Part of the debate – Senedd Cymru am 4:15 pm ar 12 Ionawr 2022.
A diolch, Sarah Murphy, am gydnabod y rôl a'r baich gwaith cynyddol y mae Cyngor ar Bopeth a Shelter wedi'i brofi ym Mhen-y-bont ar Ogwr. Caiff hynny ei adlewyrchu ar draws pob etholaeth yma heddiw ledled Cymru. Ond mae'n bwysig gweld, ac fel y dywedodd Sioned Williams, fod hyn yn gwaethygu anghydraddoldebau rydym wedi'u gweld o ganlyniad i'r pandemig. Ac mae'n dda gweld cangen o undeb credyd yn agor ym Mynydd Cynffig.
Gwyddom fod llawer o bobl heb fod yn hawlio'r hyn y mae ganddynt hawl iddo. Dyna pam y mae ein hail ymgyrch genedlaethol 'Hawliwch yr hyn sy'n ddyledus i chi' a lansiwyd yn ddiweddar i gynyddu'r nifer sy'n manteisio ar fudd-daliadau lles yn bwysig. Llwyddodd ein hymgyrch gyntaf i helpu pobl i hawlio dros £650,000 o incwm ychwanegol. Ac rwyf eisiau adeiladu ar yr ymgyrch gyfathrebu ragorol. Diolch ichi am ei chydnabod, Jenny Rathbone, a'r ffordd wahanol honno o ledaenu'r neges: cyfryngau cymdeithasol. Mae'n bwysig iawn, fel y dywedodd Jane Dodds, er mwyn cyrraedd y genhedlaeth iau, y genhedlaeth simsan sydd mewn cymaint o berygl, ond hefyd er mwyn lleihau'r stigma a gysylltwyd i'r fath raddau â dyled ac annog pobl i geisio cyngor ar eu hawliau—dyna'r pwynt allweddol; eu hawliau hwy ydynt—cyn iddynt waethygu a throi'n argyfwng.
A gwn fod dyled sy'n ddyledus i gredydwyr y sector cyhoeddus, gan gynnwys awdurdodau lleol, gyda'r dreth gyngor, yn bryder cynyddol. Heledd, fe sonioch chi am hynny heddiw, ac rwy'n falch fod gwaith ar y gweill i adolygu protocol y dreth gyngor yng Nghymru. Mae yno yn ein hymateb i'ch argymhelliad. Bydd yn cynnwys archwilio pa mor llwyddiannus y bu'r protocol yn cefnogi dyledwyr sy'n agored i niwed, ac mae'n dda iawn eich bod wedi cynnal yr ymchwiliad i edrych ar hyn. Hynny yw, yn ystod 2021, darparwyd £22.6 miliwn i dalu am rywfaint o'r diffyg yn incwm y dreth gyngor oherwydd y cyfraddau casglu is hynny, ac rydym yn cynorthwyo gyda cholledion a hefyd yn helpu i ariannu'r galw ychwanegol a welwn am ostyngiad yn y dreth gyngor o ganlyniad i COVID.
Felly, mae'n bwysig nad ydym yn bychanu'r heriau ariannol sy'n wynebu aelwydydd oherwydd costau cynyddol eu biliau ynni, ac mae mynd i'r afael â chostau ynni drwy fesurau fel y cap ar brisiau y tu allan i gymhwysedd datganoledig, ond rydym yn codi'r materion hyn gyda Llywodraeth y DU. Ysgrifennodd Julie James a minnau at yr Ysgrifennydd Gwladol, Kwasi Kwarteng, heddiw; rwy'n rhannu'r llythyr hwnnw fel y gallwch weld beth rydym wedi bod yn galw amdano. Cyhoeddwyd ein cynllun i fynd i'r afael â thlodi tanwydd ym mis Mawrth 2021 ac mae 10 cam gweithredu tymor byr i'w cyflawni erbyn mis Mawrth 2023. Rydym yn gwneud cynnydd ar bob un o'r rhain. Ac wrth gwrs, y rhaglen Cartrefi Clyd, ac rwyf eisoes wedi sôn am 67,000 o aelwydydd yn elwa o fesurau effeithlonrwydd ynni cartref. Felly, rwy'n croesawu'r ymchwiliad i dlodi tanwydd—y ffocws uniongyrchol hwnnw—a'r rhaglen Cartrefi Clyd y byddwch yn ei gynnal cyn bo hir. A rhannwch unrhyw themâu sy'n dod i'r amlwg gyda ni wrth i chi symud drwy'r ymchwiliad hwnnw os gwelwch yn dda.
Mae credyd llog uchel yn gyfrannwr allweddol arall at broblemau dyled, fel rydych wedi nodi, ac eto mae llawer o bobl yn credu nad oes ganddynt ddewis arall heblaw benthyca gan fenthyciwr cost uchel. Felly, mae'n bwysig ein bod yn annog pobl i gael mynediad at undebau credyd, a dyna pam fy mod wedi sicrhau bod £60,000 ar gael i undebau credyd hyrwyddo eu gwasanaethau ledled Cymru y gaeaf hwn.
Yn olaf, mae anghydraddoldebau yn ein cymdeithas wedi'u gwaethygu gan y pandemig, wedi'u dwysáu gan ddiffyg gweithredu Llywodraeth y DU i fynd i'r afael ag argyfwng costau byw real a difrifol iawn. Bydd y pwysau ariannol sy'n wynebu aelwydydd ledled Cymru yn dwysáu yn awr, oherwydd effaith gyfunol penderfyniadau polisi Llywodraeth y DU i roi diwedd ar yr ychwanegiad credyd cynhwysol a'r cynnydd sylweddol mewn costau byw. Ac oes, Altaf Hussain, mae yna gysylltiad clir rhwng anghydraddoldebau iechyd a dyled. Mae costau bwyd a thanwydd yn saethu i fyny ac mae Aelodau'r Senedd wedi gwneud cyfraniadau pwerus heddiw.
Felly, i gloi, diolch i'r pwyllgor am weld yr angen i gynnal yr ymchwiliad amserol hwn. Edrychaf ymlaen at chwarae fy rhan i sicrhau bod argymhellion yr adroddiad yn cael eu gweithredu, gan y byddant yn helpu i lunio a gwella polisi, ac yn helpu i atal dyled yn ogystal â chefnogi pobl sydd mewn dyled. Mae hwn yn fater allweddol o gydraddoldeb a chyfiawnder cymdeithasol i Lywodraeth Cymru ac i'r Senedd hon a'ch pwyllgor, a bydd eich adroddiad yn helpu Cymru i ymateb yn effeithiol ac yn gadarn i fynd i'r afael â'r anghydraddoldebau incwm dwfn hyn yng Nghymru. Diolch.