Part of the debate – Senedd Cymru am 4:27 pm ar 12 Ionawr 2022.
Mae anghydraddoldebau iechyd yn cynnwys llawer o ffactorau gwahanol. Rydym yn sôn am wahaniaethau mewn disgwyliad oes—disgwyliad oes iach—a gwahaniaeth o ran mynediad at ofal iechyd. Rydym yn sôn am y gwahanol lefelau yn nifer yr achosion o gyflyrau iechyd hirdymor, corfforol a meddyliol, a gwahaniaethau rhwng pwy—wel, gallai ddilyn tuedd economaidd-gymdeithasol lle mae tlodi'n gyrru cynifer o broblemau iechyd; gallai fod yn ddaearyddol hyd yn oed a gwahaniaethau daearyddol o ran mynediad at ofal, gan gynnwys rhwng ardaloedd gwledig a threfol. Gall profiadau amrywio yn ôl gwahanol gefndiroedd ethnig fel y gwelwn yn aml, ac yn ôl gallu corfforol. Nid ffenomen unffurf yw hon. Ac mae'n ymwneud â'r ddeddf gofal gwrthgyfartal, onid yw, a ddisgrifiwyd am y tro cyntaf gan Dr Julian Tudor Hart ychydig dros 50 mlynedd yn ôl, sy'n golygu mai'r rhai sydd fwyaf o angen gofal sydd leiaf tebygol o allu cael mynediad ato.
Mae maint yr her, cymhlethdod y ffordd rydym yn ymdrin â'r holl anghydraddoldebau hyn yn enfawr—yn frawychus felly—ond ni all hynny ganiatáu inni gilio rhag mynd i'r afael â'r heriau hynny. Yn wir, rhaid inni edrych ar yr heriau hynny a allai wneud mwy i'n sbarduno i geisio mynd i'r afael â'r sefyllfa. Mae ein gwasanaethau iechyd a gofal, fe wyddom, ar hyn o bryd, yn wynebu heriau enfawr. Mae lefelau afiechydon, sydd wedi'u gwaethygu, wrth gwrs, gan y pandemig presennol, yn golygu bod ein gwasanaethau bregus dan bwysau eithafol. Ac ni allwn ddweud, 'Wel, dyma'r sefyllfa rydym ynddi; fel hyn y mae hi. Mae pobl yn mynd yn sâl ac mae ein gwasanaethau'n ymdrin â hynny.' Mae'n bosibl fod gennym lawer iawn o reolaeth dros y sefyllfa rydym ynddi. Fel y dywedodd Sefydliad Iechyd y Byd mewn adroddiad 30 mlynedd yn ôl, mae'r anghydraddoldebau hyn wedi cael eu cynhyrchu gan gymdeithas, ac felly mae modd eu haddasu. Mae hyn yn golygu gwthio'r ataliol i'r eithaf, os mynnwch—gwneud mwy na gweithio gydag unigolion neu deuluoedd i geisio hyrwyddo iechyd da a helpu i gyfeirio pobl rhag cynifer o risgiau â phosibl, ond yn hytrach, mabwysiadu agenda ataliol systemig, gan edrych ar yr holl bethau sy'n golygu nad ydym yn genedl iach, ac yn bwysig, yn hollbwysig, nad yw baich yr afiechyd yn cael ei rannu'n gyfartal rhyngom.