangosfa arbennig o'i waith adeg ei ben-blwydd yn yr hydref. Ces i fy narlun cyntaf yn y casgliad sydd gen i erbyn hyn o'i waith fel anrheg priodas, ac ar ôl symud i gwm Tawe yn fuan wedyn, ces i'r fraint o ddod i adnabod Mike Jones ac ymweld â'i stiwdio ryfeddol yn ei gartref ym Mhontardawe. Roedd e hefyd yn gefnogwr hael i achosion lleol, gan gyfrannu darluniau gwerthfawr i helpu codi arian i'r ysgolion Cymraeg lleol, eisteddfodau a Phlaid Cymru.

Cydymdeimlwn â'i wraig, Eryl, a'r teulu i gyd yn eu colled. Mae cwm Tawe a Chymru gyfan wedi colli dawn arbennig a Chymro angerddol.