6. Dadl ar Adroddiad y Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol: Dyled a'r pandemig

Part of the debate – Senedd Cymru am 4:00 pm ar 12 Ionawr 2022.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Sarah Murphy Sarah Murphy Labour 4:00, 12 Ionawr 2022

(Cyfieithwyd)

Fel aelod o'r Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol, rwy'n falch mai hwn oedd ein hymchwiliad cyntaf, a hoffwn ddiolch i fy nghyd-aelod o'r pwyllgor, Sioned Williams, ynghyd ag ymchwil Sefydliad Bevan, am awgrymu hyn, a fy nghyd-aelodau o'r pwyllgor, y clercod a'r tîm cyfan sydd wedi bod yn gweithio y tu ôl i'r llenni i'n helpu. 

Mae mynd i'r afael â dyled aelwydydd yn gwbl hanfodol ac amserol, ac mae'n aml yn ymwneud â phobl sy'n dioddef yn dawel ar draws ein cymunedau yng Nghymru am amryw o resymau. Yn fy etholaeth i ym Mhen-y-bont ar Ogwr, helpodd gwasanaethau Cyngor ar Bopeth bron i 1,000 o bobl â phroblemau dyled dros y flwyddyn ddiwethaf, ac maent wedi gweld cynnydd yn y galw dros y misoedd diwethaf. Ym Mhen-y-bont ar Ogwr yn unig, cyfrifodd Cyngor ar Bopeth gynnydd o 74 y cant yn nifer y bobl sy'n ceisio cymorth ar gyfer problemau dyled, o'i gymharu â ffigurau cyn y pandemig. Dywedodd Shelter Cymru wrthyf fod trigolion agored i niwed ym Mhen-y-bont ar Ogwr yn talu bron i £3,000 y mis am lety dros dro. Mae rhent rhai pobl yn fy etholaeth mor uchel fel eu bod yn cael eu gorfodi i ddefnyddio banciau bwyd i fwydo eu hunain a'u teuluoedd ac maent yn mynd i fwy o ddyled. 

Ni ellir gwadu bod pandemig COVID-19 wedi gwaethygu'r risg hon o ddyled i aelwydydd sy'n agored i niwed. Deuthum yn ymwybodol am y tro cyntaf o'r problemau gyda hyn yn fy nghymuned o fewn ychydig ddyddiau i ddechrau'r cyfyngiadau symud cyntaf. Cefais alwad gan gynghorydd bwrdeistref sirol Pen-y-bont ar Ogwr, Jane Gebbie, a esboniodd i mi fod pobl yn eu cartrefi yn ei ward yn y Pîl a Mynydd Cynffig na allent fynd i'r siop leol i ychwanegu credyd at eu cerdyn ynni neu danwydd, felly roeddent yn eistedd yn eu cartrefi yn rhewi. A'r ateb a roesant i hyn—yr unig beth y gallent ei wneud yn y dyddiau cyntaf hynny—oedd ffonio'r cwmnïau ynni ac erfyn arnynt ac egluro ei bod yn argyfwng a gofyn iddynt anfon cardiau gyda chredyd arnynt at bobl a meddwl sut i dalu amdano wedyn, a dyna a wnaethant. Ni chafodd y gwirfoddolwyr yng nghanolfan gymunedol Talbot ym Mynydd Cynffig lawer o amser i feddwl am yr ateb hwnnw.

A chyda'r cynnydd disgwyliedig mewn prisiau ynni, y toriad i gredyd cynhwysol a'r cynnydd sydd ar ddod mewn yswiriant gwladol, mae 2022 yn fygythiad mawr i'r aelwydydd mwyaf agored i niwed, fel y clywsom gan fy nghyd-aelodau o'r pwyllgor heddiw. Gwn fod Llywodraeth Cymru yn parhau i wneud sylwadau cryf a dwys i Lywodraeth y DU ar ran y rhai sy'n dioddef yn ein cymunedau, ond eto, dro ar ôl tro, gwelwn benderfyniadau'n cael eu gwneud yn San Steffan sy'n cosbi'r rhai mwyaf agored i niwed ac sy'n gwaethygu pethau fel tanwydd, dyled aelwydydd a thlodi. Fel y dywedwyd heddiw, mae melinau trafod wedi galw 2022 yn flwyddyn y wasgfa, ac i lawer o bobl dyna realiti'r sefyllfa y maent ynddi. O rieni sengl i aelwydydd incwm isel, y rheini sydd ag anableddau a rhentwyr, faint yn fwy o bwysau a gaiff ei roi arnynt cyn iddynt fethu dal eu pen uwch y dŵr? Mae pob £1 a dynnir yn San Steffan, pob cynnydd ym mhrisiau bwyd, yn wthiad arall i ddyled. Mae'n rhaid i Lywodraeth Cymru dderbyn pob un o'r 12 argymhelliad gan y pwyllgor os ydym am ddiogelu cynifer o aelwydydd sy'n agored i niwed dros y misoedd nesaf. Mae'r gronfa cymorth dewisol a'r cynllun cymorth tanwydd gaeaf untro sy'n darparu taliad o £100 i aelwydydd cymwys yn enghreifftiau o'r ffordd y mae'r rhai sy'n llywodraethu yng Nghymru yn diogelu'r aelwydydd mwyaf agored i niwed yn ein cymunedau.

Roedd hefyd yn hanfodol clywed tystiolaeth gan undebau credyd yn ystod ein hymchwiliad. Rwy'n aelod balch a hirsefydlog o Undeb Credyd Achubwyr Bywyd Pen-y-bont ar Ogwr, sydd â mwy na 5,000 o aelodau. Gyda'n gilydd, rydym yn aelodau o grŵp byd-eang o gwmnïau cydweithredol ariannol sydd wedi ymrwymo i wella lles ariannol miliynau o bobl. Nid oes unrhyw gyfranddalwyr trydydd parti. Mae undebau credyd hefyd yn trosglwyddo unrhyw elw dros ben a wneir yn uniongyrchol yn ôl i ni a'n cymuned, ac mae'r staff yn ariannol gefnogol. Nid ydynt yn edrych ar rywun fel sgôr credyd. Dyna pam rwy'n arbennig o falch fod y Gweinidog wedi derbyn ac ymateb i argymhelliad 12, i hyrwyddo ffynonellau credyd fforddiadwy ymhlith y rhai sydd mewn mwy o berygl o ddyled dros y chwe mis nesaf. A pheth newyddion cadarnhaol heddiw yw y bydd canolfan gymunedol Talbot ym Mynydd Cynffig y soniais amdani'n gynharach ac a wnaeth gymaint i helpu pobl a oedd yn mynd i ddyled yn ystod pandemig COVID yn agor cangen undeb credyd yn ystod yr wythnosau nesaf, a bydd hyn yn arbed arian i bobl yn fy nghymuned ac yn ein grymuso ac yn cadw'r arian i gylchredeg o fewn ein cymuned er budd y bobl. 

Hoffwn gloi drwy ddiolch i bawb a roddodd dystiolaeth i ni yn yr ymchwiliad hwn. Lleisiau'r bobl sy'n ei chael hi'n anodd yw llawer ohoni. Yn aml, gall dyled arwain at deimladau o gywilydd ofnadwy a gwadu, ac rydych yn gwrando ar bobl sy'n aml yn gweithio o fewn systemau sy'n bwerus iawn a chyda biwrocratiaeth a all fod yn anhygoel o araf. Mae eich ymroddiad i helpu pobl yn gwneud gwahaniaeth gwirioneddol ym mywydau pobl.