Part of the debate – Senedd Cymru am 3:47 pm ar 12 Ionawr 2022.
Fel aelod o'r Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol, mae'n bleser gennyf gyfrannu at y ddadl heddiw ar ein hadroddiad, 'Dyled a'r pandemig'. Mae'r pandemig wedi gadael ei ôl mewn gwahanol ffyrdd. I lawer o bobl, fe wnaeth daro'n ariannol—roeddent yn wynebu ansicrwydd ynglŷn â'u swyddi, llai o incwm, biliau uwch. Mae wedi dwysáu'r problemau ariannol y mae teuluoedd wedi bod yn ymrafael â hwy.
Credaf fod yr ymchwiliad hwn a'n hadroddiad yn dyst i frwdfrydedd yr holl Aelodau a oedd am ddeall mwy am gymhlethdodau'r ddyled a brofir gan bobl yng Nghymru ac effaith y pandemig ar gyllid unigolion ac aelwydydd. Hoffwn ddiolch ar y cychwyn i'n Cadeirydd, Jenny Rathbone, sydd wedi arwain y pwyllgor yn fedrus drwy'r ymchwiliad hwn, a'r Gweinidog am dderbyn yn llawn neu mewn egwyddor yr argymhellion y gwnaethom gytuno arnynt.
Rwyf am ganolbwyntio ar ymateb y Llywodraeth y prynhawn yma, oherwydd fel y dywedodd y Gweinidog yn gywir yn ei llythyr at y pwyllgor, mae gwir angen mynd i'r afael â'r baich dyledion cynyddol sy'n wynebu rhai o'n cartrefi mwyaf agored i niwed yng Nghymru. Rwyf am inni gofio hefyd y gall yr her o reoli dyled a cheisio datrys eu problemau fod yn fater unig i lawer o bobl. Mae perygl sylweddol y bydd y rhai mewn cymdeithas sydd â llai i ddechrau yn gweld effaith anghymesur ar eu hiechyd ariannol oherwydd y pandemig, ac mae hyn wedi'i ddogfennu'n dda mewn astudiaethau eraill y tu hwnt i'r ymchwiliad hwn—[Anghlywadwy.]—a phryderon cynyddol, straen, iselder a salwch meddwl sy'n para'n hirach.
Yn ôl yr elusen salwch meddwl Platfform, fodd bynnag, nid yw'r pryderon a'r gofidiau hyn wedi cael eu profi yn yr un ffordd, a cheir tystiolaeth dda fod y pandemig a'n hymatebion iddo wedi ehangu'r anghydraddoldebau iechyd hyn. Maent hefyd yn nodi y gwyddys bod iechyd meddwl yn gysylltiedig ag anghydraddoldebau ehangach sy'n gyffredin yn ein cymdeithas. Mae cysylltiad rhwng iechyd ariannol ac iechyd meddwl, ac mae effaith y pandemig ar iechyd ariannol y rhai a oedd eisoes yn ei chael hi'n anodd yn mynd i ddarparu'r sail ar gyfer amrywiaeth o heriau parhaus y mae angen i'r Llywodraeth hon eu goresgyn.
Roedd y dystiolaeth i'r pwyllgor yn gynhwysfawr. Mae'r argymhellion yn seiliedig ar y dystiolaeth honno a'r trafodaethau a ddilynodd. Ymddengys nad oes llawer o anghytundeb rhwng y pwyllgor a'r Llywodraeth ynghylch difrifoldeb yr heriau y mae llawer o bobl yn eu hwynebu yng Nghymru, er fy mod am weld y gwaith y mae'r Llywodraeth wedi ymrwymo iddo'n digwydd yn gyflymach.
Rwyf am grybwyll tri phwynt i gefnogi adroddiad y pwyllgor y prynhawn yma. Yn gyntaf, pwysigrwydd data. Heb wybodaeth, ni fydd gennym fawr o allu i effeithio ar gyfleoedd bywyd y rhai sydd mewn dyled. Ni fydd diben cynllunio heb ddeall y darlun cyflawn, a dyna pam rwy'n croesawu'r ffaith bod y Llywodraeth wedi derbyn barn y pwyllgor y dylai eu huned data cydraddoldeb weithio gyda sefydliadau yn y sector i gasglu a chyhoeddi data blynyddol ar ddyledion yng Nghymru, wedi'i rannu yn ôl nodweddion gwarchodedig. Dylai fy mhryderon ynghylch anghydraddoldebau iechyd, yn enwedig salwch meddwl, gael eu cynnwys yn y gwaith a wneir, fel ein bod yn deall canlyniadau'r sefyllfa mewn perthynas â dyled yn llawn y tu hwnt i'r ariannol.
Yn ail, effaith anghymesur dyled a'r pandemig ar wahanol grwpiau. Yn ein hadroddiad rydym yn amlinellu faint o'r dystiolaeth a gyfeiriai at yr effaith wahanol ar wahanol grwpiau. Darparodd sefydliadau fel StepChange, Cyngor ar Bopeth a Sefydliad Bevan dystiolaeth fod rhai grwpiau yn fwy tebygol o brofi dyled nag eraill, megis pobl sy'n ddi-waith neu mewn gwaith ansicr, pobl y mae'r pandemig wedi effeithio ar eu gwaith, rhieni sengl, rhieni â phlant ifanc, rhentwyr, pobl o rai cymunedau lleiafrifol ethnig, a phobl ag anableddau. Yn ogystal, tynnodd Sefydliad Bevan sylw at y ffaith bod aelwydydd ag incwm blynyddol o dan £40,000 y flwyddyn yn llawer mwy tebygol o fod ag ôl-ddyledion nag aelwydydd incwm uwch. At hynny, canfuwyd bod pobl sy'n byw mewn tai rhent cymdeithasol yn fwy tebygol o fod ag ôl-ddyledion ar bob bil mawr nag unrhyw grŵp arall. Mae'r dystiolaeth hon yn dangos pa mor gymhleth yw'r darlun a sut na chaiff ei ddatrys yn gyflym.
Yn drydydd, mae'n bwysig ein bod yn dwyn Llywodraeth Cymru i gyfrif ac yn dychwelyd at y pwnc hwn cyn gynted ag y gallwn. Rwy'n sylweddoli bod yna bethau sydd y tu hwnt i'n rheolaeth, ond mae pobl yn disgwyl i Weinidogion Cymru weithredu. Wrth wneud hynny, rwy'n disgwyl y dylai adrannau eraill o fewn y Llywodraeth fod yn rhan o'r agenda hon wrth inni hefyd geisio darparu economi gryfach y dylai pobl allu elwa ohoni.