6. Dadl ar Adroddiad y Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol: Dyled a'r pandemig

Part of the debate – Senedd Cymru am 4:06 pm ar 12 Ionawr 2022.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Heledd Fychan Heledd Fychan Plaid Cymru 4:06, 12 Ionawr 2022

Yn anffodus, yn fy marn i a fy mhlaid o leiaf, San Steffan sydd yn parhau yn bennaf gyfrifol o ran y mesurau all fynd i’r afael o ddifrif gyda dyled a methdaliad, ynghyd â chostau byw cynyddol. Ac mae yn fy mhryderu yn fawr fod gennym Brif Weinidog a Llywodraeth Geidwadol yn San Steffan sydd dro ar ôl tro wedi dangos nad ydynt yn hidio dim am y bobl mwyaf bregus yng Nghymru, drwy gyflwyno mesurau creulon sydd yn cael effaith anghymesur arnynt, megis drwy gynyddu’r cyfraniadau yswiriant gwladol a thorri’r taliadau credyd cynhwysol.

Ond tra’n gwneud popeth o fewn ein gallu i wthio am ddatganoli lles a threthi’n llawn i Gymru, rhaid i Lywodraeth Cymru wneud popeth o fewn ei grym presennol i unioni’n broblem mae dyledion yn ei greu i aelwydydd ledled Cymru. Ffordd allweddol o wneud hyn fydd drwy gefnogi pobl gyda dyledion i sefydliadau gwasanaethau cyhoeddus sydd yn ddatganoledig, ac mi oeddwn i'n falch o weld Jenny Rathbone yn sôn am y dreth gyngor yn benodol. Mae'r ffaith bod hon yn un o’r prif ddyledion y cysylltodd pobl gyda StepChange a hefyd Cyngor ar Bopeth ynglŷn â nhw yn ystod y pandemig yn golygu bod yn rhaid inni fynd i'r afael â hyn. Fe nododd Jenny Rathbone y ffigur anhygoel o frawychus hwnnw, sef y ffaith bod dyled treth gyngor wedi codi i £157 miliwn yn 2020-21, sef cynnydd o £46.4 miliwn o'i gymharu â’r flwyddyn flaenorol, y cynnydd unigol mwyaf ers dros 20 mlynedd.

Ond ni ddylai ein cyrff cyhoeddus fod yn creu mwy o ddyled i bobl, a gobeithio heddiw y gallwn fod yn gytûn y dylem fod yn helpu i atal dyled rhag digwydd yn y lle cyntaf, neu rhag dod yn anhylaw. Mae yna bethau y gall Llywodraeth Cymru weithredu yn hyn o beth, a sicrhau bod ein cynghorau ni'n mabwysiadu polisïau blaengar i reoli dyledion. Gallai polisi o’r fath gynnwys sicrhau bod cynghorau’n nodi ac yn cynorthwyo aelwydydd sy’n wynebu problemau ariannol yn effeithiol, yn ogystal â chael gwared ar rai o arferion creulon beilïaid, ac atal ffioedd beilïaid a chyfreithiol rhag cronni a chynyddu i’r rhai sy'n methu â'u talu. Canfu Cyngor ar Bopeth fod nifer o’u cleientiaid wedi cael anhawster i gytuno ar gynlluniau ad-dalu treth gyngor fforddiadwy, a bod rhai wedi bod yn destun ymddygiad ymosodol a bychanus gan feilïaid, er gwaethaf methu â gwneud ad-daliadau neu ddangos arwyddion o fregusrwydd. Nid yw hyn yn iawn.

Hoffwn hefyd bwysleisio yr effaith mae hyn yn ei gael ar unigolion, rhywbeth na ellir ei or-bwysleisio, o ran eu hiechyd corfforol a meddyliol. Mae byw mewn tŷ heb wres oherwydd tlodi tanwydd yn medru creu neu waethygu llu o gyflyrau iechyd difrifol megis trawiad ar y galon, strôc, broncitis ac asthma, tra gall ansicrwydd o ran bwyd arwain at danfaethiad sy'n gysylltiedig â phroblemau iechyd eraill. Yn anorfod felly, mae dyled, ansicrwydd ariannol a thlodi hefyd yn aml yn creu iechyd meddwl gwael, gan arwain i bobl deimlo bod eu bywydau yn gyfan gwbl allan o reolaeth, a sbarduno teimladau o anobaith, embaras, euogrwydd, iselder a phryder. Mae'r stigma cymdeithasol sy’n gysylltiedig â dyled hefyd yn arwain unigolion i deimlo wedi eu hynysu, gan gadw eu problemau iddyn nhw eu hunain, gan olygu bod y cymorth maent yn ei dderbyn yn annigonol.

Mae cyfrifoldeb arnom oll felly fel Aelodau o’r Senedd hon i wneud popeth o fewn ein gallu i gefnogi ein etholwyr, a dyna pam heddiw fy mod yn falch o’r cyfle i siarad yn y ddadl a chefnogi adroddiad y pwyllgor. Mae angen gweithredu a chefnogaeth frys, a gobeithiaf yn fawr y gallwn yrru neges glir i bawb sy’n dioddef gyda dyledion heddiw fod cefnogaeth ar gael, ac mi wnawn ni bopeth o fewn ein gallu yma yng Nghymru i wella eu sefyllfa.