Part of the debate – Senedd Cymru am 4:04 pm ar 12 Ionawr 2022.
Hoffwn ddiolch i'r pwyllgor am gyflwyno’r ddadl hon heddiw, ac am eu gwaith ar yr adroddiad pwysig hwn. Diolch hefyd i bawb gyfrannodd at ei ymchwiliad, sydd wedi creu darlun torcalonnus o’r caledi mae gymaint o bobl yn ein cymunedau wedi ei wynebu yn ystod y pandemig, ac maent yn parhau i'w wynebu. Mae’n anodd dirnad maint y broblem, a dwi’n falch o weld argymhellion o ran beth yn ymarferol y gallwn ei wneud fel Senedd yn y tymor byr a’r tymor hir i sicrhau gwell cefnogaeth i bobl sydd yn wynebu caledi economaidd, gan olygu bod yn rhaid iddynt fynd i ddyled er mwyn medru fforddio hanfodion megis bwyd, gwres a dillad, pethau y mae gennym oll hawl sylfaenol iddynt.